Teithio Mewn Steil

Mae tocynnau trên Dosbarth Cyntaf yn rhoi’r gwasanaeth gorau i gwsmeriaid a’r daith mwyaf cyfforddus.

Boed chi'n teithio ar gyfer busnes neu bleser, mae tocynnau Dosbarth Cyntaf yn cynnig y profiad teithio gorau. Mae’r seddi’n fwy cyfforddus ac yn rhoi mwy o le i chi, ac mae bwyd a diod unigryw ar gael ar rai llwybrau.

Gyda thocynnau’n dechrau am gyn lleied â £39*, a gwasanaethau Dosbarth Cyntaf newydd ar gael rhwng Caerdydd a Manceinion o fis Ionawr 2023 ymlaen, ni fu erioed amser gwell i fanteisio i’r eithaf ar eich amser teithio, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn teithio mewn steil.

 

Coeliwch neu beidio, bwyd trên yw hwn

Byddwch yn barod i gael eich synnu gan yr hyn y gallwch ei archebu ar ein gwasanaeth Dosbarth Cyntaf. Mae ein cogyddion talentog yn creu bwydlenni tymhorol gwych gyda chynhwysion lleol er mwyn darparu’r gwasanaeth arlwyo gorau posibl ar y trên. Eisteddwch yn ôl a mwynhau pryd o fwyd ffres wrth wibio heibio tirwedd Cymru a’r gororau.

Mae lluniaeth a byrbrydau wedi’u cynnwys yng nghost eich tocyn, ond bydd cost ychwanegol am bryd bwyd. Gweld ein bwydlenni Dosbarth Cyntaf.

 

 

Awydd uwchraddio?

Lle bo hynny’n berthnasol, gallwch uwchraddio o docyn Dosbarth Safonol i docyn Dosbarth Cyntaf ar ein gwasanaethau. Mae hyn yn berthnasol i bob un o’n tocynnau Safonol, gan gynnwys tocynnau unffordd, tocynnau dwyffordd, tocynnau tymor a thocynnau Rover a Ranger.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw rhoi gwybod i’r goruchwyliwr eich bod eisiau uwchraddio, ac fe fyddan nhw’n cadarnhau a oes lle ar gael i chi yn y Dosbarth Cyntaf ai peidio. Mae prisiau uwchraddio yn dechrau o £25** yn unig

Os ydych chi wedi uwchraddio i Ddosbarth Cyntaf, cofiwch y bydd cost ychwanegol hefyd am unrhyw brydau y byddwch yn eu harchebu ar y trên.

 

Pa docynnau trên Dosbarth Cyntaf sydd ar gael?

Rydyn ni’n cynnig tocynnau hyblyg Unrhyw Bryd Dosbarth Cyntaf a thocynnau unffordd a dwyffordd Cyfnodau Tawel. Mae hyn yn caniatáu i chi deithio ar ba bynnag amser sy’n gyfleus i chi, sy’n berffaith os yw eich cynlluniau’n debygol o newid. Rydyn ni hefyd yn cynnig tocynnau Dosbarth Cyntaf Advance rhatach, ond dim ond hyn a hyn o'r rhain sydd ar gael.

Rydyn ni hefyd yn cynnig yr opsiwn o uwchraddio i'r Dosbarth Cyntaf. Gallwch uwchraddio drwy dalu’r Goruchwyliwr ar y trên. Dim ond hyn a hyn o docynnau Dosbarth Cyntaf sydd ar gael ac maen nhw’n cael eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin.

 

Sut mae prynu tocyn Dosbarth Cyntaf?

Gallwch chi brynu tocyn Unffordd neu Ddwyffordd Dosbarth Cyntaf yn yr un ffordd â phrynu tocyn Safonol: sef ar ein ap, ar ein gwefan, neu yn y swyddfeydd tocynnau neu'r peiriannau prynu tocynnau yn ein gorsafoedd.

Cofiwch eich bod yn gallu prynu tocynnau ar gyfer pob gwasanaeth trên ar draws y Deyrnas Unedig gennym ni. Felly os byddwch chi'n mynd o Gaerdydd i Gaergybi, neu o Newcastle i Paddington, gallwch chi brynu eich tocynnau Dosbarth Cyntaf gennym ni a manteisio ar beidio â gorfod talu ffioedd archebu.

 

Hygyrchedd

Mae gennym ddau le i gadair olwyn ar y trên a thoiledau sy’n addas i gadeiriau olwyn. Mae drysau’r trenau hyn wedi’u pweru.

Gall ein tîm Cymorth wrth Deithio roi rhagor o gyngor a chymorth i chi i gynllunio eich taith.

 
  • Gweld manylion hygyrchedd y trên
    • Cynllun y cerbyd

      Diagram of the carriage layout of a Mark 4

      Hygyrchedd

      Access ramp icon Ramp mynediad Oes 
      Assistance button icon Botwm cymorth Oes 
      Priority seating icon Seddi â blaenoriaeth Oes
      Wheelchair users spcae icon Lle i ddefnyddwyr cadair olwyn 2
      Universal toilet icon Toiled hygyrch 1
      Lled y drws (mm) 800
       

      Llwybrau

      • Caerdydd - Caergybi

      • Cynlluniau ar gyfer rhedeg Abertawe - Manceinion Piccadilly yn y dyfodol (o fis Rhagfyr 2022)

      Dyma’r llwybrau mwyaf cyffredin, ond gallen nhw newid.

      Route map of where the Mark 4 trains run on Transport for Wales

      Beth sydd y tu mewn

      Lle newid babanod Oes
      Lle i feiciau 4
      Capacity icon
      Capasiti 222
      Arlwyo - wrth y sedd (gwasanaethau dethol yn unig) Oes
      Socedi gwefru
      3-phin yn unig
      Oes 
      Annerch y Cyhoedd Oes
      Restaurant car icon
      Cerbyd bwyty Oes
      Seddi | dosbarth safonol 182
      Seddi | dosbarth cyntaf 40
      Seddi - blaenoriaeth Oes
      Toiled hygyrch 1
      Toiled – ddim yn addas i gadeiriau olwyn 3
      Sgriniau Gwybodaeth Weledol Oes
      Lle i ddefnyddwyr cadair olwyn 2
      Wi-Fi Oes

       

 

*Mae tocynnau yn amodol ar argaeledd. Y gost o £39 a nodir yw cost tocyn Sengl Dosbarth Cyntaf Advance o Gaerdydd Canolog i Piccadilly Manceinion. Mae'r prisiau'n ddilys tan 31/03/2023 a gallant newid wedi hynny.

**Y gost o £25 a nodir yw'r cost o uwchraddio o docyn Dosbarth Safonol i Ddosbarth Cyntaf o Ganol Caerdydd i Piccadilly Manceinion. Mae'r prisiau'n ddilys tan 31/03/2023 a gallant newid wedi hynny.