Defnyddio’r Rhwydwaith T
Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor gymhleth y gall sganio gwahanol wefannau i wirio amseroedd trenau a bysiau fod. Neu wirio gwahanol apiau i gael y wybodaeth deithio ddiweddaraf. Neu ddod o hyd i lwybr diogel er mwyn cerdded neu feicio adref.
Bydd Rhwydwaith y T yn gwneud teithio'n symlach, yn fwy clyfar ac yn fwy cynaliadwy. Dyma un rhwydwaith gydag un tocyn ac un amserlen - sy’n cael ei redeg gan un tîm. Rhwydwaith rydych chi'n gwybod y gallwch chi ymddiried ynddo i'ch cael chi o bwynt A i bwynt B.
Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl pan fyddwch chi'n ei ddefnyddio.
Cynllunio eich taith a phrynu tocynnau
Rydym yn cyfuno ein holl apiau, gwefannau a phyrth presennol i fod yn un profiad digidol hawdd ei ddefnyddio i'n cwsmeriaid a'n cydweithwyr. Byddwch yn gallu cynllunio'ch taith gyfan yn ddi-dor ar un ap, un wefan ac un cyfrif. Lle bynnag y mae angen i chi fynd yng Nghymru, bydd ein cydymaith teithio digidol defnyddiol yn dangos y llwybr gorau i chi ar y trên, ar y bws, ar droed, olwynion neu feic - neu gyfuniad o'r dulliau teithio hyn. Yna gallwch ddewis beth sy'n gweithio i chi.
Os yw'n well gennych, gallwch sgwrsio â'n cydweithwyr cyfeillgar i gael help i gynllunio'ch taith. Byddant yn hapus i helpu a bydd ganddynt fynediad at yr un wybodaeth â chi.
Teithio ar y Rhwydwaith T
Os ydym am ddod yn hoff ffordd Cymru o deithio, rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni wneud teithio mor hawdd â phosibl.
Bydd arwyddion da a chod lliwiau ar y Rhwydwaith T i'w gwneud hi'n hawdd i ni i gyd deithio o gwmpas, yn enwedig os ydych chi'n gwneud taith anghyfarwydd neu angen cysylltu rhwng teithiau.
Bydd gan bob dull trafnidiaeth ei liw ei hun - coch ar gyfer trenau, gwyrdd ar gyfer bysiau, glas ar gyfer beicio a phinc ar gyfer cerdded. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n hawdd i chi ddweud pa ddulliau trafnidiaeth sydd ar gael mewn gorsaf neu gyfnewidfa.
Bydd cyfnewidfeydd trafnidiaeth Rhwydwaith T wedi'u lleoli fel y gallwch newid yn hawdd rhwng gwahanol wasanaethau bws neu rhwng bws a thrên. Byddant wedi'u lleoli mewn cyrchfannau allweddol gan gynnwys Wrecsam a Shotton yng Ngogledd Cymru a Chaerdydd yn Ne Cymru.
Fodd bynnag, nid trenau a bysiau yn unig yw Rhwydwaith T, mae'n ymwneud â gwneud eich taith gyfan mor hawdd, diogel a threfnus â phosibl. Bydd Rhwydwaith T yno i chi p'un a ydych chi'n cerdded adref o'r ysgol, yn beicio i'r gwaith ac oddi yno neu'n mynd allan am y diwrnod i'ch hoff draeth neu'n cerdded yng nghefn gwlad.
Defnyddio’r Metro
Yn rhan o Rwydwaith y T, mae'r Metro yn ffordd fodern, effeithlon a chynaliadwy o deithio ledled Cymru - fel y gallwn ni i gyd ddefnyddio ein ceir yn llai aml a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded neu feicio yn fwy.
Bydd bysiau yn rhan fawr ohono. Dyna pam y byddwn yn cyflwyno tocynnau ac amserlenni integredig, fel y gallwch ddefnyddio’r gwasanaethau bws a thrên mwyaf cyfleus i chi. Bydd ein trenau Metro newydd yn gyflymach ac yn amlach - ar lawer o lwybrau, byddwch chi'n gallu ‘cyrraedd a mynd' a pheidio byth â gorfod aros mwy na 10 munud am drên.