Rydym yn ymweld â grwpiau lleol i drafod y cymorth sydd ar gael yn ein gorsafoedd ac ar ein trenau, sut mae prynu tocyn ac archebu cymorth, y cyfleusterau mewn gorsafoedd ac ar ein trenau a pha ddisgowntiau sydd ar gael.
Gallwn drefnu teithiau ymgyfarwyddo hefyd er mwyn i chi gael profiad o deithio ar drên gyda ni.
I drefnu ymweliad ymwybyddiaeth, cysylltwch â’n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 03333 211 202 (O 08:00 - 20:00 Dydd Llun i Dydd Sadwrn a 11:00 - 20:00 Dydd Sul heblaw 25 a 26 Rhagfyr) neu anfonwch e-bost at community@tfw.wales.