
Beth yw rhaglen sbarduno Lab gan Trafnidiaeth Cyrmu?
Rhaglen sbarduno 10 wythnos i fynd â’ch busnes newydd o’r syniad i’r lansiad, a’i ddefnyddio ar draws Trafnidiaeth Cymru.
Rydyn ni'n cynnal rhaglen sbarduno sy’n para 10 wythnos ac sy’n cynnwys gweithdai, sesiynau 1 i 1 gyda rhanddeiliaid, sesiynau mentora, cyfleoedd rhwydweithio gyda gweithredwyr rheilffyrdd allweddol a mynediad at ystod eang o adnoddau a gwybodaeth o bob rhan o’r sector rheilffyrdd a thrafnidiaeth. |
Ar ddiwedd y 10 wythnos, bydd pob busnes sy’n rhan o’r rhaglen yn cyflwyno ei MVP (Cynnyrch Ymarferol Lleiaf) ar y diwrnod arddangos, gyda’r nod o sicrhau contract gyda Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Yna, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael sicrwydd ariannol a mynediad at wybodaeth angenrheidiol er mwyn parhau i ddatblygu eu cynnyrch neu eu gwasanaeth i’w integreiddio ar draws Trafnidiaeth Cymru. |
Datganiad Her Media Cymru a Trafnidiaeth Cymru 2025
Heriau Penodol i'r Cyfryngau fel yr amlinellwyd gan Media Cymru (Rhaid eu bod wedi'i lleoli yng Nghymru ar gyfer y cynnig hwn): • Cefnogi twristiaeth drwy'r rhwydwaith trafnidiaeth. • Cynyddu'r defnydd o Gymraeg ar draws y rhwydwaith. • Creu profiadau cyfrwng cymysg i wella teithiau cymudwyr. • Hyrwyddo'r brand a/neu gynnig gan ddefnyddio dulliau newydd o gyfryngau • Denu pobl i ddefnyddio'r rhwydwaith gan ddefnyddio cyfryngau newydd Heriau Trafnidiaeth Penodol fel yr amlinellwyd gan Trafnidiaeth Cymru: • Cynhyrchu Refeniw ac Effeithlonrwydd Cost o Dylunio atebion cost-effeithiol o Defnyddio AI i wella gweithrediadau o Annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy o Datblygu system drafnidiaeth integredig a chynaliadwy o Gwella perfformiad trenau a bysiau o Gwella diogelwch teithwyr a staff o Cryfhau cydnerthedd hinsawdd |

Ar gyfer pwy? |
||
Rydyn ni eisiau i bob ymgeisydd fanteisio i’r eithaf ar y rhaglen fel y gall ei fusnes dyfu ac er mwyn i Trafnidiaeth Cymru barhau i wella a darparu’r lefelau gorau posibl o brofiad i gwsmeriaid a theithwyr. | ||
Mae Lab gan Trafnidiaeth Cyrmu ar gyfer unrhyw un o'r canlynol sydd â chynnyrch neu syniadau a allai fod yn fanteisiol i'r sector rheilffyrdd; |
||
![]() |
![]() |
![]() |
Entrepreneuriaid |
Busnesau cychwynnol |
Busnesau mawr |
|
Ydw i’n gymwys ar gyfer y rhaglen? |
Os oes unrhyw un o’r canlynol (nid pob un o reidrwydd) yn berthnasol i chi neu eich busnes, rydyn ni'n meddwl y byddech chi’n ymgeisydd gwych ar gyfer y rhaglen: |
Rydych chi’n fusnes cychwynnol neu'n entrepreneur ym maes technoleg, sydd wrthi’n gweithio ar syniad (cynnyrch neu wasanaeth) |
Rydych chi'n fusnes mawr yn y sector trafnidiaeth/rheilffyrdd |
Mae’r meysydd o ddiddordeb yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i; systemau archebu, masnachu ar drenau, hysbysebu, gwasanaeth cwsmeriaid, profiad cwsmer o un pen i’r llall, CRM a theyrngarwch cwsmeriaid, arloesi mewn seilwaith neu effeithlonrwydd gweithredol. |
