
Beth yw Lab gan Trafnidiaeth Cyrmu?
Rydyn ni’n arloesi ar draws Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Mae ein rhaglen sbarduno 12 wythnos wedi sbarduno 13 o fusnesau newydd i weithio yn y diwydiant rheilffyrdd. Rydyn ni’n helpu busnesau newydd creadigol ac uchelgeisiol i drawsnewid eu hatebion a’u syniadau presennol i wella profiad cwsmeriaid ac effeithlonrwydd busnes ar draws Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.
Rydyn ni’n cydweithio â busnesau newydd i fynd i’r afael â datganiadau problemus a herio meysydd ar draws Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Mae ein rhaglen yn helpu busnesau newydd i ddatblygu MVP sy’n addas i’r diben, a bod yn barod i gynnig syniad mewn dim ond 12 wythnos. |
Bydd cynigion llwyddiannus yn rhoi cyfle i fusnesau newydd gael contract gwaith gyda Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, a’u galluogi i ddatblygu a lansio eu hateb i’r farchnad. |
Mae ein labordy wedi'i leoli ym mhencadlys Trafnidiaeth Cymru yn yr ardal gydweithio ar y 3ydd llawr. Dyma fan gweithio pwrpasol i’r holl fusnesau newydd a phartneriaid Labordy Trafnidiaeth Cymru. Dyma lle cynhaliwyd ein holl weithdai, hyfforddiant a mentora. |
|

Ein nodau |
||
Lab gan Trafnidiaeth Cyrmu wedi cael ei greu mewn partneriaeth â Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, gyda’r nodau canlynol: | ||
![]() |
![]() |
![]() |
Dewch yn hyb blaenllaw ar gyfer arloesi, dylunio cynnyrch a thechnoleg | Arddangos y goreuon o blith busnesau cychwynnol technolegol Cymru | Helpu’r busnesau cychwynnol mwyaf arloesol i dyfu eu busnes ac i lwyddo |
![]() |
![]() |
![]() |
Gwella profiad ymarferol a digidol cwsmeriaid a theithwyr ar draws Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru | Sicrhau'r safon uchaf o iechyd a diogelwch ar draws Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru ar gyfer teithwyr a staff | Sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn addas ar gyfer y dyfodol drwy ei baratoi ar gyfer technolegau a datrysiadau newydd ac arloesol |
|
Pam cafodd ei sefydlu? |
Mae Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i wneud y rheilffyrdd yn ddiwydiant deniadol i fusnesau cychwynnol. Bydd Lab gan Trafnidiaeth Cyrmu yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd a buddion, ynghyd â’i gwneud yn haws i fusnesau cychwynnol ddod i mewn i'r diwydiant rheilffyrdd. |
|
Mae Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru eisiau darparu'r profiad gorau i deithwyr. Mae Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn deall pa mor hollbwysig yw hi i gorfforaethau mawr arloesi ac addasu. I fod yn ymatebol a rhagweithiol tuag at newidiadau yn ymddygiad defnyddwyr, ac i ddarparu mwy na’r disgwyl er mwyn rhoi profiad eithriadol i’r cwsmer. |
Mae Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru eisiau llenwi'r bylchau a meithrin diwylliant arloesi ar draws Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru drwy geisio cael y busnesau cychwynnol mwyaf creadigol ac uchelgeisiol i arddangos eu gwaith. |
Os oes gennych chi ddatrysiad neu syniad arloesol, byddem wrth ein boddau yn ei glywed ac yn gweld a allwch chi helpu Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. |
Carfan nesaf yn fuan |
Ein tîm |
|
|
|
Barry Lloyd |
Michael Davies |
![]() |
![]() |
Matthew Lewis |
Victoria Richards |

Oes gennych chi syniad? |
Ynghyd â’n tîm, fel rhan o raglen Labordy Trafnidiaeth Cymru, bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus gysylltiad â rhanddeiliaid allweddol ar draws Trafnidiaeth Cymru, a’u partneriaid. Os oes gennych chi syniad neu gynnyrch arloesol - hoffem glywed gennych. |
Carfan nesaf yn fuan |

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol |