Mae teithio o Gaer i Fanceinion ar y trên yn rhwydd. Mae Manceinion yn ddinas fodern, gosmopolitan gyda diwylliant bywiog. Mae ganddi hefyd orffennol diwydiannol diddorol tu hwnt, sy'n cael ei ddathlu. Yn ystod y 50 mlynedd diwethaf, mae wedi ailddyfeisio ei hun fel canolfan ar gyfer y celfyddydau, diwylliant a manwerthu o'r radd flaenaf.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Pa mor hir yw'r daith ar y trên o Gaer i Fanceinion?

Mae'r daith yn cymryd ychydig dros awr ac mae'r gwasanaethau'n rhedeg pob 30 munud. Gallwch deithio ar ddyddiad ac amser sy'n addas i chi gyda'n tocynnau hyblyg Unrhyw bryd. Nid oes angen newid trên felly gallwch eistedd yn ôl ac ymlacio.

 

Pam teithio o Gaer i Fanceinion ar y trên?

Mae gan Fanceinion lawer i'w gynnig os ydych chi'n cynllunio taith diwrnod neu benwythnos, gyda chalendr llawn o ddigwyddiadau ac atyniadau trwy gydol y flwyddyn. Mwynhewch y Farchnad Nadolig hudol, bwytai o'r radd flaenaf, orielau, amgueddfeydd a digon o gyfleoedd siopa i'ch cadw'n brysur am ddyddiau. Dyma'r lle perffaith ar gyfer trip penwythnos.

Mae'r siopau sydd ar gael yng Nghanolfan Siopa Arndale a Chanolfan Siopa Trafford cystal â'r rhai sydd ar hyd stryd Regent yn Llundain gyda llawer o siopau dylunwyr ffasiwn enwog.  Yng Nghanolfan Trafford, mae sinema IMAX, Legoland Discovery a Chanolfan Bywyd y Môr gwych. Mae yna lawer o lefydd i fwynhau tamaid i'w fwyta, fel par neu gyda'r teulu cyfan. Mae rhywbeth at ddant pawb, p'un a ydych yn ymweld ar gyfer busnes neu bleser.

 

Pa docynnau trên alla i'w cael o Gaer i Fanceinion?

Mae gennym nifer o docynnau ar gael, gan gynnwys Tocynnau ymlaen llaw a Thocynnau unrhyw bryd, gyda chyfraddau gostyngol ar gael. Mae gennym docynnau a all arbed arian a thrafferth i chi. Trwy lawrlwytho ein ap sy'n hawdd i'w ddefnyddio, gallwch ddod o hyd i'r bargeinion gorau ar Docynnau advance a'n holl docynnau cost isaf sydd ar gael. Gallwch hefyd wirio amserlenni, prynu tocynnau a defnyddio ein gwiriwr capasiti i ddarganfod pa mor brysur yw eich trên yn debygol o fod, gan eich helpu i gynllunio eich taith.