Tap Ymlaen, Tap Ymadael yng Ngogledd Cymru

1bws - Capio Prisiau

 

Tap Ymlaen, Tap Ymadael yng Ngogledd Cymru

Beth yw Tap ymlaen, Tap Ymadael?

Mae Tap ymlaen, Tap Ymadael (TYTY) yn ddull syml y gall oedolion ei ddefnyddio i brynu tocyn oedolyn.

  • Yn syml, tapiwch eich cerdyn debyd neu ddyfais ar ddarllenydd y peiriant tocynnau wrth fynd ar y bws
  • Yna tapiwch yr un cerdyn neu ddyfais ar y peiriant tap ymadael wrth i chi ddod oddi ar y bws
  • Cyfrifir y pris sengl rhwng y ddau bwynt
  • Os byddwch yn gwneud teithiau lluosog a bod y pris yn cyrraedd y cap pris, sydd ar hyn o bryd yn bris tocyn 1bws Diwrnod, byddwn yn codi uchafswm o £7.00 arnoch, ni waeth faint yw cyfanswm eich prisiau. Os ydych yn gwneud sawl taith dros wythnos, bydd y system yn cyfrifo a yw'n well i chi dalu am docynnau 1bws Diwrnod lluosog neu docyn 1bws Wythnos
  • Tocynnau dychwelyd - Yn ogystal â thocynnau sengl, rydym yn cyflwyno'r system 'Tap ymlaen, Tap Ymadael' ar gyfer tocynnau Dychwelyd yn dechrau yng Ngwynedd. Bydd hyn yn sicrhau bod cwsmeriaid yn talu'r pris gorau posibl am deithiau cymwys bob tro, trwy ddadansoddi patrymau teithio a chymhwyso 'pris dychwelyd' rhatach yn hytrach na dau docyn sengl a allai o bosib fod yn ddrutach

 

Beth yw manteision Tap ymlaen, Tap ymadael?

  • Mae'n wych os nad ydych chi'n gwybod eich cynlluniau teithio ymlaen llaw
  • Mae'n cynnig yr hyblygrwydd i chi newid eich cynlluniau heb boeni am newid eich tocyn bws, gan mai dim ond am y teithiau a wnaed y byddwch yn talu amdanynt.
  • Gallech arbed arian drwy gael tocynnau wedi'u capio, ac ni fyddwch byth yn talu mwy na chost tocyn 1bws Diwrnod neu Wythnos i Oedolion *
  • Mae'n eich helpu i dalu'r pris cywir hyd yn oed pan nad ydych chi'n gyfarwydd â’r llwybr.
  • Cyflymu’r amser y mae’n ei gymryd i fynd ar y bws, sy’n golygu amseroedd teithio cyflymach i bawb
  • Di-bapur - gwell i'r amgylchedd

*Gall rhai prisiau fod yn rhatach na gyda Tap ymlaen, Tap Ymadael, gan ein bod ni methu capio prisiau tocyn dwyffordd mewn rhai lleoliadau. Gall rhai tocynnau tymor fod yn rhatach.

  • Gweithredwyr
    • Arriva Wales
    • Alpine Travel
    • Berwyn
    • Calloi
    • Clynnog & Trefor
    • Denbighshire Council
    • Dilwyns
    • Goodsir
    • Eifions
    • Gwynfor Coaches
    • K&P Coaches
    • Lewis Y Llan
    • Llew Jones 
    • Lloyds Coaches
    • M&H Coaches
    • Nefyn Coaches
    • P&O Lloyds
    • O Ddrws I Ddrws
    • OR Jones and Son
    • Pats Coaches
    • Tanat Valley
    • Valentines
    • Wrexham & Prestige

 

Help

Os oes angen unrhyw help arnoch gyda thrafodion Tap ymlaen, Tap ymadael, cysylltwch â ni trwy cEMVEnquiries@tfw.wales neu ffoniwch 02922 941 035.

 

  • Cwestiynau Cyffredin
    • Beth yw capio prisiau?

      • Mae Capio Tâl yn fecanwaith sy’n cyfyngu neu’n ‘capio’ y swm y bydd cwsmer yn ei dalu am ei daith o fewn amserlen benodol h.y. diwrnod. Mae’n caniatáu ichi deithio cymaint ag y dymunwch mewn diwrnod gan wybod na fyddwch byth yn talu mwy na phris tocyn diwrnod 1bws, ni waeth faint o deithiau a wnewch. Mae hyn yn ddefnyddiol i bobl nad ydynt yn gwybod eu cynlluniau teithio ymlaen llaw. Byddwch yn talu pris sengl oedolyn am bob tap, nes cyrraedd y cap 1bws (£7.00 o fis Medi 2024) ac ar ôl hynny, bydd unrhyw deithiau eraill yn y parth 1bws y diwrnod hwnnw am ddim.

