O'r lein i’r lôn: cyrraedd ar y trên, archwilio ar droed.
Mae'r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn rhychwantu hyd y wlad, gan roi mynediad cyflym a syml i chi i hyd a lled Cymru a gweddill y DU. Mae llawer o'n gorsafoedd a'n safleoedd bysiau yn gweithredu fel pyrth i lwybrau cenedlaethol a llwybrau cerdded enwog yng Nghymru.
Paciwch eich sach gefn, gwisgwch eich esgidiau mynydda a neidiwch ar un o'n trenau neu fysiau. Ewch yn syth o'r cledrau i’r llwybrau i weld rhai o fannau cerdded harddaf Cymru a'r Gororau.
Ein hoff lwybrau cerdded o’r lein i’r lôn yng Nghymru
Dyma ein llwybrau cerdded gorau yng Nghymru sy'n dechrau ger un o'n gorsafoedd.
Lleoliad: Y Bermo
Hyd: 2.5 awr
Pellter: 4.3 milltir
Cyflwr: Dim sticillau
Mae'r llwybr hwn yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru dros bont y Bermo cyn dilyn yr aber o gwmpas i ddiwedd rheilffordd Fairbourne. Yma, gellir defnyddio fferi fach (o’r Pasg i fis Hydref) i wneud y groesfan fer yn ôl i’r Bermo.
Lleoliad: Aberystwyth
Hyd: 2.5 awr
Pellter: 4.7 milltir
Cyflwr: Rhywfaint o dir anwastad
Mae'r llwybr hwn yn cynnwys rhywfaint o gerdded arfordirol a glan yr afon o amgylch traeth deheuol Aberystwyth. Gellid ymestyn y daith i gynnwys Bryngaer Pen Dinas, yn dibynnu ar lefel eich sgiliau cerdded.
Lleoliad: Ynys y Barri
Hyd: 1.5 awr
Pellter: 2.4 milltir
Cyflwr: Yn hygyrch ar gyfer cadeiriau olwyn, sgwteri a bygis
Mae'r llwybr hwn yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru o amgylch Nells Point, Bae Whitmore a Friars Point. Mae'r llwybr yn wastad ar y cyfan ar wahân i ddringfa gyson ar y dechrau. Mae'r golygfeydd o'r arfordir yn werth chweil. Ar ôl eich taith gerdded, mae sawl opsiwn bwyd da ym Mae Whitmore. Mae yna opsiwn i ymestyn y daith gerdded hon.
Dod o hyd i lwybrau cerdded yn ôl rhanbarth
Mae Cymru yn gartref i dri phrif lwybr cenedlaethol sy'n cynnig dros 1,000 milltir o lwybrau cerdded. Archwiliwch rai llwybrau eiconig yn ôl rhanbarth a chynlluniwch eich taith gan ddefnyddio ein cynllunydd teithiau heddiw.
Dewch o hyd i ysbrydoliaeth ar gyfer eich taith gerdded nesaf neu olwyn ar drafnidiaeth gyhoeddus. Darganfyddwch gymaint o gefn gwlad Cymru y gellir ei gyrraedd ar y trên neu fws! Prynwch docynnau’n uniongyrchol er mwyn osgoi ffioedd archebu heddiw.