Sbardunwch ddatblygiad eich busnes mewn 3 mis
Dyluniwch, datblygwch a chynigiwch eich MVP (Cynnyrch Sylfaenol Hyfyw) i ennill contract gwaith gyda Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru... mewn 3 mis. Ymunwch â’n rhaglen sbarduno arloesi rheilffyrdd ac uwchraddiwch eich busnes.
Datganiadau heriau a chyfleoedd 2025 sydd i ddod cyn bo hir |
Sut gallwn ni helpu eich busnes newydd |
|||
Rydyn ni’n sbarduno busnesau cychwynnol gyda’n rhaglen sbarduno 12 wythnos, mewn partneriaeth â Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, drwy gynnal gweithdai arloesi, mentora a hyfforddiant, sy’n rhoi sylw i'r canlynol: | |||
Ymchwil marchnata |
Gwybodaeth gan |
Dylunio cynigion gwerth |
Datblygu prototeipiau |
Dilysu |
Datblygu cynnyrch |
Diwrnod arddangos |
Ein carfanau blaenorol |
|||
Dysgu mwy am ein alumni a'i llwyddiannau. |
|||
Busnesau newydd a ymgeisiodd ar gyfer ein carfanau |
Busnesau newydd ar y rhestr fer |
Busnesau newydd rydym wedi gweithio gyda nhw |
Busnesau newydd a gafodd adolygiad o’u hachos busnes |
Eisiau dilyn yn ôl eu traed? |
Ein diwrnod arddangos diweddaraf |
Gwyliwch y fideo o’n diwrnod arddangos diweddaraf |
Pam cymryd rhan? |
Os oes gennych gynnyrch neu wasanaeth a allai fod o fudd i brosesau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, neu a allai wella profiad y teithwyr, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. |
Bydd y cyfranogwyr yn cydweithio gyda mentoriaid ymhob rhan o’r sector arloesi a Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Bydd yr arbenigedd yn helpu eich busnes cychwynnol i fireinio ac i ddatblygu cynnyrch sy’n addas ar gyfer y diwydiant rheilffyrdd, ac yna i gyflwyno syniad i’r swyddogion gwneud penderfyniadau yn Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. |
Bydd contract gwaith yn cael ei roi i syniadau llwyddiannus, i ariannu gweddill y prosiect ac i greu cynnyrch neu wasanaeth sy’n cael effaith wirioneddol ar Reilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. |
Manteision ein rhaglen |
|
Mentora gan arbenigwyr o'r diwydiant |
Cydweithio â TrC a phartneriaid |
Arweiniad, mentora a hyfforddiant gan arbenigwyr cyflawni arloesedd a’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau yn y diwydiant rheilffyrdd. | Cael gafael ar ddata byw, adborth a phrofion cwsmeriaid, rhanddeiliaid Rheilffyrdd TrC a phartneriaid cyllido. |
Twf busnes |
Cydweithio |
Cyfle i ennill contract gwaith a chael cyllid i lansio eich cynnyrch ar draws Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. | Gweithiwch gyda ni o’ch cartref, gyda’n gweithdai wythnosol o bell, gan eich hyfforddi chi o’r syniad i'r cynnig. |
Ein partneriaid |
Pam gweithio gyda TrC? |
Byddwch yn rhan o ddiwydiant sy’n tyfu ac sy’n werth biliynau o bunnoedd, gyda chyfoeth o gyfleoedd buddsoddi ar gyfer prosiectau arloesol. Datblygwch dechnoleg ac atebion arloesol a fydd yn gwella profiad y teithwyr i filiynau o bobl ac yn sicrhau gwelliant go iawn a pharhaol ledled Cymru. |
Arddangos eich cynnyrch a’ch busnes i rwydwaith ehangach o bartneriaid a rhanddeiliaid sy'n gysylltiedig â Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Bod yn rhan o ddiwydiant a fydd yn rhoi cyfleoedd i’ch busnes newydd fod yn arloesol, i dyfu ac i fod yn llwyddiannus. |
Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol |