
Llwybrau Gogledd Cymru

Bangor | 1.5 awr / 3.2 milltir
Dim camfeydd
Mae'r llwybr hwn yn dilyn palmentydd a llwybrau tarmac i'r Pier. Gallwch fwynhau golygfeydd arbennig ar draws Afon Menai...

Abermaw | 2.5 awr / 4.3 milltir
Dim camfeydd
Mae’r llwybr hwn yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru dros bont Abermaw cyn dilyn yr aber draw at ben draw rheilffordd Fairbourne. Yn y fan hon, gellir defnyddio fferi fach (rhwng y Pasg a mis Hydref) i groesi’r pellter byr yn ôl i Abermaw.

Blaenau Ffestiniog | 2 awr / 2.3 milltir
Dim Camfeydd, ond mae’r tir yn serth ac anwastad mewn mannau
Mae’r llwybr hwn yn dilyn y Llwybr Llechi am gyfnod byr cyn dringo at olygfa ysblennydd
o’r Moelwynion. Dychwelyd ar hyd y palmant yn ôl i’r dref.

Llun gan Rept0n1x/CC BY-SA 3.0
Caergwrle | 1.5 awr / 1.8 milltir
Dim camfeydd ond rhai llethrau serth
Mae’r llwybr hwn yn dilyn palmentydd o gwmpas y pentref yn bennaf. Mae dringfa serth at y castell
yn werth yr ymdrech, ac mae’r hen bont geffylau yn darparu croesfan ddiddorol dros afon Alun.

Bae Colwyn | 1.5 awr / 3 milltir
Dim camfeydd
Mae’r llwybr hwn yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru o Fae Colwyn i Gapel Sant Trillo yn Llandrillo yn Rhos. Mae’r daith yn ôl ar yr un llwybr.

Cricieth | 1 awr / 1.4 milltir
Dim camfeydd
Mae’r llwybr hwn yn dilyn cymysgedd o lwybrau tarmac a phalmentydd gyda’r opsiwn o fynd ar y traeth.

Fflint | 1.5 awr / 3 milltir
Dim camfeydd
Mae’r llwybr hwn yn dilyn llwybrau caled o amgylch Castell y Fflint ac ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.

Gwersyllt | 2.5 awr / 2.9 milltir
Dim camfeydd
Mae’r llwybr hwn yn dilyn palmentydd a llwybrau caled gwastad yn y parc gwledig.

Llun gan Jasper180969/CC BY-NC-SA 2.0
Penarlâg | 1 awr / 1.6 milltir
Dim camfeydd
Mae’r llwybr hwn yn dilyn llwybrau o gwmpas y pentref, sy’n pasio’r eglwys a’r llyfrgell ac yna’n mynd i dir y castell. Mae cae chwarae ar y llwybr.

Llanrwst | 1.5 awr / 2 filltir
Sawl camfa
Mae’r llwybr hwn yn dilyn llwybrau drwy’r dref ac yna ar hyd afon Conwy. Mae cae chwarae ger diwedd y llwybr.

Llun gan Peter Trimming/CC BY-SA 2.0
Penrhyndeudraeth | 40 munud / 1 filltir
Rhywfaint o dir serth ac anwastad
Mae’r llwybr byr hwn yn archwilio Gwarchodfa Natur Gwaith Powdwr. Ffatri arfau oedd hi gynt, mae bellach yn cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a gymerodd yr awenau pan ddatgomisiynwyd y safle.

Prestatyn | 3 awr / 5 filltir
Grisiau, rhannau mwy serth a thir anwastad
Mae’r llwybr hwn yn dilyn Llwybr Clawdd Offa o’r orsaf i fyny Mynydd Prestatyn. Mae’r ddringfa’n llawn golygfeydd godidog o'r môr a draw at y Gogarth. Ar ôl cyrraedd y piler ar y Graig Fawr, byddwch yn dychwelyd ar hyd hen reilffordd a sy’n hawdd ei cherdded ar y gwastad.

Pwllheli | 1.5 awr / 2.88 milltir
Dim camfeydd
Mae'r llwybr hwn yn dilyn cymysgedd o lwybrau tarmac a phalmentydd yn ogystal â darn byr trwy'r twyni tywod. Mwynhewch olygfeydd ardderchog o'r harbwr a mynyddoedd Eryri.

Rhosneigr | 2 awr / 3.8 milltir
Dim camfeydd
Mae’r llwybr hwn yn dilyn palmentydd i mewn i’r dref ac yna’n dilyn y traeth a’r twyni cyn dychwelyd ar hyd llwybr tebyg.
Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith
Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.