Cynllun Teithiau Bws £1 i Blant a Phobl Ifanc
O 1 Medi 2025 ymlaen, cyflwynodd Llywodraeth Cymru docynnau bws rhatach i bobl 16 - 21 oed gyda cherdyn fyngherdynteithio yng Nghymru ac ar rai gwasanaethau trawsffiniol.
O 3 Tachwedd 2025, bydd y cynllun tocyn sengl am £1 a tocyn diwrnod am £3 yn cael ei ehangu i gynnwys plant 5 - 15 oed yng Nghymru a rhai gwasanaethau trawsffiniol. Nid oes angen fyngherdynteithio ar blant 5 - 15 oed i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn.
Tocynnau bws
Bydd tocynnau ar gael am y prisiau canlynol:
- Taith Sengl (Unffordd) - £1.00
- Tocyn Cymru (Tocyn Dydd) - £3.00 (teithio diderfyn ar wasanaethau bws sy'n rhan o'r cynllun)
Bydd y tocynnau ar gael i brynu a’i ddefnyddio ar wasanaethau bws cofrestredig sy'n rhan o'r cynllun.
Gwelwch fwy a gwnewch gais am fyngherdynteithio
Telerau ac amodau
- Mae prisiau gostyngol ar gael i blant 5 i 15 oed heb yr angen am fyngherdynteithio.
- Ar gael i bobl 16-21 oed sydd â fyngherdynteithio dilys. Mae angen dangos y cerdyn fyngherdynteithio i'r gyrrwr wrth i chi fynd ar y bws neu wrth brynu'ch tocyn.
- Ar gael gyda gweithredwyr bws sy’n cymryd rhan.
- Mae tocynnau ar gael ar gyfer siwrnai sy’n dechrau neu'n gorffen yng Nghymru. Ar gyfer siwrnai sy’n croesi rhwng Cymru a Lloegr gallwch deithio hyd at ac o'r safle bws cyntaf yn Lloegr, neu ar rai gwasanaethau hyd at ddiwedd y llwybr.
- Ar gael am siwrnai bws yn unig.
- Rhaid defnyddio tocynnau sengl gyda’r gweithredwr y cawsant eu prynu gyda.
- Ddim ar gael gyda Tap Ymlaen, Tap Ymadael ar y foment.
- Nid yw'r prisiau gostyngedig ar gael ar wasanaethau coets a weithredir gan National Express, Megabus, Flix Bus, bysiau nos pris premiwm a bysiau City Sightseeing.
- Mae’r cynllun yma yn cael ei ariannu am 1 flwyddyn.
Pwy yw’r gweithredwyr bysiau sy’n cymryd rhan?
Mae mwyafrif y gweithredwyr bysiau ledled Cymru yn rhan o'r cynllun newydd hwn.
Ni fydd gwasanaethau fel bysiau nos pris premiwm a bysiau City Sightseeing yn cynnig y prisiau gostyngol nac yn derbyn Tocynnau Diwrnod. Nid yw'r prisiau gostyngedig ar gael ar wasanaethau coets a weithredir gan National Express, Megabus na Flix Bus.
Bydd y gweithredwyr bysiau canlynol yn cymryd rhan yn y Cynllun Teithiau Bws i Bobl Ifanc:
- Adventure Travel
- Arriva Cymru
- Berwyn Coaches
- Caelloi
- Cardiff Bus
- Celtic Travel
- Clynnog and Trefor
- Connect2
- Dansa
- Davies Coaches
- Denbighshire County Council
- Dilwyn's Coaches
- Edwards
- Eifion’s Coaches
- Evans Coaches, Tregaron
- First Cymru
- Forge Travel
- Goodsir Coaches
- Gwynfor Coaches
- Harris Coaches
- Jones Login
- K&P Coaches
- Keepings Coaches
- Lewis Y Lan
- Llew Jones
- Lloyds Coaches
- M&H Coaches
- Mid Wales Travel
- Morris Travel
- Nefyn Coaches
- Newport Transport
- Ddrws I ddrws
- OR Jones
- Oswestry Community Action
- Owens Travelmaster
- P&O Lloyds
- Pats Coaches
- Pembrokeshire County Council
- Pembrokeshire Voluntary Transport
- Peyton Travel
- Phil Anslow
- R. Williams Services
- Richard Brothers
- Ridgeway
- Select Coaches
- Sergeant Bros
- Simon Price Cars
- South Wales Transport
- Stagecoach South Wales
- Taf Valley
- Tanat Valley
- Thomas of Rhondda
- TrawsCymru
- Valentines Travel
- Wilkins Travel
- Williams Coaches (Brecon)
Mae'r rhestr hon yn destun newid a bydd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd.
