Mae’r polisi hwn yn berthnasol i Transport for Wales Rail Ltd ("TfWRL", "ein", "rydym" neu "ni"), sy’n masnachu fel Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, ac mae’n nodi ein hymrwymiad i iaith a diwylliant Cymru wrth weithredu masnachfraint rheilffordd Cymru a’r gororau.
1. Nodau
- Gweithio tuag at sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- Gweithredu fwy a mwy fel sefydliad dwyieithog yng Nghymru.
- Ymchwilio i welliannau i’r gwasanaethau Cymraeg sy’n cael eu darparu, a rhoi’r rheini ar waith pan fydd hynny’n rhesymol ymarferol.
2. Darparu Gwasanaethau
- Bydd yn arfer gennym sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau ac yn cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn rhoi gwybod i’n cwsmeriaid pan fydd y gwasanaethau hyn ar gael. Fodd bynnag, mae rhai cronfeydd data a systemau rheilffordd ar draws y diwydiant yn cael eu defnyddio gan bob cwmni trên, ac fe allai hyn ein rhwystro rhag darparu pob gwasanaeth yn Gymraeg.
- Pan fydd modd darparu gwasanaethau a deunydd cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, bydd ansawdd y ddwy iaith yn gyfartal o ran pa mor hawdd yw darllen yr wybodaeth, ac o ran maint a phroffil.
3. Cyfathrebu â Chwsmeriaid a Rhanddeiliaid
3.1 Gohebiaeth
- Pan fyddwn ni’n cael gohebiaeth ysgrifenedig yn Gymraeg, byddwn ni’n ateb yn Gymraeg. Bydd ein hamseroedd targed ar gyfer ateb yr un fath â’r targedau wrth ateb yn Saesneg.
- Os ydym yn gwybod ei bod yn well gan gwsmer neu randdeiliad gael gohebiaeth yn Gymraeg, byddwn ni’n trefnu hynny. Pan fyddwn ni’n cyhoeddi cylchlythyrau neu ohebiaeth safonol, bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi’n ddwyieithog fel arfer [oni bai fod yr ohebiaeth yn hir neu’n dechnegol iawn. Os felly, bydd yr ohebiaeth yn cael ei chyhoeddi yn Saesneg yn unig].
- Bydd yr uchod yn berthnasol i ohebiaeth dros e-bost yn ogystal â gohebiaeth ar bapur.
3.2 Cyfathrebu dros y ffôn ac wyneb yn wyneb
- Mae gennym ganolfan cysylltiadau cwsmeriaid sy’n darparu gwasanaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg. Fodd bynnag, pan fydd angen cyfeirio materion at rywle arall yn gyflym, mae’n bosib na fyddwn yn gallu bwrw ymlaen â’r mater drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond, byddwn ni’n gallu trefnu bod siaradwr Cymraeg yn ffonio’r cwsmer yn ôl, ond fe allai hyn achosi oedi.
- Byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i gwsmeriaid sy’n dymuno trafod materion wyneb yn wyneb. Os na fydd hi’n bosib gwneud hynny ar unwaith, bydd y cwsmer yn cael cyfle i drafod materion yn Saesneg, neu’n cael ymateb ysgrifenedig yn Gymraeg.
- Mewn cyfarfodydd cyhoeddus, bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael ar gais, a bydd gwahoddiadau i gyfarfodydd yn cael eu hanfon yn ddwyieithog. Bydd yn bosib darparu unrhyw waith papur ar gyfer cyfarfodydd o’r fath yn ddwyieithog, ar gais.
3.3 Systemau Gwybodaeth i Gwsmeriaid ar ffurf Electronig/Digidol
- Pan fydd yn ymarferol a phan fydd technoleg yn gwneud hynny’n bosib, byddwn yn ceisio darparu systemau gwybodaeth dwyieithog i gwsmeriaid – drwy arwyddion a gwasanaethau sain – mewn gorsafoedd ac ar drenau.
3.4 Cyhoeddiadau/Gwefan/Arwyddion
- Byddwn yn ceisio darparu’r holl bosteri/hysbysiadau sefydlog, gwybodaeth i gwsmeriaid a deunydd cyfathrebu statudol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Efallai na fydd hynny’n bosib mewn rhai achosion, er enghraifft, pan fydd rhywbeth annisgwyl wedi amharu ar y gwasanaeth trên.
- Rydym yn gweithio i roi mwy o gynnwys Cymraeg ar ein gwefan, ond mae hyn y tu hwnt i’n rheolaeth weithiau – er enghraifft, mae rhai darnau o wybodaeth yn dod gan systemau cyffredin yn y diwydiant trenau sy’n cael eu darparu’n ganolog ac ond yn rhoi gwybodaeth/data yn Saesneg.
- Byddwn yn ceisio uwchraddio byrddau enw ym mhob gorsaf yng Nghymru er mwyn iddyn nhw ymddangos yn Gymraeg ac yn Saesneg. Fel arfer, bydd y rhain yn cael eu newid dros amser fel rhan o raglen benodol neu’n sgil cynllun adnewyddu gorsafoedd. Bydd cyfarwyddiadau ac arwyddion eraill mewn gorsafoedd ac ar drenau yn cael eu darparu’n ddwyieithog.
4. Y Cyfryngau, y Wasg a Chyfryngau Cymdeithasol
- Bydd datganiadau i’r wasg a’r cyfryngau darlledu Cymraeg yn cael eu cyhoeddi’n Gymraeg pan fydd y terfynau amser yn caniatáu hynny. Pan fydd yn bosib, byddwn yn trefnu bod gweithwyr sy’n siarad Cymraeg yn cynnal cyfweliadau’n Gymraeg gyda’r wasg a’r cyfryngau darlledu Cymraeg.
- Pan fydd modd, bydd staff sy’n siarad Cymraeg yn ymateb i adborth yn Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol fel X a Facebook.
5. Gweithwyr Transport for Wales Rail Ltd
- Pan fydd yn bosib ac yn ymarferol, byddwn yn ceisio darparu gweithwyr sy’n gallu siarad Cymraeg at ddibenion gwasanaeth cwsmeriaid a gwybodaeth.
- Byddwn yn ceisio cynyddu nifer y staff a gyflogir lle bydd y gallu i siarad Cymraeg yn rhugl yn cael ei ystyried yn hanfodol neu’n ddymunol.
- Byddwn yn rhoi arweiniad a chefnogaeth briodol i weithwyr ddysgu Cymraeg neu wella eu gallu i siarad Cymraeg.
- Byddwn yn annog gweithwyr sy’n siarad Cymraeg i wneud cyhoeddiadau cyhoeddus yn ddwyieithog gan ddangos i’r cyhoedd eu bod yn siarad Cymraeg, er enghraifft drwy wisgo bathodyn penodol.