    • Sut ydw i'n talu gan ddefnyddio Tap ymlaen / Tap ymadael?

      • I dalu am eich tocyn, rhowch eich cerdyn debyd/credyd digyswllt neu ap talu dyfais symudol ar y darllenydd cerdyn wrth i chi fynd ar y bws ac aros am y bîp sy'n nodi bod eich taliad wedi'i gofrestru, yna gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn yr un broses ar y peiriant tap ymadael ar ddiwedd eich taith er mwyn manteisio ar y cynnig. Rhaid i chi ddefnyddio'r un cerdyn bob tro. Mae mor syml â hynny.

      • Os ydych chi am dalu'n ddigyswllt am docyn nad yw ar gael drwy Tap ymlaen / Tap ymadael, rhowch wybod i'r gyrrwr cyn i chi osod eich cerdyn neu ddyfais ar y darllenydd i sicrhau y codir y swm cywir arnoch a’ch bod yn derbyn tocyn.

    • Sut mae gweld y swm a godwyd arnaf?

      • Gallwch fwrw golwg ar eich teithiau aml-weithredwr a’ch taliadau blaenorol trwy ein porth cwsmeriaid TrC. Gallwch hefyd weld eich trafodion gydag un gweithredwr yn unig drwy'r gweithredwr perthnasol. h.y. Arriva.

    • A allaf gael ad-daliad os credaf fy mod wedi talu gormod?

      • Gallwch, os ydych chi'n credu bod gwall gwirioneddol wedi'i wneud, defnyddiwch y Cwestiynau Cyffredin ar borth cwsmeriaid TrC, yna cysylltwch â gwasanaethau cwsmeriaid trwy cEMVEnquiries@tfw.wales neu ffoniwch 02922 941 035.

    • A allaf ddefnyddio Tap ymlaen, Tap ymadael ar gyfer tocynnau 1bws?

      • Mae Tap Ymlaen Tap Ymadael yn codi tâl arnoch am docynnau sengl ond bydd yn capio’r pris ar bris tocyn 1bws. Os hoffech brynu tocyn 1bws ymlaen llaw, prynwch ef gan y gyrrwr.

    • Beth fydd yn digwydd os byddaf yn anghofio tapio wrth ymadael?

      • Codir y tâl sengl llawn arnoch o'r pwynt y gwnaethoch fynd ar y bws hyd at ddiwedd y llwybr yr oeddech yn teithio arno. Cofiwch dapio wrth ymadael. Fodd bynnag, os byddwch yn anghofio, cysylltwch â gwasanaethau cwsmeriaid trwy ebostio cEMVEnquiries@tfw.wales neu ffoniwch 02922 941 035 sy’n hapus i helpu.

    • A fyddaf yn dal i gael fy nghapio os byddaf yn anghofio tapio wrth ymadael?

      • Byddwch, codir tâl am docyn sengl i Oedolion hyd at ddiwedd y llwybr a bydd y swm a godir yn dal i gyfrif tuag at unrhyw gapiau prisiau perthnasol.

    • Oes rhaid i mi ddefnyddio'r un cerdyn/dyfais?

      • Oes, mae eich taliadau blaenorol wedi’u cysylltu â’ch cerdyn neu ddyfais felly gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r un cerdyn ar gyfer pob taith lawn h.y. ni allwch dapio ymlaen gydag un cerdyn a thapio wrth ymadael ag un arall. Os yw'ch dull talu wedi'i osod ar eich ffôn symudol trwy Apple Pay neu Google Pay, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw at un dull - os byddwch chi'n newid i'ch cerdyn, bydd yn cael ei drin fel dull talu newydd, ac efallai na fyddwch chi'n elwa o'r capiau pris.

    • Pam cafodd fy ngherdyn ei wrthod?

      • Os ydych chi wedi gwneud taliad ar y bws a wrthodwyd wedyn gan eich banc, bydd eich cerdyn, yn anffodus, yn cael ei rwystro'n awtomatig gan ein system. Unwaith y bydd unrhyw symiau sy'n weddill wedi'u setlo gan eich banc, bydd eich cerdyn yn cael ei ddadflocio'n awtomatig. Hyd nes y bydd hyn yn digwydd, bydd angen i chi dalu gyda dull arall.

