
Fe allwch chi arbed rhagor o arian wrth brynu tocynnau trên drwy ddefnyddio
Cerdyn Rheilffordd. Dyma'n rhai mwyaf poblogaidd:
Cerdyn Rheilffordd i Ddau Berson (Two Together Railcard)
Os byddwch chi'n teithio gyda pherson arall, bydd y ddau ohonoch chi'n traean (1/3) i ffwrdd oddi ar bris tocynnau. Ewch i www.twotogether-railcard.co.uk. i gael rhagor o wybodaeth.
16-17 Saver
Mae’r 16-17 Saver yn rhoi gostyngiad o 50% oddi ar docynnau Tymor Safonol, Cyfnodau Tawelach, Advance ac Unrhyw Bryd i bawb sy’n 16 a 17 oed.
Cerdyn Rheilffordd 16 - 25
Mae pobl ifanc 16 to 25 oed (a rhai ohonoch chi mewn addysg amser llawn) yn cael traean (1/3) i ffwrdd oddi ar bris tocynnau. Ac erbyn hyn, mae gostyngiadau i'w cael ar docynnau Advance Dosbarth Safonol a Dosbarth Cyntaf Trafnidiaeth Cymru. Ewch i www.16-25railcard.co.uki gael rhagor o wybodaeth.
Cerdyn Rheilffordd Teulu a Chyfeillion
Gyda Cherdyn Rheilffordd Teulu a Chyfeillion, fe allwch chi gael traean (1/3) i ffwrdd oddi ar brisiau tocynnau tren i deithio ledled Prydain. Ewch i www.familyandfriends-railcard.co.uki weld faint o arian y gallwch ei arbed.
Cerdyn Rheilffordd y Cymoedd i Bobl dros 60 oed (Senior Railcard)
Gyda Cherdyn Rheilffordd y Cymoedd i Bobl dros 60 oed gallwch gael 1/3 i ffwrdd oddi ar brisiau tocynnau trên i deithio ledled Prydain.. Ewch i www.senior-railcard.co.uk i weld faint o arian y gallwch ei arbed a gwneud cais ar-lein.
Cerdyn Rheilffordd Pobl Anabl
Gyda Cherdyn Rheilffordd Pobl Anabl, gallwch gael traean (1/3) i ffwrdd oddi ar brisiau tocynnau trên i deithio ledled Prydain. Ewch i www.disabledpersons-railcard.co.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Cerdyn Gostyngiadau Teithio Canolfan Byd Gwaith
Gyda Cherdyn Gostyngiadau Teithio Canolfan Byd Gwaith gallwch arbed 50% oddi ar brisiau tocynnau trên. Mae’r cerdyn yn rhad ac am ddim ac mae wedi’i gynllunio i helpu pobl sy’n ddi-waith ar hyn o bryd i deithio i gyfweliadau swyddi am lai o gost. Bydd y cerdyn yn dod i ben ar ôl tri mis.
Gallwch arbed 50% ar y canlynol:
- Tocynnau Diwrnod Unrhyw Bryd
- Tocynnau Diwrnod Cyfnodau Tawelach
- Tocynnau tymor (hyd at dri mis)
I fod yn gymwys i gael Cerdyn Gostyngiadau Teithio Canolfan Byd Gwaith mae’n rhaid eich bod chi’n hawlio:
- Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith rhwng 3 a 9 mis, os ydych chi’n 18-24 oed
- Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith rhwng 3 a 12 mis, os ydych chi’n 25 oed neu drosodd
Gallwch wneud cais am gerdyn yn eich Canolfan Byd Gwaith leol - i gael rhagor o wybodaeth, siaradwch ag un o’r cynghorwyr yno.
Nodwch: caiff cardiau eu rhoi yn dibynnu ar yr achosion unigol.
Cardiau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru
Gallwch arbed llawer o arian gyda cherdyn rheilffordd Trafnidiaeth Cymru. Dyma sydd ar gael i chi:
-
Cerdyn Rheilffordd Calon Cymru
-
Am £12.50 y flwyddyn yn unig, mae’r cerdyn hwn ar gael i breswylwyr dros 16 oed sy’n byw ar hyd llinell Calon Cymru. Gallwch arbed 34% gyda Cherdyn Rheilffordd Calon Cymru. A gallwch fynd â hyd at dau blentyn rhwng 5 a 15 oed gyda chi am £2.00 yr un. Mae plant dan 5 oed yn teithio am ddim. Gallwch brynu un o’n swyddfeydd tocynnau yn Abertawe, Llanelli, Llandrindod ac Amwythig.
