Manceinion yw'r lle perffaith ar gyfer eich gwyliau gaeafol nesaf. Mae cymaint i'w fwynhau, o gerddoriaeth fyw a chwaraeon cyffrous i ddiwylliant o safon fyd-eang a bywyd nos bywiog; felly, cymerwch amser i ddarganfod mwy o'r ddinas. Archwiliwch gymdogaethau llawn cymeriad, mwynhewch fwyd blasus ac ymlaciwch gyda diod wrth le tân clyd.
Gyda gwasanaethau cyflym ac aml o Gymru i Fanceinion, mae cyrraedd y ddinas yn hynod o hawdd. Cynlluniwch eich gwyliau gaeafol ac archebwch eich tocynnau trên nawr.
Trenau i Fanceinion
Mae gan Fanceinion rhai o’r cysylltiadau gorau yn y DU ac rydym yn rhedeg gwasanaethau i’r ddinas ac yn ôl o amrywiaeth o gyrchfannau, gan gynnwys Caerdydd, Caer a mwy. Mae’n hawdd cyrraedd Manceinion ar y trên. Gallwch hyd yn oed arbed hyd at 50% oddi ar bris tocynnau i Fanceinion gyda’n tocynnau Advance. Gyda cherdyn rheilffordd, cewch fynediad at ystod o gynigion, hefyd. Prynwch eich tocynnau trên i Fanceinion gyda ni ar-lein neu ar ein ap heddiw. Nid ydym yn codi ffioedd archebu. Dewch o hyd i rai o’n llwybrau mwyaf poblogaidd i Fanceinion isod:
Sut i dreulio penwythnos hir ym Manceinion
Dechreuwch eich bore yn y Northern Quarter, lle gallwch fwynhau coffi, crwydro siopau'r ardal a gweld celf stryd anhygoel. Yna, ewch i Ganolfan Crefft a Dylunio Manceinion (Manchester Craft and Design Centre) i bori a phrynu rhywbeth arbennig, wedi'i ddylunio a'i greu gan grefftwyr mwyaf talentog y rhanbarth.
Camwch yn ôl mewn amser a threuliwch y prynhawn yn Chwarter Canoloesol y ddinas, cartref i Eglwys Gadeiriol Manceinion a Llyfrgell Chetham - y llyfrgell gyhoeddus hynaf yn y byd Saesneg ei iaith. Os oes gennych fwy o ddiddordeb mewn gwyddoniaeth, ewch i’r Amgueddfa Gwyddoniaeth a Diwydiant yn Castlefield, lle gallwch ddysgu mwy am y syniadau a’r dyfeisiau arloesol a ddechreuodd ym Manceinion ac a aeth ymlaen i newid y byd.
Mae'r ddinas yn dod yn fyw gyda'r nos. Ewch i weld gig neu ddrama arobryn, neu mwynhewch ddiod a chinio mewn tafarn glyd.
Y bore canlynol, ewch i ymweld â The Flat Baker a rhoi cynnig ar eu cacennau crwst wedi'u hysbrydoli gan Frasil. Ewch ar dram i archwilio un o fwrdeistrefi Manceinion, fel Didsbury neu Altrincham, neu arhoswch yng nghanol y ddinas ac ewch i New Cathedral Street, y prif gyrchfan ar gyfer siopau moethus Manceinion.
Mae Manceinion yn ganolfan wych ar gyfer bwyd a diod. P'un a ydych chi'n chwilio am fwyty â seren Michelin, bwyd Asiaidd dilys neu neuadd fwyd fywiog, mae'r ddinas yn cynnig amrywiaeth eang o brofiadau. Ar ôl eich pryd o fwyd, ewch i far ar ben to, fel 20 Stories, lle gallwch fwynhau diod gyda golygfeydd panoramig o'r ddinas.
Mae'n werth cymryd eich amser i brofi'r ddinas. Arhoswch ychydig yn hirach, archwiliwch fwy a darganfyddwch y Manceinion go iawn.
Pam ymweld â Manceinion?
Mae sîn ddiwylliannol Manceinion yn un o uchafbwyntiau'r ddinas. Darganfyddwch gasgliadau byd-enwog yn Oriel Gelf Manceinion, mwynhewch brofiadau diwylliannol arloesol yn Aviva Studios neu cymerwch eich sedd ar gyfer sioe anhygoel yn Theatr y Royal Exchange.
Mae pêl-droed yn rhan annatod o hunaniaeth Manceinion ac mae llawer mwy i'w weld a'i wneud yn y ddinas os ydych chi'n dod i wylio gêm. Ymchwiliwch i'r straeon y tu ôl i'r gêm arbennig yn Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol, neu ewch y tu ôl i'r llenni ar daith o amgylch un o stadiymau chwedlonol y ddinas.
Mae Manceinion yn enwog am gerddoriaeth ac mae gigs a sioeau i'w mwynhau trwy gydol y flwyddyn. Darganfyddwch artistiaid newydd mewn lleoliadau llawr gwlad fel Night and Day neu YES, neu ewch i wylio sêr byd-eang yn yr AO Arena neu Co-op Live.
Mae sîn bwyd a diod y ddinas yn ffynnu. O boptai a siopau coffi lleol i fwytai o fri a bariau bywiog, fe welwch chi fwyd gwych wedi'i greu â dawn leol.
Os ydych chi awydd ychydig o therapi siopa, mae gan Fanceinion bopeth sydd ei angen arnoch. Fe welwch siopau moethus fel Selfridges a Harvey Nichols, siopau poblogaidd y stryd fawr yn Manchester Arndale a siopau vintage yn y Northern Quarter.
Mae digon o resymau dros ymweld â Manceinion ac aros yno, felly archebwch eich taith nawr.
Ble i aros ym Manceinion
Mae lletyau Manceinion yn cynnig rhywbeth at ddant pawb, waeth beth fo’ch chwaeth neu’ch cyllideb. P'un a yw'n well gennych wely a brecwast clyd, gwyliau sba moethus neu fflat gyda digon o le a gwasanaethau tebyg i westy, mae Manceinion yn cynnig arhosiad cofiadwy i bawb.
Dewch o hyd i leoedd i aros ym Manceinion.
Rhagor o wybodaeth am Fanceinion
P'un a ydych chi'n chwilio am deithlenni, atyniadau neu ragor o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y ddinas, fe welwch bopeth sydd ei angen arnoch ar dudalennau visitmanchester.com.
-
Ymweld â Chaerdydd Dewch i ddarganfod Visit Cardiff
-
Dewch o hyd i'ch Caer Dewch i ddarganfod Find your Chester
-
Ymweld ag Amwythig Dewch i ddarganfod Visit Shrewsbury
-