Liverpool

Mae calon dinas enedigol The Beatles yn curo â diwylliant a threftadaeth

Mae mwy o amgueddfeydd ac orielau yn Lerpwl nag yn unrhyw le arall yn y DU ar wahân i Lundain ac mae’n ddinas ddelfrydol ar gyfer gwyliau. Mae’n gartref i nifer o grwpiau cerddorol, dau glwb pêl-droed o uwchgynghrair Lloegr a Chwrs Rasio Aintree felly mae’n cynnig llawer mwy na chelf, mae Lerpwl yn ddinas ddelfrydol ar gyfer gwyliau.

 

Pori heb borwr

Dewch i ni fynd yn ôl i amser go iawn a mwynhau pori heb borwr. Gall ein trenau fynd â chi i rai o gyrchfannau siopa gorau’r DU, felly gallwch chi fwynhau rhywfaint o therapi siopio heb unrhyw ddiffygion technegol.

Ewch ar y trên i Lerpwl Lime Street ac fe ddewch chi o hyd i Liverpool ONE ryw 15 munud o waith cerdded i ffwrdd. Wrth ymyl glannau eiconig y ddinas, mae yna ddewisiadau stryd fawr a dewisiadau moethus, felly rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i rywbeth sy’n addas i bob chwaeth a chyllideb. Ar gyfer siopau annibynnol, cerddwch 7 munud o Lime Street i Bold Street ac fe ddewch chi o hyd i un o’r ‘strydoedd siopa gorau yn y wlad’ yn ôl Lonely Planet.

 

Gwerth eu gweld

  • The Beatles Story a The Cavern - Dysgwch am hanes The Beatles yn y dathliad anhygoel hwn gydag arddangosfeydd, eitemau cofiadwy, canllawiau sain, ffotograffau a mwy yn yr atyniad yma sydd wedi ennill gwobrau. Wedyn beth am fynd draw i The Cavern, sydd wedi cael ei alw’n ‘y clwb enwocaf yn y byd’. Mae wedi bod yn ganolbwynt i gerddoriaeth yn Lerpwl ers dros 60 o flynyddoedd.
  • Oriel Gelf Walker - Cartref i waith gan David Hockne a Lucian Freud yn ogystal â champweithiau o’r Dadeni a chasgliadau o gelf Cyn-Raffaëlaidd. Mae’r Oriel yma wedi bod yn un o’r goreuon yn Ewrop ers dros 130 o flynyddoedd.
  • Anfield a Goodison Park - Cyrchfan ar gyfer unrhyw un sy’n mwynhau pêl-droed. Mae’r ddau gawr yma wedi croesi’r ddinas i chwarae ei gilydd yn fwy na neb arall ar y lefel uchaf ym mhêl-droed Lloegr

 

Penwythnos yn Lerpwl

Cadeirlan Lerpwl ydy’r gadeirlan fwyaf yn y DU. Dechreuwyd adeiladu Cadeirlan Lerpwl yn 1904 ac ni chafodd y gwaith ei orffen tan 1978, 74 o flynyddoedd yn ddiweddarach.

Tate Liverpool - yn noc Royal Albert gallwch fwynhau arddangosfeydd modern a chyfoes Prydeinig a rhyngwladol yn yr oriel yma. Agorwyd Tate Liverpool yn 1988 ac ar hyn o bryd mae’n arddangos dros 70,000 darn o gelf.

British music experience - Agorwyd yr atyniad yma yn 2017 ac mae’n defnyddio dillad, offerynnau ac eitemau cofiadwy perfformwyr i adrodd hanes cerddoriaeth dros y blynyddoedd. Mae hyd yn oed cyfle i chi roi cynnig ar chwarae gitâr neu daro drymiau.