HOFF FFORDD CYMRU O DEITHIO

Croeso i'ch Rhwydwaith T

Un rhwydwaith. Un amserlen. Un tocyn. Un tîm.

Yn 2021, pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, gosododd Gymru ar lwybr newydd i deithio'n fwy cynaliadwy, gan helpu i leihau allyriadau i sero net erbyn 2050 er mwyn brwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd. Mae cynyddu nifer y teithiau rydyn ni i gyd yn eu gwneud trwy deithio llesol (cerdded, olwynio neu feicio) neu gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gan 45% erbyn 2040 yn nod strategol.

Yn TrC, rydyn ni am fod yn hoff ffordd Cymru o deithio. Dyna pam rydyn ni'n adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth amlfoddol integredig o'r enw Rhwydwaith T - rhwydwaith cydgysylltiedig o drenau, bysiau, llwybrau cerdded, olwynio a beicio.

Bydd yn rhwydwaith sy'n ymarferol ac yn hawdd ei ddefnyddio. Gydag un amserlen i gynllunio'ch taith ac un tocyn i'ch cael chi o bwynt A i bwynt B. Bydd yn rhwydwaith a weithredir gan un tîm ymroddedig.

Bydd yn rhwydwaith i bawb. Rhwydwaith a fydd yn agored, yn fforddiadwy ac yn hygyrch - p'un a ydych chi'n teithio i'r gwaith, yn mynd i siopa neu'n mwynhau trip i'r traeth gyda’r teulu.

Rydym wedi ymchwilio i rwydweithiau trafnidiaeth amlfoddol ym mhob cwr o'r byd. Rydym yn gwybod bod gan y rhwydweithiau trafnidiaeth integredig gorau ffordd syml ac ymarferol o adael i bobl gynllunio, talu am deithiau a theithio o ddrws i ddrws.

Rydym yn hyderus ein bod yn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth sy'n addas ar gyfer dyfodol Cymru, wedi'i uno gan yr eicon T. Pryd bynnag y byddwch yn ei weld, byddwch yn gwybod ei fod yn arwydd sy’n golygu teithio dibynadwy yng Nghymru.

 

Beth yw'r Rhwydwaith T?

Rhwydwaith i bawb yng Nghymru

  • Rhwydwaith integredig, cydgysylltiedig o drenau, bysiau, llwybrau cerdded, olwynio a beicio.
  • Rhwydwaith wedi’i frandio, sydd wedi'i gynllunio'n dda, sy'n hawdd ei adnabod ac sy’n gyfarwydd i unrhyw un yng Nghymru.
  • Rhwydwaith hygyrch y gall unrhyw un ei ddefnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o'u hanghenion teithio, o ddrws i ddrws.
  • Rhwydwaith o bwyntiau cyswllt corfforol a digidol i gwsmeriaid sy’n gwneud teithio'n haws.
  • Rhwydwaith cynnes, croesawgar, sy’n llawn personoliaeth Gymreig ac sy'n annog pobl i'w ddefnyddio.
  • Rhwydwaith sy'n sail i Gymru fwy cysylltiedig a ffyniannus ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Sut mae'r rhwydwaith o fudd i mi?

  • Ffordd haws o deithio - boed hynny ar drên, ar fws, ar feic, ar olwynion neu ar droed.
  • Trafnidiaeth sy'n fwy diogel, yn fwy cyfleus ac yn fwy hygyrch i bawb.
  • Mynediad gwell at addysg a chyfleoedd cyflogaeth ledled Cymru.
  • Cymru sydd â gwell cysylltiadau, lle gall busnesau recriwtio a ffynnu.
  • Cymru fwy gwyrdd a chynaliadwy, y byddwch chi'n helpu i'w hadeiladu trwy ddefnyddio'r Rhwydwaith T.