Meddwl yn wahanol. Gwneud y peth iawn.
Mae angen i ni newid y ffordd rydyn ni’n teithio. Mae angen llai o geir ar ein ffyrdd a mwy o bobl yn cerdded, yn beicio neu’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae angen i ni ddod yn genedl sy’n defnyddio trafnidiaeth gynaliadwy yn gyntaf, felly mae hynny’n golygu meddwl yn wahanol am y teithiau rydyn ni’n eu gwneud.
Rydyn ni eisiau i chi fod yn hyderus y gallwch chi gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio o ddrws i ddrws oherwydd bydd yn golygu dyfodol iachach, glanach a gwyrddach i bob un ohonom. Dyna pam rydyn ni’n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth hygyrch a fydd yn creu cyfleoedd i bawb wneud y peth iawn - pwy bynnag ydyn ni, ble bynnag rydyn ni’n byw neu sut bynnag rydyn ni’n byw ein bywydau.
Mae’n ymwneud â gwneud y peth iawn i’n hiechyd a’n hamgylchedd. Dyma’r peth iawn i Gymru.