-
Mae Rheilffordd Calon Cymru yn rhedeg rhwng Abertawe, Llanelli ac Amwythig, ac yn mynd drwy Landrindod. Dim ond i deithiau lleol y mae'r gostyngiad yn berthnasol.
-
-
Cerdyn Rheilffordd Pobl Hŷn
-
Os ydych chi dros 60 oed, gallwch arbed 50% ar Docynnau Dwyffordd Unrhyw Bryd a Chyfnodau Tawelach am flwyddyn gyda Cherdyn Rheilffordd Pobl Hŷn Cymru. Dim ond £12.50 mae’n gostio ac mae modd ei ddefnyddio ar gyfer teithiau ar hyd llwybrau lleol Caerdydd a'r Cymoedd ar ôl 09:30.
-
-
Cerdyn Rheilffordd i Fyfyrwyr ar gyfer Llwybrau Lleol Caerdydd a'r Cymoedd
-
Am £12.50 y flwyddyn yn unig, mae ein Cerdyn Rheilffordd i Fyfyrwyr yn rhoi 34% oddi ar bris pob tocyn diwrnod a 10% oddi ar bris pob tocyn tymor ar ein trenau ar hyd llwybrau lleol Caerdydd a'r Cymoedd. Mae’r gostyngiadau hyn yn berthnasol y tu allan i'r tymor ac ar benwythnosau hefyd.
-
-
Cerdyn Rheilffordd y Cambrian
-
Am £12.50 y flwyddyn, gallwch gael ⅓ oddi ar bris y rhan fwyaf o docynnau Dosbarth Safonol ar Reilffordd y Cambrian gyda Cherdyn Rheilffordd y Cambrian. Hefyd, gallwch ddod â hyd at ddau blentyn rhwng 5 a 15 oed gyda chi am £2.00 yr un. Mae plant dan 5 oed yn teithio am ddim. Mae rheilffordd y Cambrian yn rhedeg rhwng Pwllheli, Aberystwyth, Machynlleth, y Drenewydd, Amwythig a phob gorsaf rhwng y rhain.
-
-
Cerdyn Rheilffordd Sir Benfro
-
Am £12.50 y flwyddyn yn unig, mae’r cerdyn hwn ar gael i breswylwyr dros 16 oed sy’n mewn codau post penodol yn Sir Benfro. Gallwch arbed 34% gyda Cherdyn Rheilffordd Sir Benfro. A gallwch ddod â hyd at ddau blentyn rhwng 5 a 15 oed gyda chi am £2.00 yr un. Mae plant dan 5 oed yn teithio am ddim.
-
Gellir defnyddio Cerdyn Rheilffordd Sir Benfro ar gyfer teithiau yn Sir Benfro a rhai sy’n mynd ymlaen i Abertawe drwy Gaerfyrddin.
-
Gallwch brynu eich Cerdyn Rheilffordd Sir Benfro yn swyddfa docynnau Caerfyrddin neu Hwlffordd. Dim ond i breswylwyr sydd ag un o'r codau post isod y mae'r cerdyn rheilffordd ar gael: SA34 0; SA61 1; SA61 2; SA62 3; SA62 4; SA62 5; SA62 6; SA63 4; SA64 0; SA65 9; SA66 7; SA67 7; SA67 8; SA68 0; SA69 9; SA70 7; SA70 8; SA71 4; SA71 5; SA72 4; SA72 6; SA73 1;SA73 2; SA73 3.
-
-
Cerdyn Rheilffordd 18 Saver
-
-
Mae Cerdyn Rheilffordd 18 Saver Trafnidiaeth Cymru yn rhoi disgownt o 50% ar docynnau Dosbarth Safonol, ar wasanaethau trenau Trafnidiaeth Cymru yn unig, yn yr ardal ddilys (edrychwch ar y map).
-
Rhaid i’r rheini sydd eisiau cerdyn fod yn 18 oed a dangos prawf o’u hoed pan fyddan nhw’n prynu’r cerdyn.
-
Mae’r cerdyn rheilffordd yn ddilys am hyd at flwyddyn o’r dyddiad cyhoeddi a bydd yn dod i ben ar y diwrnod cyn pen-blwydd yr unigolyn yn 19. Dim ond ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru mae modd defnyddio’r cerdyn.