Pwy all ddefnyddio'r Cynllun Teithiau Bws i Blant a Phobl Ifanc?
Mae'r cynllun ar agor i bawb rhwng 5 a 21 oed.
Mae pob person 16 i 21 oed yn gymwys ar gyfer prisiau'r Cynllun Teithiau Bws i Bobl Ifanc, ond rhaid i chi gael fyngherdynteithio i brofi eich oedran i yrrwr y bws wrth brynu tocyn.
Os nad oes gennych chi fyngherdynteithio eisoes, gallwch wneud cais am gerdyn yma.
Os ydych chi neu'ch plentyn rhwng 5 a 15 oed, nid oes angen fyngherdynteithio arnyn nhw i elwa o'r cynllun.
Ble alla i brynu tocynnau bws i Blant a Phobl Ifanc am brisiau gostyngol?
Gellir prynu tocynnau bws i Blant a Phobl Ifanc am brisiau gostyngol:
- ar y bws gan y gyrrwr wrth fynd ar y bws
- drwy apiau tocynnau ar eich ffôn symudo lle bo’n briodol
Ni allwch ddefnyddio Tap Ymlaen/Tap Ymadael na’r system taliadau wedi'u capio ar hyn o bryd, er ein bod yn gobeithio cyflwyno hyn yn y dyfodol wrth i ni ddatblygu'r cynllun ymhellach.
Os ydych chi'n defnyddio ap ar eich ffôn i brynu tocyn, efallai y bydd angen i chi gofrestru eich fyngherdynteithio cyn y gallwch chi brynu tocynnau am brisiau gostyngol a bydd angen i chi gyflwyno'r fyngherdynteithio i'r gyrrwr pan fyddwch chi'n mynd ar y bws.
Mae yna hefyd rai cyfyngiadau ar ddefnyddio tocynnau unffordd a brynir trwy apiau ffôn symudol gan mai dim ond ar wasanaethau sy'n cael eu gweithredu gan y cwmni bysiau a werthodd y tocyn unffordd i chi y gellir defnyddio'r rhain. Nid yw'r cyfyngiad hwn yn berthnasol i Docynnau Diwrnod a brynwyd ar ap ac y gellir eu defnyddio ar unrhyw wasanaeth bws yng Nghymru sy'n cymryd rhan.
A allaf gael gostyngiad i Blant a Phobl Ifanc ar wasanaethau bws y tu allan i Gymru?
Gallwch, cyn belled â bod eich taith fws yn dechrau neu'n gorffen yng Nghymru, byddwch wedi'ch cynnwys yn y cynllun hyd at ac o'r safle bws cyntaf yn Lloegr neu ar rai gwasanaethau hyd at ddiwedd y llwybr.
Mae gen i fyngherdynteithio yn barod
Os ydych chi rhwng 16 a 21 oed ac mae gennych chi fyngherdynteithio eisoes, rydych chi'n barod i elwa o'r Cynllun Teithiau Bws i Bobl Ifanc newydd ac nid oes angen i chi wneud dim byd pellach.
Os ydych chi neu'ch plentyn rhwng 5 a 15 oed, nid oes angen fyngherdynteithio arnyn nhw i elwa o'r cynllun.
Oes gostyngiad ar docynnau trên?
Dim ond i deithio ar fysiau yng Nghymru y mae'r Cynllun Teithiau Bws i Blant a Phobl Ifanc yn berthnasol.
Gall plant dan 11 oed deithio am ddim ar ein gwasanaethau rheilffordd a gall plant 11 - 15 oed deithio am ddim ar ein trenau yn ystod cyfnodau y tu allan i oriau brig, cyn belled â bod oedolyn sy'n talu am docyn yn teithio gyda nhw yn y ddau achos.
Gallwch gael gwybod mwy yma: Plant i gael teithio am ddim ar ein trenau
Nid oes unrhyw ostyngiadau i ddefnyddwyr fyngherdynteithio ar ein gwasanaethau rheilffordd, dim ond i deithiau bws yng Nghymru y mae'r Cynllun Teithiau Bws i Blant a Phobl Ifanc yn berthnasol. I gael gwybodaeth am ostyngiadau gyda cherdyn rheilffordd, ewch i: Cardiau rheilffordd