Hedfan Gall ein trenau fynd â chi i feysydd awyr Caerdydd, Birmingham, Lerpwl, a Manceinion, felly gallwch ymlacio ar y daith i’r maes awyr drwy neidio ar un o’n trenau. Maes Awyr Caerdydd Mae trenau’n rhedeg o Ben-y-bont ar Ogwr yn uniongyrchol i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd y Rhws bob awr (bob dwy awr ar ddydd Sul). Mae bws gwennol yn cysylltu â'r holl drenau ac yn rhedeg o’r orsaf i derfynfa’r maes awyr. Mae’n cymryd pum i 10 munud ac mae’n costio £1. Maes Awyr Caerdydd Maes Awyr Rhyngwladol Birmingham Mae trenau yn rhedeg yn uniongyrchol o Aberystwyth, Pwllheli ac Amwythig i Birmingham Rhyngwladol. Yn ystod y dydd mae hyd at naw trên yr awr yn rhedeg rhwng Birmingham New Street a Birmingham International. Maes Awyr Rhyngwladol Birmingham Maes Awyr Manceinion Mae trenau'n rhedeg o ogledd Cymru a Chaer yn uniongyrchol i Faes Awyr Manceinion yn y bore a gyda’r nos. Rydym yn rhedeg trenau’n rheolaidd i Fanceinion Piccadilly, ac o’r fan honno gallwch chi gael gwasanaethau cysylltu gan weithredwyr eraill. Mae hyd at chwe trên yr awr rhwng gorsaf Manceinion Piccadilly a Maes Awyr Manceinion. Maes Awyr Manceinion Maes Awyr Lerpwl Mae trenau’n rhedeg bob awr o Gaer, Parcffordd De Lerpwl a Lerpwl Lime Street i Faes Awyr John Lennon Lerpwl. Mae bws gwennol yn cysylltu â'r holl drenau ac yn rhedeg o’r orsaf i derfynfa’r maes awyr. Gallwch brynu tocyn am £2.00 fel ychwanegyn PlusBus wrth brynu eich tocyn trên gyda ni. Maes Awyr Lerpwl