Canllaw cyfryngau cymdeithasol
Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn declyn gwych i gynyddu'r nifer sy'n ymgymryd â dulliau teithio llesol. Gellir eu defnyddio i ddangos manteision beicio, cerdded ac olwynio ar gyfer teithiau bob dydd i gynulleidfa eang. Gallwch ei ddefnyddio i hyrwyddo seilwaith newydd ac ymgyrchoedd lleol. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd allweddol o ymgysylltu â phobl yn eich ardal leol.
I helpu, rydym wedi llunio'r awgrymiadau gwych hyn ar gyfer cynhyrchu cynnwys.
Dylanwadu a deall eich rôl o fewn y gofod digidol
Mae'n bwysig nodi'r hyn y mae eich cynnwys yn ceisio ei gyflawni. Mae creu cynllun cynnwys ar gyfer eich ymgyrch yn ogystal â chydweithio â'r tîm brand a marchnata yn ddefnyddiol.
Y meysydd allweddol i ganolbwyntio arnynt fydd:
- Negeseuon Allweddol
- Perthnasedd i’r gynulleidfa
- Amseru
- Amcanion - beth rydych chi am ei gyflawni?
Canolbwyntiwch ar fod yn glir ac yn gryno
Cofiwch mai sianel gwasanaeth i gwsmeriaid yw'r cyfryngau cymdeithasol. Gwnewch bostiadau yn glir ac yn gryno i ddal diddordeb pobl ac i osgoi ei golli.
Meddyliwch am y gynulleidfa ar y sianel cyfryngau cymdeithasol a'r amser y mae pobl yn ei gymryd i ddarllen a phrosesu negeseuon digidol. Yn aml mae angen creu sawl postiad tebyg ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn ymgysylltu â'ch cynulleidfa yn llawn oherwydd yr amser mae pobl yn treulio yn darllen postiadau.
Meddyliwch am eich cynulleidfa
Gyda bron i 80% o boblogaeth y DU ar gyfryngau cymdeithasol, mae targedu'r gynulleidfa gywir yn allweddol. Gallech fod yn awyddus i dargedu pobl yn seiliedig ar oedran, lleoliad a diddordebau. Rhaid deall demograffeg y platfform cyfryngau cymdeithasol a sicrhau bod hyn yn cyd-fynd â'ch cynulleidfa darged. Byddwch yn gallu adolygu hyn trwy edrych ar adran fewnwelediadau eich platfformau cyfryngau cymdeithasol. Yma, mae oedran, rhyw a lleoliad yn ddangosyddion allweddol.
Defnyddiwch hashnodau sy'n addas i'ch maes arbenigol er mwyn ymestyn eich cyrhaeddiad. Mae'n werth cynnwys dau i dri hashnod fesul postiad - ond osgowch fwy na hyn gan ei fod yn gallu ymddangos fel sbam. Rydym yn argymell arbrofi gyda hashnodau ar themâu beicio a cherdded cyffredinol (er enghraifft, #beicio neu #beicwyr, #cadwchynheini #cerdded) yn ogystal â hashnodau perthnasol sy'n benodol i leoliad (er enghraifft, #Abertawe #Caerdydd).
Tagiwch unigolion a sefydliadau perthnasol yn eich postiadau gan y gallant ddewis rhannu eich cynnwys. Os nad oes lle yn y trydariad ei hun oherwydd y terfyn ar nifer y cymeriadau, gallwch dagio hyd at ddeg cyfrif mewn delwedd atodedig. Ceisiwch beidio â gorlwytho cyfrifon eraill gyda thagiau - gwnewch hyn yn gynnil pan fydd cysylltiad a rennir.
Cadwch ddilynwyr ffyddlon trwy ymateb i sylwadau a dilynwch gyfrifon sy’n eich dilyn chi.
Wrth edrych ar eich mewnwelediadau cyfryngau cymdeithasol, mae'n well teilwra'ch postiadau ar gyfer y gynulleidfa rydych chi am ei chynnwys ac ennyn ei diddordeb. Er enghraifft, mae pobl iau yn fwy tebygol o ddefnyddio Instagram neu TikTok, tra bod pobl hŷn yn dueddol o ffafrio Facebook. Os ydych chi am ddal sylw gweithwyr proffesiynol, ystyriwch LinkedIn a X. Mae Threads wedi dod yn ddewis arall yn lle X. Ystyriwch BlueSky fel dewis arall yn lle X. Am ragor o fanylion am dargedu cynnwys, rydym yn awgrymu eich bod yn edrych ar yr adran mewnwelediadau a pherfformiad y platfform unigol.
