
Awgrymiadau gwych ar gyfer cerdded ac olwynio
Mae cerdded ac olwynio yn ffyrdd gwych o fynd allan ym myd natur a chrwydro Cymru. Dyma rai awgrymiadau gwych ar gyfer cadw'n ddiogel yng nghefn gwlad.
Byddwch yn barod rhag ofn i chi golli signal
Mae mapiau ac apiau ar-lein yn wych nes i chi golli signal. Sicrhewch eich bod wedi lawrlwytho'ch llwybr neu fod gennych fap corfforol fel y gallwch chi gyrraedd adref bob tro. Rydym wedi ffurfio partneriaeth gyda Go Jauntly i ddarparu mapiau ar gyfer ein llwybrau.
Gwiriwch yr amodau tywydd
Gwiriwch y rhagolygon cyn cychwyn. Gall glaw, eira a niwl i gyd wneud taith gerdded yn fwy heriol. Gwnewch yn siŵr bod gennych ddillad addas neu aildrefnwch eich taith ar gyfer diwrnod brafiach.
Cofiwch ddod â dillad gwrth-ddŵr
Os allwch chi ddibynnu ar un peth yng Nghymru, y glaw yw hwnnw! Sicrhewch fod gennych got law a throwsus sy’n dal dŵr.
Paciwch ddillad cynnes
Gall pacio siaced neu siwmper sbâr yn eich sach gefn eich cadw'n gynnes wrth i chi fwynhau'ch picnic neu os yw'r tywydd yn troi.
Rhowch wybod i rywun rydych chi'n ymddiried ynddo pa lwybr rydych chi’n ei ddilyn a faint o’r gloch y disgwylir i chi ddychwelyd
Os aiff rhywbeth o'i le ac nad ydych yn dychwelyd ar amser, gallant hysbysu’r awdurdodau.
Hydradwch yn dda
Mae'n hanfodol i yfed digon, yn enwedig pan fydd y tywydd yn boeth. Cymerwch fwy nag yr ydych chi'n meddwl y gallai fod ei angen arnoch chi. Gall fflasg o de yng nghanol eich taith fod yr egwyl berffaith!
Parchwch gefn gwlad
Dylai’r awyr agored fod yno i bawb gael mwynhau. Mae'r Cod Cefn Gwlad yn cynnig awgrymiadau ar sut i helpu i ofalu am gefn gwlad.
Gwiriwch amseroedd bws a thrên
Os ydych chi'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd eich taith gerdded a mynd oddi yno, edrychwch ar amseroedd ein trenau a bysiau.