Sut bydd y gwaith o drawsnewid y Metro yn effeithio ar eich cynlluniau teithio yn Ionawr 2026

Mae’r Metro yn cael ei adeiladu’n bwrpasol ar gyfer dyfodol Cymru. Bydd yn ffordd fodern, effeithlon a chynaliadwy o deithio, ond efallai y bydd cyfnodau o newid i’ch cynlluniau teithio dros dro tra byddwn yn ei adeiladu. Lle bo hynny’n bosibl, rydyn ni’n trefnu bod y gwaith trawsnewid yn digwydd yn ystod cyfnodau llai prysur er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl. Rydyn ni’n cynnig cysylltiadau rhwng gwasanaethau rheilffyrdd a gwasanaethau bysiau.

 

Gwasanaethau bws yn lle’r trenau

Ionawr

Pontypridd - Treherbert | Dydd Iau 01 Ionawr, trwy’r dydd
Pontypridd - Treherbert
Pontypridd - Aberdâr | Dydd Sul 04 Ionawr - Dydd Gwener 23 Ionawr, trwy’r dydd
Pontypridd - Aberdâr
Caerdydd Canolog - Parc Ninian - Radur | Dydd Sul 04 Ionawr, trwy’r dydd

Dim gwasanaeth bws yn lle trên.

Gellir defnyddio tocynnau trên ar Bws Caerdydd,gwasanaethau 61,62,63.

Caerdydd Canolog - Parc Ninian - Radur
Caerdydd Canolog - Parc Ninian - Radur | Dydd Llun 05 Ionawr - Dydd Iau 08 Ionawr, yn hwyr y nos yn unig

Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith peirianneg yn digwydd dros nos a weithiau gall arwain at newidiadau i wasanaethau gyda’r nos ac yn y bore. Bydd y gwaith hwn yn effeithio ar wasanaethau ar y lein hon.

Caerdydd Canolog - Parc Ninian - Radur
Caerdydd Canolog - Parc Ninian - Radur | Dydd Sul 11 Ionawr tan 13:00

Dim gwasanaeth bws yn lle trên.

Gellir defnyddio tocynnau trên ar Bws Caerdydd,gwasanaethau 61,62,63.

Caerdydd Canolog - Parc Ninian - Radur
Caerdydd Canolog - Parc Ninian - Radur | Dydd Sul 11 Ionawr - Dydd Gwener 16 Ionawr, yn hwyr y nos yn unig

Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith peirianneg yn digwydd dros nos a weithiau gall arwain at newidiadau i wasanaethau gyda’r nos ac yn y bore. Bydd y gwaith hwn yn effeithio ar wasanaethau ar y lein hon.

Caerdydd Canolog - Parc Ninian - Radur
Caerdydd Canolog - Ystrad Mynach | Dydd Llun 12 Ionawr - Dydd Iau 15 Ionawr, yn hwyr yn y nos
Cardiff Central - Ystrad Mynach
Caerdydd Canolog - Caerdydd Heol y Frenhines - Bae Caerdydd | Dydd Llun 12 Ionawr - Dydd Gwener 16 Ionawr, yn gynnar yn y bore ac yn hwyr yn y nos
Cardiff Central - Cardiff Queen Street - Cardiff Bay
Caerdydd Canolog - Llandaf - Pontypridd | Dydd Llun 12 Ionawr - Dydd Sadwrn 17 Ionawr, yn hwyr y nos yn unig

Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith peirianneg yn digwydd dros nos a weithiau gall arwain at newidiadau i wasanaethau gyda’r nos ac yn y bore. Bydd y gwaith hwn yn effeithio ar wasanaethau ar y lein hon.

Cardiff Central - Llandaf - Pontypridd
Caerdydd Canolog - Coryton | Dydd Sadwrn 17 Ionawr, diwedd min nos o 22:30

Gellir defnyddio tocynnau trên ar Bws Caerdydd, gwasanaethau 21, 23, 27. Dim gwasanaeth bws yn lle trên.

Cardiff Central - Coryton
Caerdydd Canolog - Caerdydd Heol y Frenhines - Bae Caerdydd | Dydd Sadwrn 17 Ionawr, diwedd min nos
Cardiff Central - Cardiff Queen Street - Cardiff Bay
Caerdydd Canolog - Ystrad Mynach | Dydd Sadwrn 17 Ionawr, diwedd min nos
Cardiff Central - Ystrad Mynach
Caerdydd Canolog - Caerffili | Dydd Sul 18 Ionawr, yn gynnar yn y bore
Cardiff Central - Caerphilly
Caerdydd Canolog - Coryton | Dydd Sul 18 Ionawr, yn gynnar yn y bore tan 10:30

Gellir defnyddio tocynnau trên ar Bws Caerdydd, gwasanaethau 21, 23, 27. Dim gwasanaeth bws yn lle trên.

Cardiff Central - Coryton
Caerdydd Canolog - Parc Ninian - Radur | Dydd Sul 18 Ionawr tan 12:30

Dim gwasanaeth bws yn lle trên.

Gellir defnyddio tocynnau trên ar Bws Caerdydd,gwasanaethau 61,62,63.

Caerdydd Canolog - Parc Ninian - Radur
Caerdydd Canolog - Merthyr Tudful | Dydd Sul 18 Ionawr, diwedd min nos

Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith peirianneg yn digwydd dros nos a weithiau gall arwain at newidiadau i wasanaethau gyda’r nos ac yn y bore. Bydd y gwaith hwn yn effeithio ar wasanaethau ar y lein hon.

