Gyda'n gwasanaeth o Amwythig i Fanceinion yn rhedeg o 05.30 drwy'r dydd tan 22.00, mae teithio rhwng y ddwy ddinas yn haws nac erioed.

Ewch o A i B yn ddidrafferth drwy ddewis teithio o Amwythig i Fanceinion ar y trên. Mae’r llwybr uniongyrchol yn un hygyrch, p’un ai ydych chi’n teithio ar gyfer busnes neu bleser.

 

Faint o amser mae’r trên yn ei gymryd o Amwythig i Fanceinion?

Mae’r daith o Amwythig i Fanceinion yn cymryd tua dwy awr. Rydym ni’n cynnig amrywiaeth o docynnau, gan gynnwys bargeinion ymlaen llaw, neu docynnau hyblyg unrhyw bryd. Defnyddiwch ein Wi-Fi am ddim sy'n eich galluogi i wneud rhywfaint o waith, sgwrsio â ffrindiau neu gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y clecs ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Pam teithio o Amwythig i Fanceinion?

Profwch ddinas gosmopolitan gyffrous Manceinion, gyda'i threftadaeth ddiwydiannol ddramatig, a'i hamrywiaeth ddiwylliannol gyfoethog, sy’n cynnig rhywbeth i bawb. Dros y canrifoedd, mae Manceinion wedi ailddyfeisio ei hun o fod yn bwerdy diwydiannol, i ganolfan ar gyfer y celfyddydau a siopau o safon.

Gydag amrediad llawn o atyniadau, o’r Sea Life Centre i’r Amgueddfa Wyddoniaeth a Diwydiant ryngweithiol, a Llwybr Trysor arloesol Spy Mission, mae rhywbeth cyffrous i'r teulu cyfan.

Yn fywiog yn ddiwylliannol, mae'r amrywiaeth o berfformiadau theatr yn eclectig ac amrywiol, gan gynnwys dramâu clasurol, comedi amgen a cherddoriaeth fyw, ac mae calendr llawn o wyliau a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn yn arddangos trosiant cyson o ddoniau sydd â’u bryd ar gyrraedd y West End. Mae bwytai, orielau celf ac amgueddfeydd gwobredig yn cystadlu am eich sylw ochr yn ochr â'r amrywiaeth eang o gyfleoedd manwerthu.

Felly pa un ai taith fusnes neu noson allan foethus gyda phryd o fwyd mewn bwyty cain a sioe ar ôl hynny sydd gennych chi dan sylw, mae gan Fanceinion rywbeth sy'n berffaith i chi.

Mae gennym ni amrywiaeth o opsiynau tocynnau ar gael, wedi eu cynllunio i arbed arian a thrafferth i chi. Drwy lwytho ein ap hawdd ei ddefnyddio i lawr, gallwch chi ddod o hyd i'r bargeinion gorau a’n holl docynnau rhataf sydd ar gael.