Amseroedd fferi rhwng Cymru ac Iwerddon
Y ffordd hawsaf a chyflymaf o ddod o hyd i amserlenni trenau a fferïau yw defnyddio ein gwasanaeth cynllunydd teithiau.
Gwaith peirianyddol
I weld a yw eich teithiau trên a fferi yn cael eu heffeithio gan waith peirianyddol, gallwch ddefnyddio ein cynllunydd teithiau ar-lein neu ar yr ap cyn archebu tocyn.
Amseroedd cysylltu
Rhaid i chi adael bwlch o 30 munud o leiaf rhwng amser cyrraedd eich trên ac amser gadael eich llong.
Gwirio cyn teithio
Mae’r tywydd yn gallu effeithio’n fawr ar siwrneiau’r llongau felly rydyn ni’n argymell eich bod yn cael golwg ar eich siwrnai cyn cychwyn allan. Ewch i’n tudalen diweddariadau teithio i edrych ar eich siwrnai gyda Trafnidiaeth Cymru.
I gael gwybod a yw’r llong yn croesi, cysylltwch â’r cwmni llongau yn uniongyrchol.
Os ydych chi’n croesi gyda Stena Line ar y llwybrau canlynol:
-
Abergwaun i Rosslare
-
Caergybi i Borthladd Llongau Dulyn
-
Lerpwl i Belfast
Manylion cysylltu:
-
Ffoniwch +44 (0) 8705 755 755 wrth deithio i Iwerddon o Brydain
-
Ffoniwch +353 (0) 1 907 5300wrth deithio i Brydain o Iwerddon
-
Ewch i www.stenaline.co.uk/customer-service/latest-sailing-updates
Os ydych chi’n croesi gydag Irish Ferries ar y llwybrau canlynol:
-
Caergybi i Borthladd Llongau Dulyn
Manylion cysylltu:
Amseroedd y Llongau
Cofiwch holi eich gweithredwr cyn teithio.