Cynllunio taith trên

Y Metro yw ein cyfle

Bydd y Metro yn cael ei adeiladu’n bwrpasol ar gyfer dyfodol Cymru. Bydd yn ei gwneud yn haws i bob un ohonom deithio, boed hynny ar y trên, ar fws, ar feic neu ar droed. Bydd yn ffordd fodern, effeithlon a chynaliadwy o deithio er mwyn i bob un ohonom allu defnyddio llai ar ein ceir a theithio mwy ar drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded neu feicio.

Fel rhan o’r rhwydwaith trafnidiaeth integredig rydyn ni’n ei adeiladu, bydd y Metro yn cysylltu ardaloedd â chanolfannau trafnidiaeth ac yn lleihau effaith amgylcheddol teithio yng Nghymru. Bydd hefyd yn creu mwy o ffyrdd o ymgorffori gweithgarwch corfforol mewn bywyd bob dydd a bydd hynny’n golygu Cymru iachach i bob un ohonom.

 

Pa fanteision y gallwch chi ddisgwyl eu cael?

Bydd y Metro yn helpu i gysylltu cymunedau ac yn helpu busnesau i ffynnu. Bydd yn arwain at amrywiaeth o gyfleoedd gwaith, hamdden a busnes, gan drawsnewid rhagolygon economaidd Cymru yn y dyfodol.

Mae’r Metro yn golygu teithiau sydd wedi’u cysylltu’n well, amseroedd teithio byrrach a ffordd fwy gwyrdd o deithio. Y Metro yw ein cyfle i adeiladu Cymru well - i bawb.

 

Cael gwybod beth mae’r Metro yn ei olygu yn eich ardal chi

 

Bydd gwasanaethau rheilffordd yn rhan allweddol o'r Metro, a gall y cwsmeriaid ddisgwyl gwasanaeth modern lle gallwch chi gyrraedd a mynd ac sy’n cynnig:

  • Teithiau cyflymaf, ac amseroedd teithio is
  • Cysylltiadau gwell rhwng gwahanol fathau o drafnidiaeth
  • Mwy o gapasiti
  • Gwasanaethau amlach
  • Gwasanaethau mwy dibynadwy 
  • Gwasanaethau mwy hygyrch
  • Tocynnau rhatach a ffordd fwy fforddiadwy o deithio ar y trên
  • Gwasanaethau gwyrddach