Darparwyd y llun drwy garedigrwydd Michael Meilton

 

Prynwch eich tocyn PlusBus gyda’ch tocyn trên. Teithiwch ar y trên ac ar y bws mewn un trafodiad hawdd.

 

Beth yw PlusBus?

Mae PlusBus yn docyn bws am bris gostyngol (fel cerdyn teithio) i deithio faint fynnwch chi ar fysiau o amgylch trefi a dinasoedd, ac yn cael ei brynu gyda thocyn trên. Gyda PlusBus, cewch deithio ar y bws cyn neu ar ôl eich taith ar y trên, neu ar bob pen o’r daith.

Byddwch yn talu am eich holl deithiau ar y bws a’r trên gyda’i gilydd, a hynny yn yr orsaf, ar y ffôn neu ar-lein. Mae PlusBus ar gael mewn 26 o drefi a dinasoedd ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru (sydd wedi’u rhestru isod):

Drefi a dinasoedd

 

Sut mae’r PlusBus yn gweithio?

Ar gyfer pob tref, mae un parth yn cynnwys yr holl ardal drefol. Er mwyn prynu PlusBus, rhaid i’ch taith ar y trên ddechrau neu orffen y tu allan i'r parth lle cewch deithio ar y bws. Gyda PlusBus, cewch deithio faint fynnwch chi ar yr holl fysiau sy’n rhan o’r cynllun, a hynny unrhyw le yn y parth.

 

Faint mae PlusBus yn ei gostio?

Mae prisiau tocynnau PlusBus yn werth gwych am arian, yn dechrau o £2.50 y dydd. Gallwch chi gael traean oddi ar brisiau tocyn diwrnod PlusBus gyda’ch cerdyn rheilffordd (bydd cyfyngiadau’n berthnasol). Bydd plant o dan 16 oed yn talu hanner pris tocyn PlusBus i oedolion.

 

Sut mae prynu tocyn PlusBus

Gofynnwch am PlusBus wrth brynu eich tocyn trên. Gallwch chi brynu tocyn PlusBus:

  • yn swyddfa docynnau gorsafoedd
  • ar ein gwefan neu ap (bydd PlusBus yn cael ei gynnig i chi pan fydd ar gael)
  • dros y ffôn

MMae modd prynu PlusBus gyda’r mathau o docynnau “prynu ar y diwrnod” ac “advance”:

  • Tocyn Unffordd
  • Tocyn Diwrnod Dwyffordd
  • Tocyn Dwyffordd dros gyfnod (bydd angen i chi nodi dyddiad eich siwrnai’n ôl)
  • Tocynnau tymor (am gyfnodau penodol: 7-diwrnod, 1-mis, 3-mis, blwyddyn).

Gallwch chi arbed arian drwy ddefnyddio PlusBus ac mae’n fwy cyfleus na phrynu tocynnau ar wahân. Gallwch chi dalu gydag arian parod, cerdyn credyd neu gerdyn debyd.

 

Cwestiynau cyffredin am PlusBus

Allwch chi brynu PlusBus heb docyn trên?

Na, rhaid i chi brynu tocyn PlusBus gyda’ch tocyn trên. Does dim modd eu prynu ar wahân.

Oes modd i mi ychwanegu PlusBus at fy nhocyn Tymor?

Oes, mae ychwanegu PlusBus at docyn Tymor yn gallu arbed arian i chi os ydych chi’n teithio’n rheolaidd.

Pam ddylwn i brynu tocyn PlusBus?

Mae PlusBus yn arbed arian i chi wrth i chi fynd ar y trên a’r bws, ac mae hyn yn ddelfrydol i gymudwyr neu bobl ar wyliau. Mae modd cael gostyngiadau Cerdyn Rheilffordd gyda thocynnau PlusBus, gan leihau eich costau teithio ymhellach. Mae cael tocynnau gyda’i gilydd yn gallu bod yn fwy cyfleus, gan arbed amser i chi wrth deithio.