Adeiladu cymuned ar-lein
Aildrydarwch gynnwys perthnasol gan bobl a sefydliadau eraill yn eich cymuned a'ch ardal leol. Ystyriwch a ellid defnyddio dull cyfryngau cymdeithasol ar y cyd gyda phartneriaid sy'n gweithio ar deithio llesol. Bydd hyn yn sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl i gyflwyno negeseuon allweddol i'ch cynulleidfa darged.
Os ydych chi ar Facebook, ymunwch â grwpiau diddordeb perthnasol sy'n weithgar yn eich ardal leol a'u cynnwys mewn sgwrs ynglŷn â neges eich ymgyrch. Fel arfer mae'n gweithio orau pan fyddwch chi'n gwneud hynny trwy'ch proffil personol, gan ei gadw'n naturiol ac osgoi tôn llais neu gynnwys sy’n rhy seiliedig ar werthu cynnyrch.
Dilynwch gyfrifon unigolion a sefydliadau perthnasol, gan gynnwys clybiau beicio lleol, grwpiau cerdded, gwleidyddion ac ymgyrchwyr o'r un anian.
Ymunwch â sgyrsiau perthnasol, yn enwedig y rhai a gychwynnwyd gan y cyfrifon uchod neu bostiadau sy'n cynnwys hashnodau perthnasol. Ymgysylltwch drwy hoffi, gwneud sylwadau a rhannu postiadau.
Ymateb i sylwadau
Ymatebwch i sylwadau a negeseuon uniongyrchol er mwyn adeiladu cymuned. Mae tôn y llais yn yr achos hwn yn bwysig gan y byddwch yn cynrychioli wyneb y sefydliad o ran y cyfryngau cymdeithasol.
Peidiwch ag anwybyddu beirniadaeth. Gall teithio llesol fod yn fater dadleuol felly ystyriwch sut y byddwch chi'n ymateb i feirniaid cyn cyhoeddi cynnwys. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn fforwm er mwyn mynd i'r afael â gwrthdaro a sylw anffafriol yn y wasg. Os ydych chi'n glir ac yn dryloyw o ran ymateb, yna gall hyn weithio er mantais i chi. Mae mynd i'r afael â mater a godir gan unigolyn yn gallu datrys y broblem a gall eraill weld eich ymateb rhagweithiol. Bydd hyn yn helpu i adeiladu barn gadarnhaol ar y sefydliad.
Ymgysylltu trwy ddefnyddio'r cynnwys cywir
Mae'r person cyffredin yn treulio dros ddwy awr y dydd ar gyfryngau cymdeithasol. Sut ydych chi'n eu hatal rhag sgrolio heibio’ch postiad chi? Dyma sut i fachu sylw a hybu ymgysylltiad.
Postiwch yn rheolaidd i adeiladu presenoldeb cyson ar-lein. Ar X, rydym yn argymell anelu at o leiaf un postiad y dydd tra ar Facebook mae cyhoeddi tair gwaith yr wythnos yn darged da.
Mae cysondeb yn allweddol: mae trafod pynciau llosg a bod ar gael yn dangos i'ch dilynwyr eich bod chi'n ddibynadwy.
Llwythwch ddelwedd neu fideo byr o ansawdd uchel gyda'ch postiad i gefnogi'ch neges. Ni all fideos ar X fod yn hirach na 2 funud 20 eiliad.
Gwnewch hi'n glir iawn sut y gall pobl gymryd camau gweithredu yn seiliedig ar eich postiad a chefnogi eich achos. Os yw'ch ymgyrch yn un parhaol, fe allech chi osod ‘pin’ ar bostiad cryf fel ei fod yn ymddangos ar dop eich proffil fel mai dyma'r postiad cyntaf fydd pobl yn ei gweld pan fyddant yn gweld eich cyfrif.
