Archwiliwch Prestatyn

Gwybodaeth llwybr Prestatyn

Mae’r llwybr hwn yn dilyn Llwybr Clawdd Offa o’r orsaf i fyny Mynydd Prestatyn. Mae’r ddringfa’n
llawn golygfeydd godidog o'r môr a draw at y Gogarth. Ar ôl cyrraedd y piler ar y Graig Fawr,
byddwch yn dychwelyd ar hyd hen reilffordd a sy’n hawdd ei cherdded ar y gwastad.

Effeithir ar lwybrau gan gau llwybrau, rhwystrau a dargyfeiriadau.Os byddwch yn canfod na allwch barhau â'ch taith, ceisiwch ddod o hyd i lwybr arall neu dilynwch eich llwybr am yn ôl. Rhowch wybod i'ch awdurdod lleol am unrhyw broblemau. Mae’r holl wybodaeth yn gywir pan y’i cyhoeddwyd a gall newid.

 

Llwybr Prestatyn Ramblers Cymru

Prestatyn route map
  1. O'r Orsaf Drenau, dilynwch lwybr Clawdd Offa i fyny’r Stryd Fawr gan groesi’r briffordd wrth y goleuadau traffig a pharhau i ddilyn yr arwyddion allan o’r dref, gan fynd i fyny’r allt yn raddol.
  2. Pan fydd y Llwybr Cenedlaethol yn gadael y dref ac yn mynd at Fynydd Prestatyn, dilynwch y llwybr sy’n rhoi golygfeydd gwych i bob cyfeiriad. Ar ôl ychydig o gilometrau, mae’r llwybr yn disgyn i bentref bach Bryniau lle cymerwch yr ail droad i’r dde a gadael llwybr Clawdd Offa y tu ôl i chi.
  3. Mae taith gerdded fer ar hyd y ffordd dawel yn ein harwain at fynedfa’r Graig Fawr sy’n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol lle byddwn yn dringo fymryn at y piler ac yn mwynhau’r golygfeydd.
  4. Rhaid disgyn yn eithaf serth gan wyro i’r dde, ac fe ddown at Lwybr Dyserth-Prestatyn. Mae hwn yn dilyn llwybr hen reilffordd a arferai wasanaethu mwyngloddiau a chwareli’r llethrau cyfagos.
  5. Dilynwch y llwybr gwastad a rhwydd hwn yr holl ffordd yn ôl i ganol y dref lle byddwn yn dychwelyd i’r orsaf.

Edrychwch ar y llwybr ar Go Jauntly Lawrlwythwch GPX

Edrychwch a lawrlwythwch y map PDF llawn Rhagor o lwybrau

 

Cyrraedd

Mae ein rhwydwaith trên yn estyn ar draws hyd a lled Cymru, gan stopio mewn sawl man er mwyn ichi allu dod oddi ar y trên a dechrau neu barhau â’ch antur ar droed. Mae ein Tocynnau teithio diderfyn yn ffordd wych o archwilio’n rhwydwaith ac maent yn cynnwys rhai bysiau o ddarparwyr detholedig.

Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith

Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.