Submitted by Content Publisher on

Cyfrifon Trafnidiaeth Cymru

Dilynwch ein prif gyfrifon TrC i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am bob math o drafnidiaeth ledled Cymru a’r gororau

Gallwch ddarllen ein polisi cyfryngau cymdeithasol yma

 

Byddwch yn effro i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol ffug

Rydyn ni’n gofyn i’n cwsmeriaid fod yn effro i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol ffug sy’n honni eu bod yn gyfrifon Trafnidiaeth Cymru. Gallai’r rhain gynnwys cyfrifon sydd wedi cael eu creu’n benodol i dwyllo cwsmeriaid, yn ogystal â chyfrifon sbam, twyll a pharodi. Mae’n bosibl y byddan nhw’n defnyddio llun ac enw proffil sy’n debyg neu’n union yr un fath â’n cyfrif ni. 

Byddwch yn ofalus ar-lein, a gwnewch yn siŵr bod cyfrif yn ddilys cyn ymgysylltu ag ef. 

Cofiwch wirio bod dolennau ac enwau wedi’u sillafu’n gywir, a phryd y cafodd y cyfrif ei greu. Dyma ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a’r dyddiadau y cawsant eu creu.

Trafnidiaeth Cymru
X: @transport_wales - Mehefin 2016
Facebook: facebook.com/TfWTrafnidiaethCymru - Hydref 2017
Instagram: instagram.com/transport_wales/ - Gorffennaf 2020
Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru
X: @tfwrail - Medi 2018

Os nad ydych chi’n siŵr mai cyfrif TrC ydyw, peidiwch ag ymgysylltu â’r cyfrif. Cysylltwch â ni’n uniongyrchol.

Peidiwch byth â darparu cyfrineiriau na gwybodaeth am daliadau - ni fyddwn yn gofyn i chi ddarparu’r rhain drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Peidiwch â chlicio ar ddolenni os nad ydych yn siŵr a yw’r cyfrif yn ddilys ai peidio.

Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi gweld cyfrif ffug yn ein dynwared ar y cyfryngau cymdeithasol, rhowch wybod i ni.

Byddwn yn rhoi gwybod am gyfrifon cyfryngau cymdeithasol ffug sy’n ceisio dynwared Trafnidiaeth Cymru. Byddwn yn parhau i gymryd camau i gadw ein cwsmeriaid yn ddiogel pan fyddan nhw’n cysylltu â ni drwy’r cyfryngau cymdeithasol.