Sicrhewch eich bod yn cryfhau eich achos drwy; gynnwys ystadegau diddorol, tynnu sylw at straeon ac enghreifftiau bywyd go iawn, a rhannwch straeon ac erthyglau newyddion allanol, defnyddiwch y tactegau hyn yn effeithiol.
Sicrhewch eich bod yn defnyddio tôn llais cyson ar gyfer y platfform hwn bob amser. Mae'n syniad da ymgysylltu â'ch tîm brand a marchnata i sefydlu hyn a mireinio dros amser yn unol â’r ffordd yr ydych yn ymgysylltu â'r gynulleidfa.
Dangoswyd bod defnyddio delwedd gyda phostiad yn cynyddu ymgysylltiad. Anogwch bobl i rannu eu lluniau a'u fideos eu hunain o'u teithiau llesol. Gall cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr fod yn bwerus, gan ddangos bod gennych gefnogaeth ymhlith eich cynulleidfa. Gall helpu i leihau'r canfyddiad o risg sydd gan bobl o ran defnyddio dulliau teithio llesol, a thrwy hynny gynyddu nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y gweithgaredd.
Cysylltu â digwyddiadau cenedlaethol a byd-eang
Cysylltwch eich negeseuon hyrwyddo teithio llesol gyda digwyddiadau cenedlaethol neu leol. Gall hysbysebu wythnos beicio i'r gwaith neu fis cerdded i'r ysgol helpu i hybu teithio llesol yn eich ardal chi a’r nifer o ddilynwyr sydd gennych. Mae gennym restr o ddyddiadau teithio llesol y gallwch gysylltu cynnwys â nhw.
Weithiau mae'n werth creu hashnod ymgyrch unigryw gan fod hyn yn caniatáu i chi greu symudiad a monitro ymgysylltu. Cadwch yr hashnod yn syml ac yn ddarllenadwy a sicrhewch ei fod yn adlewyrchu eich neges. Enghraifft ddiweddar, lwyddiannus yw #ThisMachineFightsClimateChange gan Pedal on Parliament yn yr Alban cyn COP26.
Pethau i'w hystyried cyn cyhoeddi cynnwys.
Mae llawer o ffactorau yn penderfynu a fydd postiad cyfryngau cymdeithasol yn llwyddiannus, ond mae yna rai rheolau safonol i'w cofio hefyd. Dyma rai pethau olaf i'w hystyried:
- Darllenwch dros eich postiad bob tro cyn ei gyhoeddi, gan roi sylw i sillafu, gramadeg, cywirdeb a thôn.
- Byddwch yn garedig ac yn broffesiynol. Mae angen i ymgyrchwyr sefyll dros yr hyn maen nhw'n ei gredu a bod yn gadarn.
- Cadwch negeseuon yn barchus a cheisiwch osgoi dadlau - unwaith y bydd postiad yn fyw, mae’r postiad yno am byth.
- Cadwch negeseuon yn glir ac yn gryno. Sicrhewch fod eich cynnwys yn daclus ac yn hawdd ei ddarllen, gan ddefnyddio toriadau llinell a chyfeiriadau URL wedi’u cwtogi, gan osgoi ysgrifennu mewn priflythrennau ac acronymau.
Gall amserlennu'ch cynnwys ymlaen llaw arbed amser i chi.
Gall amserlennu'ch cynnwys ymlaen llaw arbed amser i chi a llenwi’ch tudalen cyfryngau cymdeithasol yn gyflym. Gallwch wneud hyn gyda'r platfformau cyfryngau cymdeithasol unigol Meta, X a LinkedIn. Efallai y byddwch am fuddsoddi mewn teclyn amserlennu a fydd yn eich helpu i adolygu sut berfformiodd eich cynnwys hefyd.
Cofiwch y Gymraeg
Cofiwch fod angen i bob math o gyfryngau sy'n ymwneud â’r cyhoedd fod ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Yn TrC rydym yn cadw at Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015, lle rydym yn arwain gyda'r Gymraeg ac yna’r Saesneg (neu os yw’r cynnwys i’w weld ochr yn ochr, bydd y Gymraeg ar y chwith a'r Saesneg ar y dde). Rydym wedi llunio rhai ymadroddion yn Gymraeg a Saesneg efallai yr hoffech eu defnyddio fel man cychwyn.
Dilynwch ganllawiau hygyrchedd.
