Harbour in winter with Moelwyn range covered in snow in background Porthmadog Gwynedd Snowdonia

Mae’r dref harbwr hon yn llawn hanes morwrol ac mae’r golygfeydd o Barc Cenedlaethol Eryri yn wefreiddiol.

Wedi’i lleoli yng ngogledd-orllewin Cymru, roedd y dref arfordirol hon yn enwog am allforio llechi ac, i’r sawl sy’n gwirioni ar drenau, rhaid ichi ymweld â hi.

 

Pethau I'w Gweld

  • Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri - A hithau dros 200 mlwydd oed, dyma yn swyddogol lein fach hynaf y byd. Gallwch eistedd yn ôl a mwynhau golygfeydd gwych o Eryri. Mae Rheilffordd Ffestiniog yn ddolen gyswllt rhwng rheilffyrdd y Cambrian a dyffryn Conwy ym Mlaenau Ffestiniog, ewch i fwynhau antur yn Zip World yn y ceudyllau llechi. Mae Rheilffordd Eryri yn galw ym Mhont Croesor ar gyfer safle gwylio gweilch y pysgod, Beddgelert ar gyfer bedd yr enwog Gelert a Chaernarfon ar gyfer y castell mawreddog.
  • Parc Cenedlaethol Eryri - Cartref mynydd uchaf Cymru, yr Wyddfa, a mwy na 90 o gopaon eraill a 100 o lynnoedd. Mae golygfeydd Eryri yn wirioneddol syfrdanol.
  • Pentref Portmeirion - Cafodd y ‘pentref delfrydol’ hwn ei adeiladu gan y pensaer o Gymro, Clough Williams-Ellis, a chymerodd 48 blynedd i’w gwblhau. Mae’r pentref trawiadol yn cynnwys gerddi, tai bwyta, siopau, gwestai a sba.

 

Penwythnos ym Porthmadog

Amgueddfa’r Môr, Porthmadog - wedi’i lleoli yn yr unig sied lechi sy’n dal i sefyll yn yr harbwr. Mae’r amgueddfa’n cynnwys casgliad mawr o arteffactau ac arddangosfeydd ar ddatblygiad y porthladd, adeiladu llongau, y llongau, a bywyd y morwyr.

Rheilffordd Ucheldir Cymru - Mwynhewch reid fer (llai na milltir) ar y lein fach hon cyn stopio wrth y siediau injan lle cewch chi ddringo i mewn i gabiau'r locomotifau i weld sut maen nhw i gyd yn gweithio.

Castell Cricieth - Wedi’i adeiladu’n wreiddiol gan Lywelyn Fawr, mae i’r castell hwn a’i ddeudwr ysblennydd hanes cyfoethog ichi ei archwilio.