-
Dim ond yn swyddfeydd tocynnau Trafnidiaeth Cymru a gan asiantwyr adwerthu mae modd prynu’r cerdyn.
-
Caiff pob tocyn ei roi yn unol ag Amodau Teithio National Rail ac nid oes modd eu trosglwyddo.
-
Nid oes modd rhoi cardiau rheilffordd yn lle rhai sydd wedi’u colli neu eu difrodi.
-
Nid yw’r cerdyn rheilffordd yn ddilys oni bai ei fod wedi cael ei lofnodi gan y deiliad, ac nid oes modd ei drosglwyddo i unrhyw un arall. Dim ond deiliad y cerdyn rheilffordd sy’n cael defnyddio tocynnau sydd wedi cael eu prynu gyda cherdyn rheilffordd.
-
Nid yw’r cerdyn rheilffordd yn eiddo i chi a bydd yn rhaid i chi ei roi i Trafnidiaeth Cymru os bydd gofyn i chi wneud hynny.
-
Pan fydd aelod o staff rheilffyrdd yn gofyn, rhaid i ddeiliad y cerdyn ddangos cerdyn rheilffordd dilys, neu bydd yn rhaid talu’r pris safonol llawn fel pe na bai ganddo docyn rheilffordd.
-
-
Dilysrwydd tocynnau â disgownt
-
Caniateir teithio o fewn dilysrwydd arferol y tocynnau sydd wedi’u rhoi ar yr amod bod gan y teithiwr gerdyn rheilffordd dilys ac yn gallu ei ddangos ar gais.
-
Dim ond ar gyfer teithio ar wasanaethau sy’n cael eu gweithredu gan Trafnidiaeth Cymru mae modd defnyddio tocynnau â disgownt ac ni fyddant yn ddilys ar ôl i’r cerdyn rheilffordd ddod i ben.
-
Mae tocynnau yn amodol ar Amodau Teithio National Rail a’r amodau hynny sydd wedi’u rhestru yn y daflen hon
-
Os bydd achos o wrthdaro, bydd yr amodau yn y daflen hon yn berthnasol.
-
Gallai’r telerau ac amodau hyn newid. I gael manylion, gofynnwch yn eich gorsaf Trafnidiaeth Cymru agosaf sydd â staf.
Disgownt o 50% i’r rheini sy’n 18 oed
-
Am ddim ond £20 y flwyddyn, mae’r Cerdyn Rheilffordd 18 Saver yma yn rhoi 50% i ffwrdd oddi ar docynnau Dosbarth Safonol ar siwrneiau perthnasol ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn unig (edrychwch ar y map i weld yr ardal ddilys).
-
-
Sut mae cael eich Cerdyn Rheilffordd 18 Saver Trafnidiaeth Cymru
-
Mae’r Cerdyn Rheilffordd 18 Saver Trafnidiaeth Cymru ar gael o swyddfeydd tocynnau Trafnidiaeth Cymru a gan asiantwyr adwerthu yn unig. Gallwch chi dalu gydag arian parod, cerdyn debyd neu gredyd a chofiwch fynd â phrawf o’ch oed gyda chi.
-
-
-
Cerdyn Rheilffordd i Fyfyrwyr
-
-
Mae Cerdyn Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru i Fyfyrwyr yn rhoi disgownt o 34% ar docynnau Dosbarth Safonol, adisgownt o 10% ar Docynnau Tymor, ar wasanaethau trenau Trafnidiaeth Cymru yn unig, yn yr ardal ddilys (edrychwch ar y map).
-
Rhaid i’r rheini sydd eisiau cerdyn fod mewn addysg a darparu prawf o’u statws addysgol pan fyddant yn prynu’r cerdyn.
-
Mae’r cerdyn rheilffordd yn ddilys am flwyddyn ar ôl y dyddiad y bydd yn cael ei roi
-
Dim ond yn swyddfeydd tocynnau Trafnidiaeth Cymru a gan asiantwyr adwerthu mae modd prynu’r cerdyn..
-
Caiff pob tocyn ei roi yn unol ag Amodau Teithio National Rail ac nid oes modd eu trosglwyddo.
-
Nid oes modd rhoi cardiau rheilffordd yn lle rhai sydd wedi’u colli neu eu difrodi.
-
Nid yw’r cerdyn rheilffordd yn ddilys oni bai ei fod wedi cael ei lofnodi gan y deiliad, ac nid oes modd ei drosglwyddo i unrhyw un arall. Dim ond deiliad y cerdyn rheilffordd sy’n cael defnyddio tocynnau sydd wedi cael eu prynu gyda cherdyn rheilffordd.
