Mwynhewch fwy o amser gyda’r teulu, llai o amser yn gyrru, a theithiwch gyda’ch gilydd am bris rhatach drwy gydol y flwyddyn.

Rydyn ni’n gwybod pa mor anodd yw hi i deithio fel teulu, a pha mor ddrud yw hynny hefyd. Dyna pam mae gennym gynigion gwych pan fyddwch chi’n teithio gyda phlant.

Gall plant dan 16 oed deithio am ddim ar ein trenau yn ystod cyfnodau tawelach, pan fydd oedolyn sy’n talu am docyn yn dod gyda nhw. 
Gall plant dan 11 oed deithio am ddim ar ein gwasanaethau ar unrhyw adeg.

 

Edrychwch ble gallwch chi fynd gyda thocynnau trên am ddim i blant

*Mae gwaharddiadau daearyddol yn berthnasol, gweler telerau ac amodau am ragor o wybodaeth.

 

Mae cymaint i’w ddarganfod ar y trên. Rydyn ni wedi dewis ychydig o bethau i gadw’r plant yn brysur ar y trên ac wrth grwydro’r rhwydwaith.

Pethau pwysig i’w nodi cyn i chi deithio gyda phlant

  • Dim ond yn y dosbarth Safonol y mae tocynnau trên ar gael am ddim i blant.
  • Gall hyd at ddau blentyn deithio am ddim, fesul oedolyn sy’n talu. Rhaid i oedolion gael tocyn ar gyfer pob plentyn sy’n teithio. Dim ond o swyddfa docynnau neu gan oruchwyliwr y mae tocynnau teithio am ddim i blant ar gael.
  • Mae plant dan 5 oed yn teithio am ddim ar holl wasanaethau National Rail.
  • Dim ond ar drenau Trafnidiaeth Cymru y mae plant 5-15 oed yn cael teithio am ddim.
  • Mae'n rhaid i oedolion sy'n teithio gyda Cherdyn Rheilffordd Teulu a Ffrindiau dalu am un plentyn rhwng 5 a 15 oed er mwyn bod yn gymwys i gael y gostyngiad.
  • Gweler y telerau ac amodau llawn am ragor o wybodaeth.
    • 1.1 Plant rhwng 5 a 10 oed - Dan 11 oed Unrhyw Bryd

      Telerau ac amodau:

      1 Disgrifiad

      • Gall hyd at 2 o blant rhwng 5 a 10 oed deithio am ddim ar wasanaethau Rheilffyrdd 
        Trafnidiaeth Cymru (yn y dosbarth safonol yn unig) wrth deithio gydag oedolyn (dros 16 oed) sy’n talu am docyn dosbarth safonol llawn neu gyda gostyngiad.

      2 Argaeledd

      • Mae angen tocyn am ddim ar gyfer plant rhwng 5 a 10 oed.
      • Mae’r tocyn am ddim ar gael gan unrhyw un o swyddfeydd tocynnau Trafnidiaeth Cymru neu gan y goruchwyliwr ar y trên.

      3 Tocyn Dosbarth Safonol gyda gostyngiad

      • Mae hyn yn cynnwys cwsmer sy’n defnyddio cerdyn rheilffordd lleol neu *genedlaethol i gael gostyngiad, neu rywun sy’n teithio gyda thocyn diwrnod advance, tocyn cyfnodau tawelach, neu docyn diwrnod grŵp bach. Nid yw’n cynnwys defnyddwyr cynllun teithio rhatach nac unigolion sy’n teithio gan ddefnyddio cerdyn staff. *Mae'n rhaid i oedolion sy'n teithio gyda Cherdyn Rheilffordd Teulu a Ffrindiau dalu am un plentyn rhwng 5 a 15 oed er mwyn bod yn gymwys i gael y gostyngiad.

