Rydyn ni’n cynnig ystod eang o gyfleoedd hysbysebu ar draws ein rhwydwaith.
Global sy’n delio â’n holl ymholiadau ynghylch posteri ar drenau ac mewn gorsafoedd, hysbysebu ar gatiau tocynnau, samplu a hysbysebu amgylchol ac arbrofol.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd hysbysebu, cysylltwch â:
Global
drwy ffonio 0333 200 6000
Neu drwy anfon e-bost at https://global.com/advertise/
Ceisiadau ffilmio masnachol
Rydyn ni’n cydnabod bod cryn ddiddordeb mewn ffilmio ar ein rhwydwaith a byddwn bob amser yn ceisio bodloni ceisiadau o’r fath.
Gan fod y rheilffordd yn amgylchedd lle mae diogelwch yn hollbwysig, mae’n rhaid goruchwylio pob cais i ffilmio ar ein trenau a’n gorsafoedd ac mae’n rhaid rhoi 14 diwrnod o rybudd i ni pan fyddwch chi’n cyflwyno eich ceisiadau.
Ein cyfradd sefydlog ar gyfer ffilmio yw £250 yr awr sy’n cwmpasu’r holl gostau gweinyddol sy’n gysylltiedig â pharatoi ar gyfer y ffilmio.
Dylech ddarparu asesiad risg addas ar gyfer eich gweithgarwch arfaethedig ac mae’n rhaid bod gennych chi yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Anfonwch bob cais i filming@tfwrail.wales
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Gwirio capasiti