    • A allaf ddefnyddio Tap ymlaen/Tap ymadael i mi fy hun a thalu hefyd am daith rhywun arall (e.e. plentyn)?

      • Mae Tap ymlaen/Tap ymadael ond yn gweithio i un teithiwr ar y tro sy'n teithio ar gerdyn. Os ydych yn dymuno prynu tocynnau i rywun arall ar yr un cerdyn, gofynnwch i'r gyrrwr am eu tocynnau ar wahân. Gallwch chi ddal i ddefnyddio dull Tap ymlaen, Tap ymadael ar gyfer eich taith eich hun.

    • Oes angen i mi dapio ymlaen a thapio wrth ymadael os ydw i'n ddeiliad cerdyn teithio rhatach?

      • Na, nid oes unrhyw newid i’r cynllun cerdyn teithio rhatach.

    • A yw prisiau Tap ymlaen, Tap ymadael yn wahanol i brisiau eraill ar fysiau?

      • Na, mae pris y tocyn yr un fath â phe baech chi'n prynu tocyn sengl safonol i oedolion gan y gyrrwr ac mae'r cap 1bws yr un pris â thocyn diwrnod papur. Manteision defnyddio Tap ymlaen, Tap ymadael yw y bydd y pris yn cael ei gyfyngu/capio ar gost tocyn diwrnod neu wythnos oedolyn 1bws, ni waeth faint y byddwch yn teithio yn ystod y dydd neu’r wythnos.

    • Ydy Tap ymlaen, Tap ymadael yn gweithio ar gyfer mathau eraill o docynnau?

      • Dim ond ar gyfer tocynnau dydd oedolion y mae Tap ymlaen, Tap ymadael/capio yn ddilys, gan gynnwys cynnyrch y gweithredwr ei hun. Os ydych chi eisiau prynu tocynnau i blant neu deuluoedd sy'n defnyddio'ch cerdyn banc, gofynnwch i'r gyrrwr sy'n prosesu’ch taliad digyswllt.

    • A  fyddaf yn cael derbynneb?

      • Na, un o'r manteision yw bod y system yn ddi-bapur. I weld eich trafodion blaenorol ewch i'r porth cwsmeriaid.

    • Pa docynnau sydd wedi'u cynnwys yn y cap?

      • Mae'r system yn capio prisiau ar bris tocyn diwrnod neu docyn wythnos 1bws, ar gyfer teithiau gydag un gweithredwr yn unig neu sawl gweithredwr gwahanol. Nid yw prisiau tocynnau plant, tocyn 10 taith na thocynnau misol wedi'u cynnwys yn y cynllun capio, ac mae tocynnau dwyffordd ar gael mewn rhai lleoliadau.

    • Ydy Tap ymlaen, tap ymadael yn gweithio ar gyfer tocynnau Person Ifanc?

      • Mae'r system wedi'i chynllunio ar gyfer tocynnau oedolion yn unig. Os ydych chi eisiau prynu tocyn person ifanc, gofynnwch i'r gyrrwr am y tocyn cyn i chi osod cerdyn ar y darllenydd, neu bydd trafodiad Tap ymlaen yn cael ei recordio.

    • Pa fathau o gardiau digyswllt y gellir eu defnyddio?

      • Gellir defnyddio pob cerdyn Visa a MasterCard sy'n dangos y symbol digyswllt, boed wedi'i gyflwyno'n gorfforol neu drwy Apple Pay a Google Pay. Yn anffodus, ni dderbynnir taliadau gan American Express neu Maestro.

      • Os ydych yn defnyddio cerdyn rhagdaledig, sicrhewch fod gennych ddigon o gredyd cyn ceisio prynu’ch tocyn. Gallai methu â darparu arian arwain at wrthod eich cerdyn.

    • Sut mae prisiau tocynnau yn cael eu cyfrifo?

      • Cyfrifir prisiau yn unol â llwybrau presennol a thaliadau ar gyfer yr holl weithredwyr sy'n aelodau o'r cynllun.

    • A oes meysydd penodol y mae'n rhaid i mi aros ynddynt?

      • Dylech aros o fewn ardal cynllun Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam i dderbyn y cap.

    • Sut mae gwneud ymholiad neu gŵyn am fy mhrofiad ar daith?

