Mae’r 16-17 Saver yn rhoi gostyngiad o 50% oddi ar docynnau Tymor Safonol, Cyfnodau Tawelach, Advance ac Unrhyw Bryd i bawb sy’n 16 a 17 oed.

Mae’n ofynnol i bobl ifanc aros ym myd addysg neu hyfforddiant hyd eu pen-blwydd yn 18 oed yn Lloegr, ond nid ydynt yn cael tocynnau rheilffordd hanner pris i blant ar ôl iddynt gyrraedd 16 oed. Lluniwyd y 16-17 Saver i bontio’r bwlch a darparu dwy flynedd ychwanegol o docynnau plant i gefnogi pobl ifanc.

Bu’r diwydiant rheilffyrdd yn gweithio gyda’r Adran Drafnidiaeth i greu a darparu cynnyrch newydd sy’n ymestyn prisiau tocynnau plant i bobl ifanc 16 a 17 oed. Bydd y 16-17 Saver newydd yn mynd ar werth ar 20 Awst am £30 a budd yn rhoi gostyngiad o 50% oddi ar eu teithiau ar y rheilffyrdd (gan gynnwys tocynnau Tymor) i bobl ifanc hyd at 18 oed o’r 2il Medi. Mae’r 16-17 Saver newydd am roi hwb i gyfleoedd addysgol, cymunedau a busnesau

 

 

Gwnewch gais am 16-17 Saver

 

Pa ostyngiad fydda i’n ei gael?

50% oddi ar docynnau Tymor Safonol, Cyfnodau Tawelach, Advance ac Unrhyw Bryd.

 

Faint mae’n ei gostio?

£30 am 1 flwyddyn neu hyd eu pen-blwydd yn 18 oed

 

Pwy all wneud cais?

Pawb sy’n 16 a 17 oed.

 

A oes unrhyw gyfyngiadau ar deithio?

Fe gewch chi deithio ar unrhyw adeg.

 

Ble mae cael un?

Ddim ond ar-lein y 16–17saver.co.uk

NID YW 16-17 Saver ar gael i’w brynu yn swyddfeydd tocynnau National Rail.

Byddwch angen Prawf o’ch oedran a llun maint pasbort pan fyddwch yn gwneud cais.

 

Sut mae’r 16-17 Saver yn wahanol i’r Cerdyn Rheilffordd 16-25 presennol?

Bydd y 16-17 Saver hwn yn rhoi lefel wahanol o ostyngiad i’r Cerdyn Rheilffordd 16-25, sydd wedi’i anelu at deithio i ddibenion hamdden. Mae’r Cerdyn Rheilffordd 16-25 yn cynnwys isafswm tâl o £12 am deithiau’n dechrau rhwng 4.30am a 10am ar ddyddiau’r wythnos, ac o’r herwydd mae’n llai defnyddiol i deithio yn ôl ac ymlaen i addysg neu hyfforddiant. Bydd llai o gyfyngiadau’n gysylltiedig â’r 16-17 Saver, gyda deiliaid cardiau rheilffordd yn gymwys i gael tocynnau am hanner pris, gan gynnwys tocynnau tymor, a gyda dim isafswm cost.

 

Gwnewch gais am 16-17 Saver

 

  • Telerau ac Amodau
      • Ddim yn gymwys ar gyfer teithio ar wasanaethau ScotRail a Thrên Cysgu Caledonia.

      • NID yw cymhwysedd yn gysylltiedig ag addysg

      • 50% oddi ar docynnau Tymor safonol, Cyfnodau Tawelach, Advance ac Unrhyw Bryd (National Rail yn unig)