Mae gennych gynnyrch neu wasanaeth sy’n bodoli eisoes yr ydych yn teimlo y gallech ei addasu i wella profiad y cwsmer a phrofiad teithwyr ar draws y rheilffyrdd |
Mae gennych gynnyrch go iawn, neu rydych yn datblygu cynnyrch go iawn, a allai fod o fudd i Trafnidiaeth Cymru a phrofiad y teithiwr yn eich barn chi |
Os oes unrhyw un o’r canlynol (nid pob un o reidrwydd) yn berthnasol i chi neu eich busnes, rydyn ni'n meddwl y byddech chi’n ymgeisydd gwych ar gyfer y rhaglen: |
|
Pam ymuno? |
||
![]() |
![]() |
![]() |
I gael eich dilysu gan y diwydiant |
Datblygu eich busnes |
Gweithle arloesol |
![]() |
![]() |
![]() |
Dysgwch gan arweinwyr arloesol |
Mynediad at arbenigwyr rheilffyrdd |
Tyfu eich busnes |
|
Diwrnod arddangos carfan flaenorol |
|||
Cwestiynau cyffredin |
Oes gennych chi gwestiwn? Edrychwch ar ein cwestiynau mwyaf cyffredin isod. |
Sut mae gwneud cais?
Mae pob cais ar gyfer Rhaglen Sbarduno Lab gan TrC yn mynd trwy’r platfform digidol sy’n bartner i ni, SimplyDo. Cliciwch isod i gael mynediad i friff yr Her ac i greu eich cais ar gyfer y rhaglen.
Ble mae'r rhaglen wedi'i lleoli?
Bydd y rhaglen wedi'i lleoli'n bennaf yn y labordy arloesi ym Mhencadlys TrC, Llys Cadwyn, Pontypridd. Efallai y caiff rhai sesiynau eu cynnal yn safle PDR yng Nghaerdydd.
Beth yw'r meini prawf i wneud cais?
Gallwch fod yn entrepreneur, yn fusnes newydd neu’n fusnes sy’n uwchraddio. Mae'n rhaid bod gennych syniad, cynnyrch neu ddatrysiad y gellir ei ddefnyddio i ddatrys datganiadau her TrC a Media Cymru. Bydd y rheini sydd â chynnyrch sylfaenol hyfyw, neu â chynnyrch ar y farchnad sy’n gallu cael ei newid i roi budd, yn cael eu hystyried yn ymgeiswyr cryf.
Pwy sy'n rhedeg y rhaglen sbarduno hon?
Mae'r rhaglen sbarduno yn fenter gan Trafnidiaeth Cymru sy'n cael ei datblygu a'i darparu gan dîm arloesi Lab gan TrC.
Pa mor hir mae'r rhaglen yn para?
Mae ein rhaglen arloesi yn para 10 wythnos. Cynhelir diwrnod arddangos yn wythnos 10 o'r rhaglen.
Faint o amser fydd rhaid i mi ei roi i'r rhaglen?
Rydyn ni’n cynnal sesiynau gweithdy undydd, unwaith yr wythnos, drwy gydol y rhaglen. Bydd angen i chi hefyd gysylltu â noddwyr/perchnogion y cynnyrch a neilltuo amser o’ch busnes i ddatblygu eich MVP.
A ydych chi'n cymryd ecwiti yn fy musnes?
Na. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn dod yn gystadleuwyr ac yn cymryd rhan yn y rhaglen am ddim. Ar ddiwedd y 10 wythnos, bydd busnesau llwyddiannus yn cael contract masnachol os yw eu datrysiad yn ymarferol ac yn sicrhau budd i Reilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.
Beth yw'r meini prawf gwerthuso ar gyfer ceisiadau?
Bydd pob cais yn cael ei feirniadu a'i werthuso gan banel o aelodau'r tîm o Trafnidiaeth Cymru, PDR a Media Cymru. Y meini prawf allweddol fydd eich syniad neu gynnig - gall y potensial iddo fod o fudd i Trafnidiaeth Cymru a Media Cymru helpu'ch busnes.


Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol |