Mae Trafnidiaeth Cymru yn cysylltu cymunedau â’u rheilffyrdd.
Gyda’n Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol a’n cynllun mabwysiadu gorsaf rydym wedi ymrwymo i ddangos y gorau sydd gan rwydwaith Cymru a’r Gororau i’w gynnig drwy ddigwyddiadau, prosiectau a sgyrsiau cymunedol.
Mae creu effaith gymdeithasol gadarnhaol yn yr hyn rydyn ni'n ei wneud yn rhan o’n pwrpas craidd yn Rheilffyrdd Cymunedol; rydyn ni eisiau gwneud y peth iawn, gwneud gwahaniaeth a chefnogi’r gwaith o gyflawni Strategaeth Cymunedau Cysylltiedig Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a meithrin cysylltiadau cymdeithasol cryfach.
Pwrpas y Strategaeth Rheilffyrdd Cymunedol yw gwneud y canlynol:
- rhoi llais i’r gymuned
- hyrwyddo teithio cynaliadwy, iach a hygyrch
- dod â chymunedau at ei gilydd a chefnogi amrywiaeth a chynhwysiant
-
cefnogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd
Rydyn ni wedi gosod blaenoriaeth allweddol yn ein Strategaeth Rheilffyrdd Cymunedol i gynyddu ein heffaith gymdeithasol gymaint â phosibl. Ein gweledigaeth, drwy ddatblygu dull ‘un tîm’ cydweithredol o fewn Rheilffyrdd Cymunedol, yw annog cymunedau ledled Cymru a’r Gororau i nodi a manteisio ar gyfleoedd ar gyfer buddion cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol y mae’r gwasanaeth trenau presennol yn eu darparu. Byddwn yn gwneud hyn drwy ymgysylltu pwrpasol a sgyrsiau adeiladol i gefnogi cymunedau i gael y gorau o’u rheilffyrdd drwy hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, teithio cynaliadwy a hygyrch a, lle bo’n bosibl, dod â gorsafoedd yn fyw.
Mae ein hymrwymiad i gefnogi cynlluniau sy’n cael eu harwain gan y gymuned yn mynd y tu hwnt i’n cyfrifoldebau yn Trafnidiaeth Cymru. Rydyn ni’n gweithio ar lawr gwlad wrth galon cymunedau sy’n ein rhoi ni mewn sefyllfa dda i helpu i sicrhau newid mewn ymddygiad.
Rydyn ni’n falch iawn o weithio gyda’r Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol canlynol ar hyn o bryd:
- Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Dyffryn Conwy a Gogledd-orllewin Cymru
- Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol 3 Sir Gysylltiedig
- Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol y Cambrian
- Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Calon Cymru
- Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Cysylltu De-orllewin Cymru
Mae Mabwysiadu Gorsaf wedi mynd o nerth i nerth yng Nghymru a’r Gororau. Mae gennym amrywiaeth eang o fabwysiadwyr o bob cefndir sydd eisiau gwella eu gorsaf gymunedol. Ac yn fwy na dim, mae rhai gorsafoedd yn dal i fod angen mabwysiadwyr.
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at community@tfw.wales.
-
Oeddech chi’n gwybod?Sgwrs | Panel CwsmeriaidRydyn i'n gweddnewid trafnidiaeth yng Nghymru. Mae hon yn dipyn o gamp ac mae angen eich help chi arnom.Ymgeisio i ymuno â Sgwrs