
Y Cynllun Waled Oren
Mae’r Cynllun Waled Oren yn brosiect ar y cyd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o strategaeth Anhwylderau Sbectrwm Awtistig Cymru Gyfan.
Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus i hyrwyddo’r Waled Oren fel offeryn cyfathrebu ar gyfer teithwyr.
Os ydych chi’n rhan o fusnes, sefydliad neu ysgol ac yn awyddus i ddarparu Waledi Oren i staff, cwsmeriaid neu fyfyrwyr, cysylltwch yn uniongyrchol â thîm Awtistiaeth Cymru. Byddant hefyd yn gallu rhoi amrywiaeth o adnoddau i chi sydd wedi’u datblygu i'ch cefnogi hyd yn oed ymhellach.
Cofiwch mai dim ond yng Nghymru y mae hyn yn cael ei gydnabod ar hyn o bryd.
Ar gyfer pwy mae’r cynllun
Mae’r Waled Oren ar gyfer unrhyw un a allai ei chael hi’n anodd cyfleu eu hanghenion wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ac a hoffai gael cymorth i gyfathrebu â staff wrth deithio ar fws neu drên. Mae wedi’i chynllunio’n arbennig i deithwyr ag Anhwylderau Sbectrwm Awtistig. Fodd bynnag, gall unrhyw un ag anabledd cudd ei ddefnyddio os byddai’n well ganddo gyfathrebu â staff heb ddefnyddio iaith lafar.
Sut mae’n gweithio
Mae gan y Waled Oren bocedi plastig lle gallwch roi geiriau a lluniau i’ch helpu i gyfleu eich anghenion i staff trafnidiaeth ledled Cymru. Dangoswch y waled i staff yn yr orsaf ac ar y bws neu’r trên pan fyddwch chi’n teithio neu’n prynu tocyn. Maen nhw wedi cael hyfforddiant i adnabod y waled ac i roi’r help priodol.
Sut mae creu geiriau a lluniau
Gallwch lawrlwytho templedi ar-lein neu greu eich templed eich hun drwy dorri darn o bapur i fesur 90x60mm.
Taflen Argraffu Waled Oren | Agor ar ffurf PDF
Mae rhagor o bethau i’w lawrlwytho ar gyfer y Waled Oren ar gael o wefan Anhwylderau Sbectrwm Awtistig Cymru.
Mewn argyfwng
Rydyn ni’n argymell eich bod yn cadw manylion cyswllt y person yr hoffech i ni ei ffonio mewn argyfwng yn eich Waled Oren. Dangoswch eich waled i aelod o staff i ddangos bod angen help arnoch chi.
Cael eich Waled Oren
Os gallai’r Waled Oren eich cefnogi chi wrth deithio gyda ni, cysylltwch â ni gyda’ch cyfeiriad llawn ac fe anfonwn ni waled atoch chi:
-
Dros y ffôn: ffoniwch ni ar 03333 211 202
-
Dros e-bost: customer.relations@tfwrail.wales
-
Wyneb yn wyneb: mae'r waledi hyn ar gael mewn rhai llyfrgelloedd - i gael manylion ewch i wefan Anhwylderau Sbectrwm Awtistig Cymru.
-
Oeddech chi’n gwybod?Mae gan Gymru lawer i’w gynnigDarganfod hyd a lled rhwydwaith Trafnidiaeth CymruArchwiliwch ein Rhwydwaith