Ffordd symlach o deithio rhwng Gogledd a De Orllewin Cymru
Mae TaithCymru yn wasanaeth coets newydd rhwng Gogledd a De Orllewin Cymru, gan wneud teithiau hirach ar draws y wlad yn gyflymach, yn haws ac yn fwy cyfforddus.
Prynwch eich tocynnau nawr, cyn lansiad y gwasanaeth ar ddydd Sul 25 Hydref 2026.
P'un a ydych chi'n cynllunio penwythnos i ffwrdd, yn mynd adref o'r brifysgol, yn ymweld â ffrindiau a theulu, yn teithio ar gyfer gwaith neu'n ymweld â rhywle newydd, gall TaithCymru gynnig cysylltiad uniongyrchol i chi rhwng cymunedau allweddol a chyrchfannau ledled Cymru.
Cliciwch yma i ddod o hyd i amseroedd coetsys a trefnu eich taith. Mae amserlenni dydd Sadwrn a Sul yn wahanol.
Prynwch eich tocyn i gadw sedd a mwynhau taith symlach, mwy uniongyrchol rhwng Gogledd a De-orllewin Cymru.
Os oes angen cymorth arnoch i brynu tocynnau, os oes gennych ymholiad am daith neu os oes angen cefnogaeth arnoch gydag unrhyw agwedd o wasanaeth TaithCymru, cysylltwch â ni drwy:
- Ffôn - 03333 211 202
- E-bost - taithcymrusupport@tfw.wales
- Facebook Messenger - @TfWTrafnidiaethCymru (ymholiadau a diweddariadau gwasanaeth yn unig)
Sylwch fod cymorth i brynu tocynnau ar gael dros y ffôn yn unig.
Yn lle mae TaithCymru yn galw?
Bydd TaithCymru yn gweithredu naw taith ddwyffordd bob dydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin, gan gysylltu trefi allweddol, gorsafoedd trenau a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar hyd y llwybr.
- Gorsaf drenau Caergybi a Phorthladd Caergybi*
- Gorsaf drenau Bangor
- Caernarfon
- Porthmadog
- Dolgellau
- Machynlleth
- Prifysgol Aberystwyth
- Gorsaf fysiau Aberystwyth
- Aberaeron
- Gorsaf drenau Caerfyrddin
*Bydd un daith hwyr y nos bob dydd yn teithio rhwng gorsaf trenau Bangor a Chaergybi a Phorthladd Caergybi, gan hwyluso cysylltiadau â gwasanaethau trenau a fferi
I ble allwch chi deithio gyda TaithCymru?
O strydoedd hanesyddol Caernarfon a mynyddoedd Eryri i drefi glan môr Aberaeron ac Aberystwyth, mae TaithCymru yn ei gwneud hi'n haws archwilio rhai o gyrchfannau mwyaf poblogaidd Cymru heb orfod teithio mewn car.
Pwy fydd yn rhedeg gwasanaeth TaithCymru?
Bydd TaithCymru yn cael ei redeg gan Edwards Coaches, mewn partneriaeth â Llew Jones.
Bydd y ddau weithredwr profiadol yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaeth dibynadwy ac o ansawdd uchel. Byddant yn cyfuno gwybodaeth leol â phrofiad o ddarparu gwasanaethau bysiau a choetsys ledled Cymru.
Pam dewis TaithCymru?
- Hyd y daith hyd at 60 munud yn gynt nag opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus eraill.
- Cysylltiadau uniongyrchol rhwng Gogledd a De Orllewin Cymru.
- Naw taith ddwyffordd bob dydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin.
- Un daith hwyr y nos bob dydd yn teithio i orsaf drenau Caergybi a Phorthladd Caergybi.
- Cysylltiadau â gwasanaethau trenau, bysiau lleol, TrawsCymru a fferi.
- Seddi cyfforddus sy'n codi a gostwng.
- Wi-Fi rhad ac am ddim.
- System aerdymheru.
- Toiled*
- Lle i fagiau.
*Mae lle i gadeiriau olwyn ar ein coetsys ond dyw'r toiledau ddim yn hygyrch. Os oes angen y toiled arnoch yn ystod eich taith, siaradwch â'r gyrrwr. Gall stopio yn y lleoliad priodol nesaf.
Noder: Ar hyn o bryd, nid oes modd i ni alw yn Aberaeron gan nad yw'r safle yno yn hygyrch.
Mae opsiynau teithio hygyrch amgen ar gael ar wasanaethau TrawsCymru T1 (Caerfyrddin - Aberystwyth), T5 (Aberaeron - Aberystwyth) a T2 (Aberystwyth - Bangor). Nid yw'r gwasanaethau hyn yn rhedeg dros nos.