
Cewch eich gwobrwyo am deithiau rheolaidd gyda ni
Mae Trafnidiaeth Cymru yn credu y dylid gwobrwyo teyrngarwch. Dyna pam rydyn ni'n rhoi yn ôl i'n cwsmeriaid sy'n teithio gyda ni yn rheolaidd trwy dreialu ap tocynnau ar gyfer ffonau symudol sy'n seiliedig ar danysgrifiadau o'r enw JurnyOn.
Mae'r ap hwn yn caniatáu i chi brynu cynnyrch yn debyg i gerdyn rheilffordd yn fisol, a fydd yn eich galluogi i fachu gostyngiadau ar eich teithiau Advance.
Byddwch hefyd yn ennill pwyntiau teyrngarwch ar deithiau a brynir trwy'r ap, y gellir eu defnyddio i leihau cost eich tanysgrifiad misol.
Awydd datgloi hyd at 35% o arbedion yn syth? Prynwch un o'r haenau tanysgrifio a dechreuwch fwynhau arbedion ar unwaith o'r diwrnod cyntaf.
Sut mae'n gweithio?
1. Lawrlwytho a Chofrestru
Dechreuwch trwy lawrlwytho'r ap ar iOS a chreu eich cyfrif am ddim.
2. Archebu ac Arbed
Prynwch eich tocynnau Advance TrC trwy'r ap a dechreuwch ennill pwyntiau teyrngarwch neu ddatgloi arbedion ar unwaith trwy ddewis tanysgrifiad sy'n addas i chi.
3. Teithiwch yn hapus
Eisteddwch yn ôl, mwynhewch y daith a gwyliwch eich pwyntiau yn cynyddu.
Byddwch yn ennill pwyntiau ar gyfradd o 1 pwynt am bob milltir a deithiwyd, sy'n cyfateb i 1 ceiniog i'w rhoi tuag at wrthbwyso cost eich tanysgrifiad. Unwaith y byddwch chi'n cyrraedd y gwerth arian parod cyfatebol ar gyfer eich haen, gallwch ddefnyddio eich pwyntiau teyrngarwch er mwyn talu’r gost tanysgrifio. Er enghraifft, os ydych chi'n cronni 190 o bwyntiau teyrngarwch, gallwch gyfnewid y rhain am fynediad at y gostyngiad tanysgrifio haen arian, sydd â gwerth cyfatebol o £1.90 y mis.
Mae gan bob un ohonom arferion teithio a chyllidebau gwahanol. Dyna pam mae tri opsiwn tanysgrifio gwahanol i chi ddewis ohonynt. Gweler isod am ragor o wybodaeth am bob haen.