Mae hi yma! Mae talu wrth fynd bellach ar gael yng ngogledd Cymru.

Cofiwch, mae angen cyfrif talu wrth fynd arnoch i gael mynediad at gymorth ar-lein ar gyfer ymholiadau sy’n benodol i'ch cyfrif (fel datrys camgymeriadau gyda'ch teithiau neu gyda phrisiau tocynnau).

Sut mae'n gweithio

Tapiwch i mewn gyda'ch cerdyn neu ddyfais yn eich gorsaf wreiddiol

Tapiwch allan gyda'r un cerdyn neu ddyfais yn eich gorsaf gyrchfan

Talwch y pris gorau

 

Cyngor da: Cofiwch dapio i mewn a thapio allan ar gyfer pob rhan o'ch taith. Os ydych chi'n gwneud taith ddychwelyd, cofiwch dapio i mewn a thapio allan ar y ffordd yn ôl hefyd.

Bwriwch olwg ar faint y gallech chi ei arbed

Ble alla i ddefnyddio talu wrth fynd?

Mae gennym ddwy ardal talu wrth fynd ar wahân. Un yng Ne Cymru ac un yn Ngogledd Cymru.

  • Rhaid i deithiau talu wrth fynd ddechrau a gorffen yn yr un ardal.
  • Ni ellir defnyddio talu wrth fynd i deithio y tu allan i'r ardaloedd hyn nac i deithio rhwng De Cymru a Gogledd Cymru.

Defnyddiwch y dolenni isod i weld ble gallwch ddefnyddio talu wrth fynd a pha weithredwyr rheilffordd sy'n derbyn y dull talu hwn.

Tapiwch i mewn a thapiwch allan am y pris cywir

Cofiwch dapio i mewn a thapio allan, neu efallai y bydd yn rhaid i chi dalu mwy am eich taith:

  • Tâl o £10 am daith anghyflawn os na fyddwch yn tapio allan.
  • Tâl Cosb o £20 os byddwch chi'n teithio heb dapio i mewn.

Cyngor da:

Defnyddiwch yr un cerdyn neu ddyfais i dapio i mewn a thapio allan. Peidiwch â newid rhwng dulliau talu, hyd yn oed os ydyn nhw wedi'u cysylltu â'r un cyfrif banc.

Os ydych chi'n defnyddio'ch ffôn, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dewis yr un cerdyn digidol i dapio i mewn ac allan.

 

Cofrestrwch i olrhain hanes eich teithiau a’ch taliadau

Am y profiad talu wrth fynd gorau, cofrestrwch i greu cyfrif ar ein ap neu wefan a chysylltwch eich cerdyn talu. Fe gewch chi:

  • Gymorth, wedi'i deilwra, os oes gennych unrhyw broblemau.
  • Eich hanes teithio a thalu llawn am y 12 mis diwethaf.
  • Derbynebau teithio y gellir eu lawrlwytho'n hawdd.
  • Rhybuddion os byddwch chi'n anghofio tapio allan (gan eich helpu i osgoi taliadau ychwanegol).

 

Cwestiynau cyffredin

Sut mae talu wrth fynd yn gweithio?

Defnyddiwch gerdyn digyswllt  Europay, Mastercard neu Visa i dapio i mewn ar ddechrau eich taith a thapio allan yn eich cyrchfan.

Gallwch hefyd ddefnyddio dyfais glyfar fel eich ffôn neu oriawr glyfar.

Ni ellir defnyddio cardiau American Express, Maestro na Chase corfforol.

Bydd angen i chi ddefnyddio'r un cerdyn neu ddyfais i dapio i mewn ac allan.

Byddwn yn cyfrifo eich taith ac yn codi'r pris rhataf posibl arnoch yn awtomatig.

Pa orsafoedd alla i ddefnyddio talu wrth fynd ynddynt?

De Cymru
Gweld ble gallwch chi deithio gan dapio i mewn ac allan yn Ne Cymru ar y map hwn.

Gogledd Cymru
Gweld ble gallwch chi deithio gan dapio i mewn ac allan yng Ngogledd Cymru ar y map hwn.

Ni ellir tapio i mewn ac allan gyda'ch cerdyn i deithio y tu allan i'r ardaloedd hyn nac rhwng De a Gogledd Cymru.

Ar ba drenau alla i ddefnyddio talu wrth fynd?

De Cymru
Gwasanaethau TrC a CrossCountry yn Ne Ddwyrain Cymru, dangosir hyn ar y map hwn.

Nid yw tapio i mewn ac allan yn bosibl ar wasanaethau Great Western Railway.

Gogledd Cymru
Gwasanaethau TrC yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, a ddangosir ar y map hwn.

A oes cyfyngiadau ar ddefnyddio talu wrth fynd?

Ni ellir defnyddio talu wrth fynd:
 

  • ar wasanaethau Great Western Railway
  • gyda Cherdyn Rheilffordd
  • i brynu tocynnau Dwyffordd (mae angen i chi dapio i mewn / allan o hyd ar eich taith yn ôl)
  • i brynu tocynnau Dosbarth Cyntaf
  • i brynu tocynnau Grŵp
  • i brynu tocynnau Teulu
  • i brynu tocynnau Plentyn
  • i brynu tocynnau Oriau Brig neu docynnau y Tu Allan i Oriau Brig (gallwch deithio unrhyw bryd).
A allwn i arbed arian gyda thalu wrth i chi fynd?

Mae prisiau talu wrth fynd fel arfer yn rhatach na phrisiau tocynnau eraill. Maent wedi'u capio ar lefel ddyddiol ac wythnosol i roi'r gwerth gorau i chi.

Gweld faint gallech ei arbed gyda thalu wrth fynd yn Ne Cymru.

Gweld faint gallech ei arbed gyda thalu wrth fynd yng Ngogledd Cymru.

Sut ydw i'n gweld hanes fy nheithiau a thaliadau?

Gallwch naill ai gofrestru ar gyfer cyfrif talu wrth fynd neu ddefnyddio ein porth ymwelwyr.

Byddem yn argymell cofrestru. Fe gewch chi hanes eich teithiau a'ch taliadau am y flwyddyn ddiwethaf, derbynebau teithio y gellir eu lawrlwytho a rhybuddion os byddwch yn anghofio tapio allan.

Mae ein porth ymwelwyr yn dangos hanes eich teithiau a thaliadau am y 7 diwrnod diwethaf o deithio yn unig.

I gofrestru
 

  • lawrlwythwch ac agorwch ap TrC
  • ewch i ‘talu wrth fynd’ yn y troedyn
  • ychwanegwch fanylion eich cerdyn digyswllt
  • lanlwythwch a chadarnhewch fanylion eich cerdyn


I ddefnyddio'r porth ymwelwyr
 

  • ewch i'r porth ymwelwyr yma
  • dewiswch ‘gweld hanes fy nheithiau fel ymwelydd’ ar y gwaelod
  • dilynwch y cyfarwyddiadau i lanlwytho manylion eich cerdyn

Rhagor o gwestiynau cyffredin