
Rydyn ni’n adeiladu canolfan drafnidiaeth yng nghanol Caerdydd i wella’r cysylltiadau rhwng bysiau, rheilffyrdd, cerdded a beicio ac i annog teithio cynaliadwy.
Bydd y Metro Canolog yn ganolfan drafnidiaeth sy’n caniatáu defnydd a mynediad hawdd at bob math o drafnidiaeth gyhoeddus fel rhan o wasanaeth ‘cyrraedd a mynd’ yng nghanol Caerdydd. Mae’r cynigion yn cynnwys gwelliannau i orsaf drenau Caerdydd Canolog a’r ardaloedd cyfagos.
Blaenoriaethau ar unwaith
Rheilffyrdd
Rydyn ni’n gwella gorsaf drenau Caerdydd Canolog er mwyn lliniaru gorlenwi a thagfeydd, gwella capasiti ar ddiwrnodau digwyddiadau a chaniatáu ar gyfer twf tymor hir o ran teithwyr. Bydd y gwelliannau’n creu prif ganolfan drafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a gorsaf Metro allweddol. Bydd y gyfnewidfa well yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn gwella ansawdd aer ac yn lleihau allyriadau carbon.
Bysiau
Bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn gyfleuster bysiau canolog newydd sbon gyda 14 o gilfannau bysiau ac amrywiaeth o gaffis a siopau.
Bydd y gyfnewidfa yn gwella cysylltiadau ac yn helpu pobl i wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy.
Teithio llesol
I ddechrau, byddwn yn cyflwyno 1,000 o fannau parcio beiciau o ansawdd uchel gyda’r gobaith o gynyddu nifer y lleoedd i 4,000 yn y tymor hwy.
Fel rhan o seilwaith teithio llesol newydd cyffrous Caerdydd, bydd y mannau hyn yn helpu pobl i deithio’n fwy cynaliadwy ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Cysylltu gwahanol fathau o drafnidiaeth
Bydd y gwaith o sicrhau bod gwahanol ddulliau trafnidiaeth yn cysylltu â’i gilydd yn yr ardal hon yn cael ei wneud ar sawl ffurf - o wella mannau parcio beiciau yn y ganolfan drafnidiaeth hon a gwella dulliau canfod y ffordd a gwybodaeth am newidiadau i seilwaith ffisegol, gan gynnwys gwarchod rhag y tywydd.
Prosiectau tymor hwy
Rheilffyrdd
Bydd ein huchelgeisiau tymor hwy ar gyfer y rheilffyrdd yng ngorsaf Caerdydd Canolog yn canolbwyntio ar gysylltu â Phrif Reilffordd De Cymru a’r cyswllt â Bae Caerdydd.
Cysylltu gwahanol fathau o drafnidiaeth
Byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor Caerdydd i gysylltu teithio ar fysiau a threnau â theithio llesol (cerdded a beicio) i alluogi pobl i wneud siwrneiau cyflawn gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, p’un a ydynt yn byw’n lleol neu’n ymweld â’r ddinas.