Ewch ar y trên a’r fferi i Iwerddon gyda’n tocyn cyfun Rheilhwylio.

Mae Rheilhwylio yn docyn cyfun trên a fferi o unrhyw le ym Mhrydain i unrhyw le yng Ngogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. Teithiwch ar y trên i Gaergybi neu Abergwaun, yna dal fferi Irish Ferries neu Stena Line i Iwerddon.

Mae’n bosibl cadw lle ar drên a fferi o’ch dewis wrth brynu eich tocynnau, sy’n rhoi tawelwch meddwl i chi ar gyfer eich taith gyfan.

Rydym yn argymell bod cwsmeriaid yn gwirio amseroedd fferi byw gyda'u gweithredwr fferïau priodol cyn teithio.

 

Archebwch eich lle ar fferi nawr drwy brynu tocyn Rheilhwylio:

  • Prynwch eich tocyn ar ein gwefan gan ddefnyddio’r Cynllunydd Teithiau. Gwnewch yn siŵr mai'r porthladd cywir sydd wedi'i nodi fel cyrchfan. 

  • Prynwch eich tocyn dros y ffôn ar 03333 211 202 (8:00 i 20:00 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn neu rhwng 9:00 a 17:00 ar ddydd Sul).

  • Fel arall, gallwch brynu tocyn mewn unrhyw un o’n swyddfeydd tocynnau yn ein gorsafoedd.

 

Fyddech chi’n hoffi cael rhagor o wybodaeth Rheilhwylio?