Teithio hygyrch
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rhagorol i’n holl gwsmeriaid. Yma fe gewch chi’r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch i gynllunio eich siwrnai, archebu cymorth, a chael gwybod am ein cynlluniau i wella hygyrchedd.

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rhagorol i’n holl gwsmeriaid.
Rydyn ni eisiau i bawb deithio'n hyderus. Dyna pam, os ydych chi’n bwriadu teithio gyda gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, gallwch ofyn am cymorth archeb ymlaen llaw – nawr hyd at 2 awr cyn y disgwylir i’ch taith ddechrau, unrhyw adeg o’r dydd.
Byddwch yn ymwybodol y gallwch chi bob tro “troi fyny a mynd” heb archebu cymorth ymlaen llaw, neu os ydych wedi archebu lle ar-lein nad yw wedi'i gadarnhau eto. Byddwn yn darparu cymorth i fynd â chi i ben eich taith.
- Gallwch archebu cymorth i deithwyr gyda ni ar-lein a dros y ffôn yma
- Neu, gallwch ddefnyddio’r Rhadffôn Cenedlaethol Cymorth i Deithwyr drwy ffonio 0800 0223720
- Mae’r dudalen we hon yn cynnwys gwybodaeth am hygyrchedd ein gorsafoedd ar hyn o bryd a’n cyfleusterau mewn gorsafoedd.
- I gael gwybodaeth am lai o hygyrchedd dros dro a manylion unrhyw oedi a tharfu ar wasanaethau a chyfleusterau, gallwch ddefnyddio unrhyw un o’r canlynol:
- JourneyCheck
- Ein tudalennau gorsafoedd
- Cysylltwch â’n Tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid
- National Rail Stations Made Easy
- Gallwch hefyd gyfeirio at ein Polisi Gwneud Gwasanaethau Rheilffyrdd yn Hygyrch
- Os hoffech chi roi adborth, defnyddiwch ein ffurflen cysylltu â ni
- Neu os ydych chi am gyflwyno cwyn, defnyddiwch ein ffurflen gwyno
- Pan fyddwch wedi archebu cymorth ac nad yw wedi’i ddarparu, byddwn yn rhoi iawndal i chi am eich taith. Mewn achosion lle mae cymorth wedi’i archebu trwy ein tîm, mewn unrhyw orsaf neu ar un o’n trenau, ac na ddarparwyd cymorth gan unrhyw staff, byddwn yn cynnig ad-daliad llawn i chi am gost y daith. Byddwn yn fwy na pharod i’ch helpu gyda’ch hawliad ar ôl i chi gysylltu â’r tîm cysylltiadau cwsmeriaid (Edrychwch ar ein Polisi Gwneud Gwasanaethau Rheilffyrdd yn Hygyrch i gael rhagor o fanylion).
-
Teithiwch yn Saffach
Gallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.
Gwirio capasiti