Crëwyd y pecyn cymorth teithio llesol hwn ar y cyd ag awdurdodau lleol i hyrwyddo cerdded, olwynio a beicio yng Nghymru.

Mae’r canllawiau a’r adnoddau hyn wedi cael eu dylunio i gynyddu teithio llesol yng Nghymru. Maen nhw’n helpu awdurdodau lleol i ymgysylltu â’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu. Rydym wedi tynnu sylw at ymgyrchoedd effeithiol i gynyddu nifer y teithiau llesol i bwrpas.

Mae’r pecyn cymorth hwn wedi’i gynllunio i fod yn ddefnyddiol ac yn ymarferol. Rydyn ni wedi darllen gwaith ymchwil sydd eisoes yn bodoli i sicrhau bod y canllaw hwn yn hyrwyddo gweithgareddau sy’n gweithio. Wrth i bolisi, ymchwil ac amgylchiadau newid, byddwn yn diweddaru’r pecyn cymorth hwn. Rydyn ni’n croesawu adborth defnyddwyr ac awdurdodau lleol. Byddwn ni’n integreiddio’r adborth hwn mewn fersiynau o’r pecyn yn y dyfodol.

 

Canllawiau i

Cliciwch yma

Ffotograffiaeth

Mae gennym lyfrgell sy’n cynnwys dros 1,000 o ddelweddau o bobl yn cerdded, yn defnyddio olwynion ac yn beicio yng Nghymru.

Gall awdurdodau lleol ddefnyddio’r delweddau hyn i gynhyrchu eu hymgyrchoedd eu hunain.

Os nad oes gennych gyfrif, anfonwch e-bost at activetravel@tfw.wales.

Cliciwch yma

Teithio llesol ar waith

Rydyn ni’n casglu astudiaethau achos o ymgyrchoedd ac ymyriadau sy’n gweithio.

Rydym yn annog awdurdodau lleol i ddefnyddio’r enghreifftiau hyn i ysbrydoli a llywio eu hymgyrchoedd eu hunain.

Cliciwch yma

Templedi

Rydyn ni wedi llunio cyfres o dempledi i helpu awdurdodau lleol i roi eu hymgyrchoedd ar waith.

Maent yn cynnwys posteri A4, pethau i'w rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, datganiadau drafft i’r wasg a thaflenni.

Cliciwch yma

Digwyddiadau a dyddiadau

Rydym wedi llunio rhestr o ddigwyddiadau a dyddiadau teithio llesol i helpu gyda'ch gwaith hyrwyddo.

Cliciwch yma