Mae Trafnidiaeth Cymru’n cydnabod pwysigrwydd Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru gan hyrwyddo cerdded a beicio fel y dulliau y bydd pobl Cymru am eu dewis wrth deithio pellterau bach. 

Yn ogystal â darparu cyngor a chymorth i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys helpu i adolygu’r canllawiau sy’n gysylltiedig â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, ym mis Rhagfyr 2020 daethom hefyd yn gyfrifol am weinyddu rhaglen y Gronfa Teithio Llesol ar ran Llywodraeth Cymru, gan ein galluogi i chwarae rhan llawer mwy o ran cefnogi teithio iach a chynaliadwy ledled Cymru.

Mae awdurdodau lleol yn gallu gwneud cais am gyllid drwy raglen y Gronfa Teithio Llesol (ATF), drwy gyfuniad o gyllid craidd a phroses ymgeisio gystadleuol, i gefnogi’r gwaith o ddarparu cynlluniau teithio llesol ledled Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am raglen y Gronfa ATF ar gael yma.

Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth integredig ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys darparu cymorth a chyngor i'w helpu i ddatblygu a darparu cynlluniau cerdded, olwynio a beicio.

Byddwn yn gwneud teithio llesol yn haws trwy wella cysylltiadau â thrafnidiaeth gyhoeddus, buddsoddi mewn gwelliannau i orsafoedd (gan gynnwys arwyddion i hyrwyddo teithio pellach ar droed, ar olwynion ac ar feic) a defnyddio cyllid Mynediad i Bawb yr Adran Drafnidiaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am y ffyrdd ymlaen sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cerdded a beicio ar gael yma.