Cardiff Central - Merthyr Tydfil
Caerdydd Canolog - Llandaf - Pontypridd | Dydd Llun 19 Ionawr - Dydd Iau 22 Ionawr, yn hwyr y nos yn unig

Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith peirianneg yn digwydd dros nos a weithiau gall arwain at newidiadau i wasanaethau gyda’r nos ac yn y bore. Bydd y gwaith hwn yn effeithio ar wasanaethau ar y lein hon.

Cardiff Central - Llandaf - Pontypridd
Caerdydd Canolog - Ystrad Mynach | Dydd Llun 19 Ionawr - Dydd Iau 22 Ionawr, yn hwyr yn y nos
Cardiff Central - Ystrad Mynach
Caerdydd Canolog - Caerdydd Heol y Frenhines - Bae Caerdydd | Dydd Llun 19 Ionawr - Dydd Gwener 23 Ionawr, yn gynnar yn y bore ac yn hwyr yn y nos
Cardiff Central - Cardiff Queen Street - Cardiff Bay
Teithio - Cwestiynau cyffredin

Pa waith fydd yn cael ei wneud yn ystod y cyfnod hwn?

Y bwriad yw ymgymryd â phecyn cyfan o waith, gan gynnwys gwaith ar y cledrau a’r signalau yn ogystal â gwaith cynnal a chadw cyffredinol. Gwybodaeth am y Metro yma.

 

Pryd fydd yr amserlenni diwygiedig ar gael ar y systemau archebu ar-lein?

Yn sgil y Coronafeirws, rydym yn rhedeg llai o wasanaethau ar hyn o bryd a bydd amserlenni trenau yn cael eu llwytho i fyny i’r systemau archebu tocynnau ar-lein wythnos ymlaen llaw. Cofiwch fwrw golwg ar eich taith cyn teithio. Bydd amserlenni bysiau diwygiedig yn cael eu harddangos yn eich gorsaf leol o ddechrau mis Gorffennaf.

 

Beth alla i ei ddisgwyl pan fyddaf yn cyrraedd cyfnewidfa gorsaf Radur?

Bydd gorsaf Radur yn gweithredu fel y brif gyfnewidfa rhwng y gwasanaethau trenau a bysiau. Bydd timau gwasanaeth cwsmeriaid ar gael yng ngorsaf Radur i gyfeirio'r cwsmeriaid i’r gyfnewidfa ac ohoni yn y maes parcio gerllaw. Mae trafnidiaeth ffordd wedi cael ei threfnu i gyd-fynd â'r gwasanaethau trên fel nad oes yn rhaid i chi ddisgwyl yn rhy hir.

 

Ble fyddaf i’n cael fy nghasglu neu fy ngollwng yn fy ngorsaf leol?

Mae’r rhan fwyaf o bwyntiau casglu / gollwng y gwasanaethau bysiau y tu allan i’r orsaf. Bydd digon o arwyddion ond gallwch ddod o hyd i’r lle i chi fynd i ddal y bysiau fydd yn rhedeg yn lle'r trenau yma (dewiswch eich gorsaf yna Gwybodaeth Maes Parcio) neu ar y Poster Gwybodaeth Ddefnyddiol yn eich gorsaf.

 

Fel arfer rwy'n mynd â beic ar y trên am fy mod ei angen i barhau â'm taith - oes modd i mi fynd â’m beic ar y bws?

Fel arfer ni chaniateir mynd â beic ar wasanaethau bysiau sy'n rhedeg yn lle’r trenau, ond lle bo modd gellir mynd â’ch beic yn ddibynnol ar ddisgresiwn y gyrrwr a’r lle sydd ar gael. Chi fydd yn gyfrifol am eich beic ar ein gwasanaethau bysiau, ac ni all Trafnidiaeth Cymru dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw ddifrod.

 

Alla’ i fynd â’m ci ar y gwasanaeth bysiau?

Fel arfer ni chaniateir cŵn ar y gwasanaethau bysiau sy'n rhedeg yn lle’r trenau, ac eithrio cŵn tywys.

 

Alla’ i fynd â phram ar y gwasanaeth bysiau?

Caniateir pramiau, ond gofynnwn i chi eu plygu cyn mynd ar y bws

 

Faint o amser ychwanegol fydd mynd ar y bws yn ychwanegu at fy nhaith?

I gael yr union amseroedd, bydd yn rhaid i chi edrych ar eich teithiau penodol, ond dyma ganllaw ar gyfer rhai teithiau allweddol. Mae’r rhain yn seiliedig ar amseroedd ar gyfartaledd ar gyfer yr adeg y teithir gyda’r nos.

LlwybrAmcan o amseroedd gwasanaethu bysiau
Radur - Pontypridd00:35 awr
Radur - Merthyr Tudful01:20 awr
Radur - Aberdare01:20 awr
Radur - Treherbert01:25 awr

 

Alla’ i brynu tocyn ar y bws?

Nid oes cyfleusterau i brynu tocynnau ar y bysiau. Mae’n rhaid i chi brynu tocynnau cyn mynd ar y bws o’ch swyddfa docynnau lleol, peiriannau tocynnau, ar-lein gan ddefnyddio ein hadnodd cynllunio teithiau neu ein ap.

 

Rwy’n defnyddio cadair olwyn, alla’ i ddefnyddio'r gwasanaeth bws sy'n rhedeg yn lle'r trenau?

Mae mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn am fod lloriau llwytho isel. I gael cyngor ac i drefnu cymorth ymlaen llaw, ffoniwch ein tîm Cymorth i Deithwyr ar 03330 050 501.

 

Gwaith gwella yn y dyfodol

I gael gwybod am y gwaith gwella ar draws ein rhwydwaith a all effeithio ar yr amserlen, ewch i’r dudalen hon.

Gwaith Peirianyddol