Cysylltu â ni

 

Cwestiynau cyffredin

Beth yw Trafnidiaeth Cymru?

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn cysylltu pobl a chymunedau drwy drenau, bysiau, cerdded, olwyno a beicio, gan helpu Cymru i deithio’n fwy cynaliadwy.

Sut alla i brynu tocynnau trên yng Nghymru?

Prynwch eich tocynnau cyn teithio ar ein gwefan, ar yr ap neu yn ein swyddfeydd tocynnau a’n peiriannau tocynnau yn yr orsaf. Gall prynu’n uniongyrchol gyda ni cyn teithio arbed arian i chi a gwneud eich siwrnai’n fwy hwylus.

Ai cwmni preifat ydy Trafnidiaeth Cymru?

Na, sefydliad nid-er-elw sy’n eiddo i’r cyhoedd ydyn ni. Bydd unrhyw arian a wnawn yn cael ei ailfuddsoddi yn ein gwasanaethau.

Sut ydw i’n cysylltu â Trafnidiaeth Cymru?

Edrychwch ar y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni ar ein tudalen cysylltu â ni.

A ydy Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am wasanaethau ar draws ffiniau Cymru?

Ydy. Mae ein trenau’n rhedeg rhwng Cymru a chyrchfannau sy’n cynnwys Manceinion, Caer, Amwythig a Henffordd.