Mae gwasanaethau bws yn dechrau ar 30 Mehefin 2024

Bydd bysiau'n dechrau cyrraedd a gadael cyfnewidfa newydd sbon Caerdydd ddydd Sul 30 Mehefin. Mae'n garreg filltir newydd a chyffrous i drafnidiaeth yn y brifddinas.

Wedi'i gweithredu gan Trafnidiaeth Cymru, mae'r gyfnewidfa yn ganolbwynt trafnidiaeth ac yn cynnwys 14 bae bws. Bydd yn cynnig gwell cysylltiadau i wahanol ddulliau teithio a rhyngddynt, gan gynnwys bysiau, trenau, cerdded, beicio a theithio ar olwynion. Bydd yn cynnig gwell ddarpariaeth drafnidiaeth o fewn y ddinas ac ar draws y rhanbarth i weddu ffordd o fyw pobl yn well.

Mae'r gyfnewidfa yn rhan o'n cynllun ehangach ar gyfer 'Metro Canolog', canolfan drafnidiaeth integredig sy'n caniatáu defnydd hawdd a mynediad i bob math o drafnidiaeth gyhoeddus gyda system ‘troi fyny a mynd' yng nghanol Caerdydd.

Modes of travel

 

 

Ble mae'r gyfnewidfa a beth fydd yr oriau agor?

Ein cyfeiriad yw Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd, Sgwâr Canolog, Caerdydd, CF10 1GF

Bwrwch olwg gan ddefnyddio Google Maps

Bydd y gyfnewidfa yn agor cyn i wasanaeth bws cyntaf y dydd adael ac yn cau ar ôl ymadawiad bws olaf y dydd.

 

Canolbwynt ar gyfer gwybodaeth am drafnidiaeth

Bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn ganolbwynt ar gyfer gwybodaeth am drafnidiaeth. Bydd ein cydweithwyr wrth law i ateb eich cwestiynau, gan ei gwneud yn gyfarwydd ac yn hawdd i bawb ei defnyddio. Byddant yn cynghori ar sut i ddod o hyd i’ch gwasanaeth yn y gyfnewidfa yn ogystal â gwasanaethau bws ar y stryd gerllaw. Byddant yn eich helpu i gynllunio eich taith a chynghori ar y llwybrau gorau i'w dilyn.

Mae Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd a gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog ond pum munud ar wahân ar droed a bydd y ddau dîm yn gweithio fel un.

Bydd gwybodaeth glir i gwsmeriaid, gan gynnwys arwyddion i’ch helpu i ddod o hyd i’ch ffordd o gwmpas y gyfnewidfa, amseroedd byw o’r bysiau’n gadael a chyrraedd yn ogystal ag amseroedd trenau yng Nghaerdydd Canolog - gan eich helpu i deithio'n ddi-dor ar y bws ac ar y trên.

Cyfleusterau’r gyfnewidfa

 

Pa wasanaethau fydd yn cyrraedd ac yn gadael y cyfnewid?

Mae Bws Caerdydd a Stagecoach wedi cadarnhau pa rai o’u gwasanaethau fydd yn rhedeg o'r gyfnewidfa fysiau o 30 Mehefin fel rhan o gam cyntaf agor y safle.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am wasanaethau Bws Caerdydd yma. Cysylltwch â Bws Caerdydd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am eu gwasanaethau.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am wasanaethau Stagecoach yma. Cysylltwch â Stagecoach i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am eu gwasanaethau.

Mae bwriad i wasanaethau eraill ddefnyddio'r gyfnewidfa fysiau yn ddiweddarach eleni.  Bydd y gwasanaethau nesaf hyn yn ddechrau gwasanaethu o fis Medi 2024. Fe rannwn ni ragor o fanylion am y gwasanaethau newydd hyn unwaith y bydd y dyddiadau wedi’u cadarnhau.

  • Gwybodaeth am fae bysiau
    • O 30 Mehefin, bydd gwasanaethau’n rhedeg o’r baeau hyn i ddechrau, ond efallai y bydd newidiadau. Gwiriwch y sgriniau gwybodaeth cyn i chi deithio i gael gwybodaeth ymadael fyw.

    • Bae

      Bws

      1

      124 Maerdy (Stagecoach)

      2

      122 Tonypandy (Stagecoach)

      3

      32 Sain Ffagan (Bws Caerdydd)

      5

      95 Y Barri (Bws Caerdydd)

      6

      92 Penarth a’r Barri (Bws Caerdydd)
      93
      94

      8

      96 Y Barri (Bws Caerdydd)

      9

      13 Drope (Bws Caerdydd)

      11

      61 Pentrabane (Bws Caerdydd)

      12

      25 Llandaf a’r Eglwys Newydd (Bws Caerdydd)

      14

      62 Rhydlafar, Radur a Treforgan (Bws Caerdydd)
      63

    • Gallwch hefyd gynllunio’ch taith ar wefan Traveline Cymru.

 

Dewch draw cyn 30 Mehefin i weld beth allwch ei ddisgwyl

Bydd y gyfnewidfa ar agor i'r cyhoedd rhwng 07.00 a 19.00 ddydd Iau 27, dydd Gwener 28 a dydd Sadwrn 29 Mehefin.

Beth am ddod draw i weld y cyfleusterau a chwrdd â'n llysgenhadon cwsmeriaid cyfeillgar i weld beth allwch ei ddisgwyl?