Rydym yn gweithio'n galed i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth integredig sy'n hawdd ei ddefnyddio, yn gwella cysylltedd ac sydd ar gael i bawb.  

Bydd ein Rhaglen Metro Gogledd Cymru gwerth miliynau o bunnoedd yn trawsnewid gwasanaethau trenau, bysiau a theithio llesol ar draws Gogledd Cymru.  Bydd yn ei gwneud hi'n haws ac yn gyflymach i deithio ar draws Gogledd Cymru ac adeiladu gwell cysylltiadau â Gogledd-orllewin Lloegr.  Bydd hyn yn helpu i greu mwy o gyfleoedd i’n cymunedau a chefnogi mewnfuddsoddiad i’r ardal.  

Bydd y Rhaglen hefyd yn gwella cysylltedd rhwng Gogledd Cymru a chyrchfannau allweddol yn y DU gyda chysylltiadau â HS2 a Northern Powerhouse Rail, gan helpu i gyflawni agenda datgarboneiddio Llywodraethau Cymru a’r DU a’u hymrwymiadau i fod yn garbon niwtral erbyn 2050.

 

Pa welliannau allwch chi ddisgwyl eu gweld?

Rydym yn buddsoddi yn y rhwydwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru i helpu i'n hannog ni oll i wneud dewisiadau teithio gwell a mwy cynaliadwy.  Rydym eisoes wedi dechrau gwella gwasanaethau yng Ngogledd Cymru: 

  • Ym mis Mai 2019, lansiwyd ein gwasanaeth newydd o Lerpwl i Wrecsam drwy Halton Curve, gan wella cysylltiadau rhwng Lerpwl a Gogledd Cymru.  
  • Yn 2023 rydym yn anelu at gynyddu nifer y gwasanaethau ar Reilffordd y Gororau rhwng Wrecsam a Bidston i ddau yr awr a bydd hyn yn cynnwys un gwasanaeth fydd yn galw ym mhob gorsaf ac un gwasanaeth cyflym.
  • Byddwn yn cyflwyno gwasanaeth newydd pob awr rhwng Lerpwl a Llandudno o fis Rhagfyr 2023 ac yn ymestyn gwasanaeth presennol Llandudno i Faes Awyr Manceinion gan gynnwys Bangor.  
  • O fis Rhagfyr 2024 byddwn yn darparu gwasanaeth newydd bob dwy awr rhwng Lerpwl a Chaerdydd, gyda gwasanaeth bob awr rhwng Amwythig a Lerpwl.

 

Gwella cysylltiadau

Rydym yn gweithio ar gynlluniau i wella ein gorsafoedd, gan ei gwneud yn haws i newid rhwng gwasanaethau trên a bws yn Wrecsam Cyffredinol, a rhwng gwasanaethau rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru a Llinell y Gororau yn Shotton. 

Rydym hefyd yn datblygu cynlluniau i wella trafnidiaeth gyhoeddus i ac o fewn i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac Ardal Fenter ehangach Glannau Dyfrdwy.  Bydd cyflwyno gorsaf reilffordd newydd Glannau Dyfrdwy yn darparu gwell cyfleoedd i bobl a busnesau lleol.

 

Lee Robinson
Lee Robinson

“Dros y blynyddoedd nesaf, bydd Trafnidiaeth Cymru yn gwella ac yn ehangu’r rhwydwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru wrth i ni gydweithio â phartneriaid i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o greu rhwydwaith trafnidiaeth integredig ar gyfer Cymru gyfan. Bydd ein cynlluniau ar gyfer Gogledd Cymru yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau bod y rhwydwaith yn diwallu anghenion lleol a rhanbarthol.”

Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu TrC ar gyfer y Canolbarth, y Gogledd a Chymru Wledig