      • Yn y lle cyntaf, ewch i borth cwsmeriaid TrC a cheisiwch y maes perthnasol sy'n peri pryder gyda'r Cwestiynau Cyffredin. Os nad yw hyn yn ateb eich ymholiad yn llawn, cysylltwch â gwasanaethau cwsmeriaid drwy'r ddolen we a'r rhif ffôn a fydd yn hapus i helpu.

    • A yw fy nhaliadau digyswllt yn ddiogel?

      • Mae taliadau yn fwy diogel na chludo arian parod am sawl rheswm:
        Mae'r wybodaeth ar eich cerdyn wedi'i diogelu gan dechnoleg Chip a PIN diogel. Mae data a drosglwyddir yn ystod trafodion yn cael ei amgryptio a'i ddiogelu gyda llofnod digidol sy'n llawer anoddach i'w ffugio nag un mewn llawysgrifen.

      • Os caiff eich cerdyn ei golli neu ei ddwyn, cewch eich diogelu rhag taliadau anawdurdodedig ar yr amod eich bod yn hysbysu’ch banc cyn gynted ag y byddwch yn sylweddoli ei fod wedi mynd ar goll. Bydd eich cerdyn yn cael ei rwystro ar unwaith.

    • Gwrthodwyd fy nhaliad, a rhwystrwyd fy ngherdyn. Beth sy'n digwydd nesaf?

      • Os ydych chi'n defnyddio cerdyn ar gyfer taliad sy'n cael ei wrthod wedyn am arian annigonol, yn anffodus, bydd eich cerdyn yn cael ei rwystro'n awtomatig gan ein peiriannau tocynnau.

      • Fodd bynnag, byddwn yn ceisio adennill yr arian sy'n ddyledus yn awtomatig ar ôl ychydig ddyddiau neu pan fyddwch yn ceisio defnyddio'r cerdyn eto ar ein bysiau. Cyn gynted ag y bydd y swm sy'n ddyledus wedi'i setlo gyda'ch banc neu ddosbarthwr cerdyn, bydd eich cerdyn yn cael ei ddadflocio gan ein peiriannau tocynnau, a gallwch wneud taliadau digyswllt ar ein bysiau unwaith eto. Ni fydd hyn yn effeithio ar drafodion wedi'u capio ar hyn o bryd.

    • Nid yw'r cerdyn wedi'i gymeradwyo gan y banc ar gyfer y trafodiad.

      • Gall hyn ddigwydd o ganlyniad i nifer o drafodion digyswllt mewn cyfnod byr o amser, a all sbarduno polisïau rheoli risg twyll awtomataidd gyda'ch banc neu ddosbarthwr cerdyn.

    • Nid yw'r cerdyn wedi'i ddefnyddio mewn terfynell Chip a PIN ers cyfnod penodol.

      • Mae angen trafodiad Chip a PIN bob hyn a hyn ar y rhan fwyaf o fanciau a chyhoeddwyr cardiau i helpu i sicrhau mai chi sy'n defnyddio'r cerdyn hwnnw. Unwaith y bydd cyhoeddwr eich cerdyn wedi gweld trafodiad Chip a PIN, bydd y bloc dros dro hwn yn cael ei ddileu fel arfer.

 

Eich trafodion

Os ydych chi wedi sefydlu'ch cyfrif Tap ymlaen, Tap ymadael, gallwch wirio'ch taliadau ar ein porth ar-lein lle gallwch fewngofnodi'n ddiogel gan ddefnyddio'ch manylion banc.

1bws - Capio Prisiau

Gogledd Cymru 1bws capio prisiau

Mae’r tocyn 1bws ar gael ar draws Gogledd Cymru sy’n galluogi cwsmeriaid i neidio ar bron unrhyw fws ar draws y rhanbarth gan ddefnyddio un tocyn yn unig am y diwrnod cyfan am £7.00 yn unig, neu’r wythnos gyfan am £30.00.

Mae cynnig tocyn 1bws yn cwmpasu ardal o Ben Llŷn i Gaer ac o Ynys Môn i Aberystwyth.

Gallwch brynu tocyn 1bws gan unrhyw gwmni bysiau sy'n cymryd rhan yn y cynllun, neu gallwch ddefnyddio'r dull talu Tap Ymlaen, Tap Ymadael ar gyfer pob taith a fydd yn capio’r pris ar bris tocyn 1bws.

Ardal y prosiect yw'r mwyaf, gyda'r nifer fwyaf o weithredwyr, o unrhyw gynllun capio aml-weithredwr yn y DU. Gwelwch restr o weithredwyr sy'n cymryd rhan uchod.