Ein canllaw i orsafoedd ynghylch gwneud rheilffyrdd yn hygyrch
Helpu Teithwyr Hŷn ac Anabl yn rhestru ein gorsafoedd i gyd ac yn egluro pa gyfleusterau sydd ar gael ynddynt gan gynnwys oriau staff, toiledau a sgriniau gwybodaeth.
Lawrlwytho Making Rail Accessible: Helpu Teithwyr Hŷn ac Anabl (Dogfen Word)
Neu, gallwch weld y wybodaeth drwy ddefnyddio’r adnodd isod.
Dewiswch eich gorsaf isod
Ymddiheuriadau nad yw’r holl wybodaeth ar y tudalennau hyn ar gael yn Gymraeg.
Mae ein canllaw Gwneud Rheilffyrdd yn Hygyrch: Helpu Teithwyr Hŷn ac Anabl yn rhestru ein gorsafoedd i gyd ac yn egluro pa gyfleusterau sydd ar gael ynddynt, gan gynnwys yr oriau staffio, toiledau a sgriniau gwybodaeth.
Mae’r dudalen we yma yn rhoi gwybodaeth am ein trefniadau presennol i helpu teithwyr anabl a hŷn i deithio ar ein trenau, gan gynnwys manylion ein cyfleusterau yn y gorsafoedd. Mae hefyd yn darparu manylion cyswllt a gwybodaeth ddefnyddiol a all fod eu hangen arnoch i gynllunio eich teithiau.
Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â hygyrchedd pob gorsaf sydd ar ein rhwydwaith ar hyn o bryd. Mae categorïau hygyrchedd gorsafoedd wedi cael eu pennu gan y Grŵp Cyflawni Rheilffyrdd ac mae’n egluro pa lefel hygyrchedd sydd i’w chael ym mhob gorsaf. Gweler isod i gael rhagor o wybodaeth am bob categori.
MMae rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut rydyn ni’n delio â sefydliadau eraill, ein polisïau a hygyrchedd ar ein rhwydwaith i’w chael yn ein Polisi Teithio Hygyrch.
Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon yn gywir ar 15 Mehefin 2023.
Rydyn ni’n diweddaru’r wybodaeth hon yn unol ag unrhyw newidiadau.
-
Cymorth wrth deithio i deithwyr
- I gael help i drefnu cymorth wrth deithio, a chynllunio eich taith
- Ffoniwch ein tîm Cymorth wrth Deithio: 03330 050 501
- Gwasanaeth Testun y Genhedlaeth Nesaf 18001 03330 050 501 (i bobl sydd ag anawsterau clywed a siarad)
- Mae’r tîm Cymorth wrth Deithio ar gael bob dydd heblaw 25 a 26 Rhagfyr o 08:00 i 20:00
- Ewch i’n gwefan
- I gael help i drefnu cymorth wrth deithio, a chynllunio eich taith
-
Categoreiddio hygyrchedd gorsafoedd
-
Categori A
- Mae gan yr orsaf fynediad heb stepiau i a rhwng bob platfform, pob amser pan fo trenau’n rhedeg, trwy fynediad gwastad, lifftiau neu rampiau (yn unol â safonau adeiladu newydd o ran graddiant/hyd. Caniateir llwybrau cerdded a mynedfeydd gorsaf sydd ddim yn cyrraedd criteria A, cyn belled â bod y pellter ychwanegol i osgoi’r rhain yn ddim mwy na 100m.
-
Categori B
- Dydy’r orsaf ddim yn cyrraedd categori A, ond mae ganddi fynediad heb stepiau un ai i bob platfform neu i o leiaf un platfform. Mewn rhai achosion, efallai y bydd rhai pobl hyn ac anabl ddim yn gallu defnyddio’r orsaf, ond mewn achosion eraill mae’n bosib y bydd rhwystrau sylweddol sy’n debygol o gyfyngu ar allu rhai pobl anabl a hŷn i ddefnyddio’r orsaf. Gallai hyn gynnwys rampiau hir neu serth, mynediad rhwng platfformau sy’n golygu croesi ffordd, ac efallai na fydd mynediad heb stepiau i na rhwng pob rhan o’r orsaf.
-
Categori B1.
- Mynediad heb stepiau i bob platfform - gall gynnwys rampiau hir neu serth. Efallai fod mynediad rhwng platfformau yn golygu croesi ffordd. Nid yw’r orsaf hon yn cyrraedd categori A, ond mae ganddi fynediad heb stepiau (i bob platfform) y gellir ei ddefnyddio gan lawer o bobl â symudedd cyfyngedig. Efallai fod mynediad ar hyd rampiau, graddiant o hyd at 1:10 (unrhyw hyd). Gall rampiau byr pen platfform fod â graddiant o hyd at 1:7.
- Efallai fod mynediad rhwng platfformau yn golygu croesi ffordd, dim mwy na 400m. Caniateir mynediad ar draws croesfan reilffordd (os oes rhwystrau llawn). Efallai fod llwybrau mynediad yn mynd trwy feysydd parcio, neu eu bod yn ffyrdd mynediad byr heb balmentydd, ond fel arall rhaid i lwybrau sy’n croesi ffodd gynnwys palmant. Caniateir mynedfeydd/llwybrau cerdded sydd ddim yn cyrraedd criteria A1 neu A2, cyn belled â bod y pellter ychwanegol i osgoi’r rhain yn ddim mwy na 400m.
-
Categori B2.
- Peth mynediad heb stepiau i bob platfform - edrychwch ar y manylion. Mae gan yr orsaf hon fynediad heb stepiau i bob platfform, ond mae rhwystrau sylweddol yn bodoli sy’n debygol o gyfyngu ar allu rhai pobl i ddefnyddio’r orsaf. Nid yw’r llwybrau heb stepiau yn bodloni meini prawf A neu B1 (ee rampiau hir sy’n fwy serth nag 1:10, neu’r llwybr heb stepiau rhwng platfformau sy’n hirach na 400m). Mae unrhyw orsaf sydd â chroesfan reilffordd â hanner-rhwystr neu ddim clwydi yn B2 neu is.
- Mae unrhyw orsaf lle dydy mynediad heb stepiau ddim ond ar gael ar adegau penodol, neu i deithwyr penodol, yn B2 neu is (e.e. Gan nad yw’r lifftiau ar gael pan nad oes staff yn yr orsaf) er enghraifft, os ydy amseroedd agor y mynediad heb stepiau yn dibynnu ar gael staff yn yr orsaf.
-
Categori B3.
- Peth mynediad heb stepiau, o bosib mewn un cyfeiriad yn unig - edrychwch ar y manylion. Mae gan yr orsaf hon fynediad heb stepiau i lai na chyfanswm y platfformau.
-
Categori C.
- Nid oes gan yr orsaf fynediad di-dris i unrhyw blatfform.
-
Mannau Newid
Ni all 1/4 miliwn o bobl anabl ddefnyddio toiledau hygyrch safonol. Mae gan doiledau Changing Places fwy o le a'r offer iawn, gan gynnwys mainc newid a theclyn codi.
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Gwirio capasiti