      4 Pryd a ble y gellir teithio am ddim

      • Dim ond ar wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru (yn y dosbarth safonol yn unig) y mae teithio am ddim i blant rhwng 5 a 10 oed yn ddilys. Edrychwch ar y map rhwydwaith isod i gael gweld lle mae’r ffin ddaearyddol teithio am ddim i blant.
        https://trc.cymru/sites/default/files/2023-01/TfW_Network_Map.pdf
      • Os ydych chi’n teithio ar fwy nag un Cwmni Trên drwy gydol eich taith, bydd angen i chi sicrhau bod gennych chi’r tocyn cywir ar gyfer elfennau’r daith nad ydynt ar wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.
      • Mae teithio am ddim i blant rhwng 5 a 10 oed ar wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn ddilys unrhyw adeg o’r dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

      5  Amodau defnyddio

      • Rhaid i blant rhwng 5 a 10 oed fod gydag oedolyn sy’n talu am docyn (dros 16 oed) drwy gydol eu taith. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, diffinnir oedolyn sy’n talu am docyn fel unrhyw deithiwr 16 oed neu hŷn sy’n dal Tocyn dilys neu awdurdod arall i deithio (ond nid yw’n cynnwys defnyddwyr cynllun teithio rhatach nac unigolion sy’n teithio gan ddefnyddio cerdyn staff).
      • Gall uchafswm o 2 blentyn rhwng 5 a 10 oed deithio am ddim am bob oedolyn sy’n talu pris siwrnai (16 oed a hŷn) yn y dosbarth safonol yn unig.
      • Does dim rhaid i blentyn sy’n teithio am ddim roi ei sedd i deithiwr sy’n talu am docyn.
      • Does dim modd archebu sedd i blant sy’n teithio gydag oedolyn ac sy’n teithio am ddim. Os ydych chi’n dymuno archebu sedd i’ch plentyn rhwng 5 a 10 oed, mae modd prynu tocyn am bris gostyngol i blentyn ac archebu lle.

      6 Torri taith

      • Gallwch ddechrau, torri ac ailddechrau, neu ddod â’ch taith i ben mewn unrhyw orsaf yn y canol ar hyd y llwybr teithio os nad yw cyfyngiad tocyn yr oedolyn (16 oed a hŷn) sy’n talu amdano ar gyfer y daith yn caniatáu hynny.

      7 Newid yr amser neu’r dyddiad teithio

      • Dim ond ar y dyddiad gadael y mae’r tocyn am ddim i blant rhwng 5 a 10 oed ar gael.

      8 Ad-daliadau

      • Nid yw’n berthnasol ar gyfer teithio am ddim i blant.
      • Os oeddech chi wedi prynu tocyn plentyn ar gyfer taith y daethoch i wybod wedyn ei bod yn rhad ac am ddim ac nad oeddech chi wedi archebu lle i’r plentyn, gallwch wneud cais am addaliad llawn drwy gysylltu â thîm gwasanaethau cwsmeriaid Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Gellir cael manylion cyswllt yn: https://trc.cymru/cymorth-a-chysylltu/rheilffordd/cysylltu-a-ni.

      9 Arall

       

      1.2 Pobl ifanc rhwng 11 a 15 oed - o dan 16 oed - Cyfnodau tawelach

      Telerau ac Amodau:

      1 Disgrifiad

      • Gall hyd at 2 o blant rhwng 11 a 15 oed deithio am ddim ar wasanaethau Rheilffyrdd 
        Trafnidiaeth Cymru ( yn y dosbarth safonol yn unig) wrth deithio gydag oedolyn (16 oed a hŷn) sy’n talu am docyn dosbarth safonol llawn neu gyda gostyngiad rhwng 09:30 a 16:00 ac ar ôl 18:30, o ddydd Llun i ddydd Gwener ac unrhyw bryd ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

      2 Argaeledd

      • Mae angen tocyn am ddim ar gyfer plant rhwng 11 a 15 oed.
      • Mae’r tocyn am ddim ar gael gan unrhyw un o swyddfeydd tocynnau Trafnidiaeth Cymru neu gan y goruchwyliwr ar y trên.

