A well dressed man eating a First Class meal on a TfW train

Tocynnau Dosbarth Cyntaf ar gael nawr gyda Seatfrog

Beth am brofi seddi moethus a gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol gyda thocyn Dosbarth Cyntaf ar detihiau dethol rhwng Caerdydd a Chaergybi a Chaerdydd a Manceinion. Felly, waeth os ydych ar daith busnes neu phleser, defnyddiwch Seatfrog i uwchraddio am bris llai.

 

A person buying TfW tickets using the Seatfrog app

Sut mae Seatfrog yn gweithio?

1. Lawrlwythwch ap Seatfrog

O agor cyfrif Seafrog, nodwch eich cyfeirnod bwcio, neu defnyddio nodwedd chwilio Seatfrog, a bydd yr ap yn dangos i chi a oes modd i chi uwchraddio eich tocyn.

2. Ymgeisio

Nodwch nifer y seddi rydych am ymgeisio i gael uwchraddiad ar eu cyfer. Does dim cost i gymryd rhan yn yr arwerthiant a dim ond os enillwch chi byddwch chi'n talu. 

3. NEU uwchraddio ar unwaith

Mynnwch fargen i uwchraddio eich tocyn ar unwaith i docyn Dosbarth Cyntaf gydag ap Seatfrog. Dyma ddewis gwych os ydych am uwchraddio eich tocyn ar frys heb y risg o gael eich curo yn yr arwerthiant.

4. Dosbarth Cyntaf Amdani

Bydd Seatfrog yn anfon eich codbar uwchraddio yn syth i'ch ffon symudol. Cofiwch ddod a chodbar y tocyn gwreiddiol a'r codbar uwchraddiad Dosbarth Cyntaf ar y daith.

Lawrlwytho ap Seatfrog 

Cyn belled a bod tocynnau ar gael.

 

SEATFROG + Transport for Wales
  • Telerau ac amodau
    • 1. Nid yw costau uwchraddio yn cynnwys unrhyw ffioedd platfform a godir gan Seatfrog.

    • 2. Caiff y nifer o uwchraddiadau fydd ar gael ar bob tren ei pennu gan nifer yr archebion a wneir ymlaen llaw am docynnau Dosbarth Cyntaf.

    • 3. Gall cwsmer a chyd-deithwyr sydd a'r un cod archebu ond ddefnydido arwerthiant uwchraddio tocyn neu uwchraddiad ar unwaith Seatfrog gyda thocyn Safonol Advnace, Safonol Allfrig, Safonol Allfrig Uwch neu Safonol Anytime, ac yn teithio ar wasanaeth dilys Trafnidiaeth Cymru (TrC). 

    • 4. Mae pob uwchraddiad Seatfrog yn ddilys i un teithiwr ar gyfer taith unffordd ar y dyddiad ac amser penodol yn unig. 

    • 5. Nid oes modd trosglwyddo tocynnau sydd wedi'u huwchraddio.

    • 6. Gall cwsmeriaid sy'n teithio mewn grwp a chyda'r un cyfeirnod archebu gymryd rhan mewn arwerthiant Seatfrog er mwyn gallu cael uwchraddiad gyda'i gilydd. Gall unrhyw aelod o'r grŵp gofrestru gyda Seatfrog ac ymgeisio am fwy nag un sedd. Os bydd i'r aelod ennill yr arwerthiant, cyhoeddir nifer y tocynnau a gaiff eu huwchraddio ar eu dyfais. Oherwydd natur munud olaf arwerthiannau Seatfrog, ni allwn warantu y bydd pawb yn y grŵp yn eistedd gyda'i gilydd.

    • 7. Unwaith y telir y ffi uwchraddio, anfonir codbar Dosbarth Cyntaf i'r cwsmer ar gyfer y nifer penodol o uwchraddiadau o fewn ap Seatfrog. Rhaid dangos pob cod bar uwchraddio a anfonir i ffôn symudol y cwsmer, ynghyd â thocyn Dosbarth Safonol dilys, i Reolwr y Trên. Hefyd, rhaid bod gan gwsmeriaid eu tocyn(nau) Dosbarth Safonol gwreiddiol er mwyn gallu mynd drwy'r gat tocynnau. Mae'r codbar uwchraddio Dosbarth Cyntaf yn annilys oni bai y caiff ei gyflwyno gyda thocyn Dosbarth Safonol.

    • 8. Rheolwr y Tren fydd yn dilysu tocynnau sydd wedi'i uchraddio gan Seatfrog. Os na all y cwsmer ddangos cod bar dilys ar eu dyfais symudol, bydd rhaid iddynt dalu'r gwahaniaeth rhwng pris tocyn Dosbarth Cyntaf a phris eu tocyn Safonol cyfredol. Cyfrifoldeb y cwmser yw sicrhau bod eu dyfais symudol wedi'i wefru'n llawn.  Gall y tocynnau gael eu dilysu ar unrhyw gam o'r daith.

    • 9. Nid oes modd cael ad-daliad am docyn Seatfrog sydd wedi'i huwchraddio oni bai bod y cwsmer yn methu teithio oherwydd bod tren TrC wedi'i oedi neu wedi'i ganslo neu os nad yw seddi Dosbarth Cyntaf ar gael ar y gwasanaeth dan sylw.

    • 10. Cynhwysir lluniaeth a byrbryau mewn pris uwchraddiad tocyn Seatfrog er, mae'n rhaid talu pris ychwanegol am bryd o fwyd.  Am ragor o wybodaeth, ewch i trc.cymru/ffyrdd-o-deithio/rheilffordd/bwyd-a-diod/ciniawa-or-radd-flaenaf