Tîm Trafnidiaeth Cymru
Prif ddiben ein Bwrdd yw sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn bodloni gofynion ei gylch gwaith fel y nodir gan Lywodraeth Cymru, ac i sicrhau y cyflawnir ein strategaeth.
Mae Bwrdd TrC yn cynnwys y Cadeirydd, y Prif Weithredwr, pedwar swyddog annibynnol anweithredol a dau aelod gweithredol. Rôl y bwrdd yw:
- darparu arweinyddiaeth effeithiol ar gyfer TrC ; diffinio a datblygu cyfeiriad strategol, a gosod amcanion ;
- darparu arweinyddiaeth effeithiol ar gyfer gwaith y sefydliad; dal y Prif Weithredwr i gyfrif am sicrhau bod gweithgareddau TrC yn cael eu cyflawni’n effeithlon ac yn effeithiol;
- monitro perfformiad i sicrhau bod TrC yn cyflawni ei nodau, ei amcanion a’i dargedau perfformiad yn llawn; a
- hyrwyddo safonau heb eu hail o safbwynt cyllid cyhoeddus; arddel egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian.
Mae’r Bwrdd yn cyfarfod un ar ddeg o weithiau’r flwyddyn, a chynhelir diwrnodau ychwanegol ar gyfer Datblygiad y Bwrdd yn ôl yr angen. Rydym yn cyhoeddi cofnodion ein cyfarfodydd Bwrdd; maen nhw ar gael yma
Bwrdd Cyfarwyddwyr
Cyfarwyddwyr Anweithredol

Mae Scott yn Gadeirydd Bwrdd Trafnidiaeth Cymru.

Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg

Cadeirydd y Pwyllgor Cwsmeriaid a Chyfathrebu

Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Llesiant

Cadeirydd y Pwyllgor Pobl

Cyfarwyddwyr Gweithredol
Heather Clash (Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid)
Cofrestr Buddiannau - Mawrth 2022
Ewch Tîm Gweithredol
Mae’r Bwrdd yn dirprwyo ar ran y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, i gyflawni’r holl swyddogaethau ac eithrio'r canlynol :
- unrhyw fater sydd wedi'i neilltuo i'r Bwrdd ;
- unrhyw fater a ddirprwywyd i bwyllgor neu is-bwyllgor y Bwrdd .
Er mwyn cefnogi'r Prif Weithredwr i gyflawni’r swyddogaethau hyn, mae ein strwythur rheoli yn cynnwys nifer o grwpiau sy’n goruchwylio gweithgareddau gweithredol a strategol y sefydliad.
Mae’r Uwch Dîm Arwain yn gweithio mewn partneriaeth â'r Bwrdd wrth ddatblygu strategaeth TrC. Mae’r Uwch Dîm Arwain yn atebol am weithgareddau dydd i ddydd y sefydliad ac yn darparu arweinyddiaeth gorfforaethol.
Mae’r Weithrediaeth yn cynnwys y Prif Weithredwr a'r saith Cyfarwyddwr Gweithredol a dau Gyfarwyddwyr .
Fel Swyddog Cyfrifyddu TrC , y Prif Weithredwr (James Price) sy’n bersonol gyfrifol am:
- stiwardiaeth briodol o’r arian cyhoeddus;
- gweithrediadau a rheolaeth o ddydd i ddydd Trafnidiaeth Cymru; ac am
- sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru'.

Mae James yn arwain y sefydliad er mwyn darparu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n destun balchder i bawb.

- Swyddogaeth a gweithgareddau cyllid
- Strategaeth a chynllunio ariannol
- Dadansoddi perfformiad a risg
- Archwilio a Rheoli Ariannol Mewnol

- Datblygu brand TrC
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid, cymunedau a chynrychiolwyr etholedig
- Ymgysylltu â’r cyfryngau a chyd-weithwyr

- Gweithrediadau trafnidiaeth aml-foddol ar gyfer TrC a rheolaeth awdurdod dros Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru
- Cyflwyno ein rhaglenni buddsoddi mewn gorsafoedd a cherbydau rheilffyrdd newydd
- Nawdd ar gyfer cynlluniau gwella trafnidiaeth a darparu prosiectau rheilffyrdd
- Cyflenwi gwasanaethau gwerth ychwanegol gan gynnwys gwasanaethau glanhau trenau ac arlwyo
- Perchnogaeth a rheoli asedau Llinellau Craidd y Cymoedd

- Cyflwyno rhaglen Trawsnewid Cledrau’r Cymoedd a Phrosiectau Seilwaith yn ehangach.
- Cyfrifol am y Swyddfa Rheoli Prosiectau sy’n cefnogi gofynion ar draws Trafnidiaeth Cymru

- Perfformiad diogelwch corfforaethol
- Cydymffurfiaeth cyflenwyr â systemau rheoli diogelwch
- Perfformiad cynaliadwyedd corfforaethol
- Cymeradwyo Safonau Peirianneg i’w mabwysiadu gan Trafnidiaeth Cymru fel perchennog system Cledrau’r Cymoedd
- Rheoli prosesau caffael Trafnidiaeth Cymru

- Cyngor/ymgynghori
- Datblygu Busnes
- Datblygu Pobl a Datblygu’r Sefydliad
- Llety
- TG

- Polisi a Chontractau Masnachol
- Teithwyr a Thwf Refeniw
- Profiad Cwsmeriaid
- Trafnidiaeth Integredig
- Rheoli Risgiau Corfforaethol

- Datblygu ac arwain TrC yn y Gogledd
- Twf TrC a strategaeth integredig i Ogledd Cymru
- Cyfathrebu ac ymgysylltu yn y Gogledd
- Ymateb i faterion sy’n datblygu a materion adweithiol yn gysylltiedig â TrC yn y Gogledd
- Cynghori a chefnogi’r tîm ehangach mewn cysylltiad â rhanbarth Gogledd Cymru

- Datblygu strategaeth pobl gan gynnwys proses, diwylliant ac ymgysylltu
- Hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant a gwerth cymdeithasol
- Datblygu doniau a gallu ein gweithlu
- Esblygu ein systemau, prosesau a pholisïau ategol

- Data
- Digidol
- Technoleg Gwybodaeth
- Trawsnewid Digidol