Cwestiynau cyffredin

Ydych chi’n chwilio am atebion am ein heiddo masnachol a manwerthu? Rydyn ni wedi creu rhestr o gwestiynau cyffredin isod.

Pa fathau o eiddo sydd wedi’u rhestru yma?

Mae ein holl eiddo masnachol yn cael eu rhestru yma, gan gynnwys unedau manwerthu mewn gorsafoedd, eiddo diwydiannol, unedau storio, cyfleoedd masnachol eraill, a thir. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, anfonwch e-bost i property@tfw.wales.

Sut alla i drefnu i fynd i edrych ar eiddo?

Anfonwch e-bost i property@tfw.wales i drefnu ymweliad. Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi.

Alla i addasu neu adnewyddu'r lle?

Mae hyn yn dibynnu ar y math o eiddo, y defnydd arfaethedig a’r hyn sydd yn eich cytundeb. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â’n tenantiaid a, phan fo’n bosibl, rydyn ni’n darparu atebion wedi’u teilwra i anghenion busnes unigol. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i property@tfw.wales.

A oes prydlesi tymor byr ar gael?

Mae hyd y brydles yn dibynnu ar y math o eiddo a’r defnydd arfaethedig. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â’n tenantiaid a, phan fo’n bosibl, rydyn ni’n darparu atebion wedi’u teilwra i anghenion busnes unigol. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i property@tfw.wales.

Sut ydw i’n talu ffioedd rhentu neu brydlesu?

I gael cymorth gyda ffioedd rhentu neu brydlesu, anfonwch e-bost i property@tfw.wales.

A oes modd gwneud newidiadau i’r lle?

Yn dibynnu ar delerau eich prydles/cytundeb, fel arfer cewch wneud newidiadau, yn amodol ar gael caniatâd y landlord. Edrychwch ar eich cytundeb ac anfon neges e-bost i property@tfw.wales i gael rhagor o fanylion.

Sut ydw i’n hysbysebu fy musnes gyda Trafnidiaeth Cymru?

Mae gennym ystod eang o opsiynau hysbysebu ar gael ar gyfer pob cyllideb. Cysylltwch â’n hasiantaeth hysbysebu, Route Media, i drafod cyfleoedd.

Ydych chi’n caniatáu ffilmio a thynnu lluniau yn yr eiddo?

Ydyn - ewch i’n tudalen Ffilmio i gael rhagor o wybodaeth.

Alla i drefnu stondin bwyd a diod yn eich gorsafoedd?

Mae gennym sawl lleoliad sy’n addas ar gyfer hyn. Anfonwch e-bost i property@tfw.wales i gael rhagor o fanylion neu edrychwch ar y lleoliadau sydd ar gael ar hyn o bryd ar ein tudalen eiddo.

Mae gen i syniad am gyfle masnachol; sut mae cysylltu â chi?

Cysylltwch â ni’n uniongyrchol drwy anfon neges e-bost i property@tfw.wales.

 

Cysylltu

Angen mwy o help? Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â:

Tîm eiddo