Vernon Everitt

Cyfarwyddwr Anweithredol

Gyda dros 40 mlynedd o brofiad ar draws y sectorau cyllid, trafnidiaeth a thechnoleg, Vernon yw Comisiynydd Trafnidiaeth Manceinion Fwyaf. Mae’n cynghori’r Maer ar ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig ar gyfer y rhanbarth ochr yn ochr â mwy o gyfleusterau teithio llesol.

Rhwng 2007 ac Ionawr 2022, Vernon oedd Rheolwr Gyfarwyddwr Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Thechnoleg yn Trafnidiaeth Llundain. Roedd Vernon yn canolbwyntio ar roi cwsmeriaid wrth galon strategaethau a gweithrediadau trafnidiaeth, gan gynnwys sut y gall integreiddio gwasanaethau a thechnoleg a data arwain at deithiau gwell. Bu Vernon yn arwain strategaeth farchnata a chyfathrebu lwyddiannus ar draws y Llywodraeth a’r diwydiant trafnidiaeth ar gyfer Gemau Olympaidd 2012 Llundain, yr ymgyrch integredig fwyaf erioed o’i bath.

Mae Vernon hefyd wedi gweithio ar lefel uwch yn yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol ac ym Manc Lloegr mewn amrywiaeth o swyddi bancio, rheoleiddio, corfforaethol a chyfathrebu. Mae hefyd yn uwch gynghorydd i’r cwmni ymgynghori Teneo, ac mae’n Gadeirydd y Cyngor Cynghori ar Dechnoleg, National Grid ESO. Ymunodd â TrC fel Cyfarwyddwr Anweithredol ym mis Medi 2019.