-
Nid yw’r cerdyn rheilffordd yn eiddo i chi a bydd yn rhaid i chi ei roi i Trafnidiaeth Cymru os bydd gofyn i chi wneud hynny.
-
Pan fydd aelod o staff rheilffyrdd yn gofyn, rhaid i ddeiliad y cerdyn ddangos cerdyn rheilffordd dilys, neu bydd yn rhaid talu’r pris safonol llawn fel pe na bai ganddo docyn rheilffordd.
-
-
Dilysrwydd tocynnau â disgownt
-
Caniateir teithio o fewn dilysrwydd arferol y tocynnau sydd wedi’u rhoi ar yr amod bod gan y teithiwr gerdyn rheilffordd dilys ac yn gallu ei ddangos ar gais.
-
Dim ond ar gyfer teithio ar wasanaethau sy’n cael eu gweithredu gan Trafnidiaeth Cymru mae modd defnyddio tocynnau â disgownt ac ni fyddant yn ddilys ar ôl i’r cerdyn rheilffordd ddod i ben.
-
Mae tocynnau yn amodol ar Amodau Teithio National Rail a’r amodau hynny sydd wedi’u rhestru yn y daflen hon.
-
Os bydd achos o wrthdaro, bydd yr amodau yn y daflen hon yn berthnasol.
-
Gallai’r telerau ac amodau hyn newid. I gael manylion, gofynnwch yn eich gorsaf agosaf sydd â staf.
-
-
Disgownt o 34 y cant i fyfyrwyr
-
Am ddim ond £20 y flwyddyn, mae Cerdyn Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru i Fyfyrwyr yn rhoi 34% i ffwrdd oddi ar docynnau Dosbarth Safonol, a 10% i ffwrdd oddi ar docynnau tymor Dosbarth Safonol, ar siwrneiau perthnasol ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn unig (edrychwch ar y map i weld yr ardal ddilys)
-
-
Sut mae cael eich Cerdyn Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru i Fyfyrwyr
-
Mae’r Cerdyn Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru i Fyfyrwyr ar gael o swyddfeydd tocynnau Trafnidiaeth Cymru a gan asiantwyr adwerthu. Gallwch chi dalu gydag arian parod, cerdyn debyd neu gredyd a chofiwch fynd â’ch cerdyn ID myfyriwr gyda chi i brofi eich bod yn gymwys.
-
-
Beth os ydw i wedi gadael fy Ngherdyn Rheilffordd gartref?
- Os nad ydych chi’n gallu dangos Cerdyn Rheilffordd pan fyddwch chi’n prynu tocyn neu pan fydd eich tocyn yn cael ei archwilio, bydd y pris heb ostyngiad yn daladwy fel pe na bai gennych chi docyn neu Gerdyn Rheilffordd.
- O ganlyniad, ni ellir ad-dalu’r tocynnau hyn heb ostyngiad ond gellir ad-dalu’r rhan heb ei defnyddio o’r tocyn(nau) pris gostyngol - ar ôl tynnu'r ffi am weinyddu’r ad-daliad. Ni ellir ystyried unrhyw geisiadau dilynol neu ychwanegol am ad-daliadau.
- Ni fydd Cerdyn Rheilffordd yn ddilys os bydd deiliad y cerdyn yn mynd ar unrhyw drên heb docyn pan oedd y swyddfa docynnau ar agor. Yn y sefyllfa hon, dim ond y tocyn Unffordd neu Ddwyffordd Unrhyw Bryd llawn y gall y cwsmer ei brynu ar y trên heb ostyngiad. Bydd plant sy’n teithio gyda chi yn talu am docyn plentyn arferol. Ar drenau talu ar y pryd neu pan fydd y swyddfa docynnau wedi cau, gall cwsmeriaid brynu tocynnau ar y trên am y pris gostyngol priodol. Mewn ardaloedd Tocynnau Cosb, dylai cwsmeriaid brynu trwydded i deithio cyn mynd ar y trên.
- Rhaid i gwsmeriaid â thocynnau dwyffordd dros gyfnod ddal Cerdyn Rheilffordd dilys drwy gydol y daith yno ac yn ôl.
-
Oeddech chi’n gwybod?Mae gan Gymru lawer i’w gynnigDarganfod hyd a lled rhwydwaith Trafnidiaeth CymruArchwiliwch ein Rhwydwaith