Defnyddiwch ddisgrifiadau iaith a delweddau cynhwysol i sicrhau y gall cymaint o bobl â phosibl ymgysylltu â'ch cynnwys.
Siaradwch â'ch timau cyfathrebu a brandio.
Gallant gynnig cyngor i chi ar yr hyn sy'n gweithio'n lleol a sut i ddefnyddio’r brandio cywir. Gallant hefyd eich helpu i gysylltu ag ymgyrchoedd lleol eraill. Mae hefyd yn hanfodol alinio negeseuon â'r tîm brandio a marchnata i sicrhau bod yr hyn rydych chi'n ei gyfathrebu yn gweithio gyda'r negeseuon allweddol eraill sy'n dod o'r sefydliad. Mae hyn yn helpu i osgoi dryswch ac yn atgyfnerthu negeseuon pwysig y sefydliad. Gall gwybodaeth wahanol o wahanol rannau o'r sefydliad danseilio’r teimlad o gyfanrwydd.
Mewn maes gorlawn, mae'n bwysig sefyll allan ar dudalennau cartref cyfryngau cymdeithasol. Cymerwch yr awgrymiadau hyn fel awgrymiadau yn hytrach na rheolau caled a chyflym. Byddwch yn greadigol: gall pobl werthfawrogi gwreiddioldeb a chynnwys credadwy ar gyfryngau cymdeithasol. Gallai defnyddio ymgyrchoedd a phynciau presennol gan y sefydliad fel sail i'ch negeseuon fod o fudd i'r sefydliad cyfan.
Gwerthuswch yr hyn sy'n gweithio (a’r hyn sydd ddim yn gweithio...)
Gall offer dadansoddi ar-lein eich helpu i fesur faint o bobl sy'n gweld ac yn ymgysylltu â'ch postiadau. Gall hyn ganiatáu i chi drydar cynnwys a diwallu anghenion sydd wedi'u hanwybyddu er mwyn denu cynulleidfa ehangach. Gallwch hefyd gyrchu'r wybodaeth hon o adran fewnwelediadau y platfformau unigol. Mae hyn yn dangos i chi pa negeseuon allweddol a chynnwys sy'n gweithio i'ch cynulleidfa a phwy yw'ch eiriolwyr rhagorol.
Gair olaf ar ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol
Wrth ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, rydym yn awgrymu bod aelodau'r gymuned yn dilyn rhai canllawiau syml er mwyn cadw pethau'n gyfeillgar:
- Byddwch yn gwrtais ac yn barchus tuag at eraill.
- Peidiwch â chyhoeddi cynnwys sy'n wahaniaethol, hiliol, anweddus, sarhaus, aflonyddgar, sy’n ennyn casineb, sy’n fygythiol, yn gableddus neu’n ymosodol yn bersonol.
- Os ydych chi'n adrodd stori am rywun arall, gofynnwch i chi'ch hun yn gyntaf 'Ai fy stori i yw hon i’w hadrodd?' Peidiwch â datgelu manylion personol pobl eraill heb eu caniatâd penodol.
- Peidiwch â chyhoeddi hysbysebion ar gyfer cynhyrchion neu wasanaethau masnachol.
- Peidiwch â chamarwain pobl ynglŷn â phwy ydych chi na defnyddio ffugenwau.
- Peidiwch ag ychwanegu sylwadau at bostiad cyfryngau cymdeithasol sy'n amherthnasol i'r pwnc. Cymerwch ran yn y sgwrs yn hytrach na darlledu barn.
- Peidiwch â rhannu pethau ar frys. Darllenwch gynnwys cysylltiedig yn drylwyr neu gwyliwch fideo i'r diwedd fel eich bod chi'n gwybod yn union beth rydych chi'n ei rannu,mcyn i chi benderfynu a yw'n addas i'w rannu.
- Mae hefyd yn bwysig peidio â rhannu deunydd sy'n perthyn i rywun arall ac nad yw ar gael i chi ei ddefnyddio oherwydd hawlfraint. Gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn gofyn am ganiatâd deiliad yr hawlfraint cyn rhannu neu ddefnyddio cynnwys, os nad yw wedi'i roi eisoes.
- Peidiwch â phostio unrhyw beth a allai fod yn enllibus neu'n ddifrïol.