Beth sy'n digwydd yn eich cymuned chi
Amcangyfrifir bod 50,000 ohonoch yn byw o fewn 200 metr i'n rhwydwaith drenau. Yng Nghymru, mae hanner ohonom yn byw o fewn pellter cerdded (10 munud neu lai) i drafnidiaeth gyhoeddus, boed hynny'n safle bws neu'n orsaf drenau. Mae trafnidiaeth yn hanfodol i ffyniant a lles ein cymunedau.
Rydym yn gweithio'n galed i drawsnewid y modd rydyn ni'n teithio yng Nghymru. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw waith sy'n digwydd ar ein ffyrdd neu reilffyrdd a allai effeithio ar eich ardal leol.