      3 Tocyn Dosbarth Safonol gyda gostyngiad

      • Mae hyn yn cynnwys cwsmer sy’n defnyddio cerdyn rheilffordd lleol neu *genedlaethol i gael gostyngiad, neu rywun sy’n teithio gyda thocyn diwrnod advance, tocyn cyfnodau tawelach, neu docyn diwrnod grŵp bach. Nid yw’n cynnwys defnyddwyr cynllun teithio rhatach nac unigolion sy’n teithio gan ddefnyddio cerdyn staff. *Mae'n rhaid i oedolion sy'n teithio gyda Cherdyn Rheilffordd Teulu a Ffrindiau dalu am un plentyn rhwng 5 a 15 oed er mwyn bod yn gymwys i gael y gostyngiad.

      4 Pryd a ble y gellir teithio am ddim

      • Dim ond ar wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru (yn y dosbarth safonol yn unig) y mae teithio am ddim i blant rhwng 11 a 15 oed yn ddilys. Edrychwch ar y map rhwydwaith isod i gael gweld lle mae’r ffin ddaearyddol teithio am ddim i blant. https://trc.cymru/sites/default/files/2023-01/TfW_Network_Map.pdf
      • Os ydych chi’n teithio ar fwy nag un Cwmni Trên drwy gydol eich taith, bydd angen i chi sicrhau bod gennych chi’r tocyn cywir ar gyfer elfennau’r daith nad ydynt ar wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.
      • Mae teithio am ddim ar wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru ar gael i blant rhwng 11 a 15 oed rhwng 09:30 a 16:00 ac ar ôl 18:30, o ddydd Llun i ddydd Gwener ac unrhyw bryd ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

      5 Amodau defnyddio

      • Rhaid i blant rhwng 11 a 15 oed fod gydag oedolyn sy’n talu am docyn (16 oed a hŷn) drwy gydol eu taith. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, diffinnir oedolyn sy’n talu am docyn fel unrhyw deithiwr 16 oed neu hŷn sy’n dal Tocyn dilys neu awdurdod arall i deithio (ond nid yw’n cynnwys defnyddwyr cynllun teithio rhatach nac unigolion sy’n teithio gan ddefnyddio cerdyn staff).
      • Gall uchafswm o 2 blentyn rhwng 11 a 15 oed deithio am ddim am bob oedolyn sy’n talu pris siwrnai (16 oed a hŷn) yn y dosbarth safonol yn unig.
      • Does dim rhaid i blentyn sy’n teithio am ddim roi ei sedd i deithiwr sy’n talu am docyn.
      • Does dim modd archebu sedd i blant sy’n teithio gydag oedolyn ac sy’n teithio am ddim. Os ydych chi’n dymuno archebu sedd i’ch plentyn rhwng 11 a 15 oed, mae modd prynu tocyn am bris gostyngol i blentyn ac archebu lle.

      6 Torri taith

      • Gallwch ddechrau, torri ac ailddechrau, neu ddod â’ch taith i ben mewn unrhyw orsaf yn y canol ar hyd y llwybr teithio os nad yw cyfyngiad tocyn yr oedolyn (16 oed a hŷn) sy’n talu amdano ar gyfer y daith yn caniatáu hynny. 

      7 Newid yr amser neu’r dyddiad teithio

      • Dim ond ar y dyddiad gadael y mae’r tocyn am ddim i blant rhwng 11 a 15 oed ar gael.

      8 Ad-daliadau

      • Nid yw’n berthnasol ar gyfer teithio am ddim i blant.
      • Os oeddech chi wedi prynu tocyn plentyn ar gyfer taith y daethoch i wybod wedyn ei bod yn rhad ac am ddim ac nad oeddech chi wedi archebu lle i’r plentyn, gallwch wneud cais am addaliad llawn drwy gysylltu â thîm gwasanaethau cwsmeriaid Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Gellir cael manylion cyswllt yn: https://trc.cymru/cymorth-a-chysylltu/rheilffordd/cysylltu-a-ni

      9 Arall

Teithio gyda phlant? Gall ein gweithgareddau eu cadw nhw’n brysur waeth pa mor hir yw eich taith. Maen nhw wedi cael eu cynllunio ar gyfer pobl ifanc sy’n frwd dros deithio, ac mae rhywbeth at ddant pawb.